Sarah Thomas.—Yn meddu tystiolaeth amlwg o'i hachubiaeth trwy Grist, ond mewn llawer ymladdfa â phechod. Ann Dafydd.-Dan y ddeddf.
Ann Jenkin.—Dan argyhoeddiad.
Elinor Thomas.—Dan argyhoeddiadau, ond yn bur dywyll.
Mae enw John Harris, sir Benfro, yn lled adnabyddus i Fethodistiaid De a Gogledd, fel gŵr profedig gan Dduw, yn weithiwr difefl, ac yn iawn gyfranu gair y gwirionedd. Yr ydwyf yn cael ei fod ef yn un o'r rhai a arolygai ddosbarth o sir Benfro mor foreu a'r fl. 1743; ac felly nid oedd ond 22 oed ar y pryd. Troes John Harris allan yn un o'r gwŷr enwocaf a mwyaf defnyddiol yn y wlad hon, fel y cawn eto sylwi yn y lle priodol; ac ymddengys oddiwrth y llythyr a ganlyn, yr hwn a ysgrifenwyd ganddo yn y fl. 1743, gan ei gyfeirio at y Peirch. Mr. Rowlands a Mr. Davies, ei fod o ddifrif gyda'r gwaith, er ieuanged ydoedd: "Anwyl a charedig fugeiliaid,—O'r diwedd, fe'm cymhellir fi, o gariad at yr anwyl Immanuel, i'ch hysbysu pa fodd y mae wedi bod gyda fi er ein cymdeithasfa fisol ddiweddaf; pryd y rhoddasoch arnaf ofal yr amrywiol gymdeithasau a enwir isod.[1] Pan y gofynwyd i mi y pryd hyny am fy rhyddhad, mi a atebais yn ol a ddysgwyliwyd; ond disgynodd arnaf yn ebrwydd, pa fodd y gallwn ryfygu sefyll i fyny fel clorian i bwyso eneidiau, a minau yn blentyn mewn profiad. Meddyliais ynof fy hun, mai llai niweidiol i enaid a fyddai i ryw amryfusedd gael ei wneyd wrth esbonio, nag a fyddai barnu ar gam, rhwng cnawd ac ysbryd, a gwir a gau gariad. Pa fodd bynag, fe fu y gair "RHYDD," yn fy ateb i chwi, yn gadwen i fy rhwymo i edrych pa beth a gymerais mewn llaw. Syrthiodd dychryn ar fy enaid, rhag i'm fod nid yn unig yn anffyddlawn i'r anwyl Oen, ond hefyd yn dristwch i fy hoff athrawon, ac hefyd yn waradwydd i ffyrdd a phlant Duw. Yr oedd fy maich mor annyoddefol, fel yr oedd corff a meddwl ymron a chael eu llethu dano. Bum mewn ing meddwl am gryn amser. Meddyliwn fwy am roddi fy nghyfrif i'r gymdeithasfa, yr hon oedd yn agosâu, nag am y frawdle fawr ei hun! Ymroddais i anfon at y cymdeithasau i ymgynull ar amser penodol, ac mewn trefn, pryd yr ymddangoswn inau fel gŵr mewn awdurdod! Ar y 13eg o'r mis hwn, cyfarfyddais ag ŵyn Prendergast ac Ismason yn Phonton (25 o rifedi); pryd yr agorwyd ffenestri y nefoedd, ac y tywalltwyd arnom wlith cariad Duw, nes oeddym ar golli a boddi yn y môr mawr, ac y rhoddwyd i minau deimlo doethineb, gwybodaeth, a deall, gostyngeiddrwydd, a chydymdeimlad â fy ŵyn anwyl, yn llifo i fy nghalon, fel y gallwn ddywedyd, "Teyrnas Dduw sydd o fewn i mi," ac hefyd, mai "Duw, cariad yw." Yr oedd y ddeadell fel asgwrn o'm hasgwrn i, a chnawd o'm cnawd i. Canasom ag un anadl ganiad newydd.
"Y 14eg o'r mis yn LLAWHADEN. Nid oedd ond 11 o rifedi; ond yr oedd fy serch yn parhau ac yn chwanegu. Nid digon oedd penlinio mewn gweddi, syrthiodd dau ar eu hwynebau ar y llawr, a phrin y medrent gyfodi.
- ↑ Gosodwyd gofal y cymdeithasau yn Llawhaden, Prendergast, Jefferson, Carew, Llandystilio, Gelli-dawel, &c., ar John Harris mewn cymdeithasfa fisol a gynaliwyd yn Tŷ-hir (Longhouse), Mehefin 8, 1743.