Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/182

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A thra yr oeddwn yn gosod gariad Duw o'u blaen, ni allent aros yn yr ystafell, ond aethant allan o un i un, gan ymdreiglo yn y llwch, a gwaeddi, "Cân di, Michael, yr ydym ni yn methu."

"Y 15eg o'r mis, yn JEFFERSON. Yr oedd tŵr Babel yma yn ysgwyd, ac yn gogwyddo i gwympo yn ddirgel ac ar gyhoedd. Yr oedd sain hyfryd rhad ras yn mhob genau, a phob calon yn llawn o gariad.

"Y 18fed o'r mis, yn CAREW (Rhif. 25). Ar ol cynghori yn gyhoeddus, datguddiwyd i mi nad oedd dim moddion yn gofidio y diafol yn fwy na'r cyfarfodydd eglwysig. Rhoddid prawf o hyny trwy ei offerynau, sef y rhai cnawdol yn mysg pob enwad; caseir hwy ganddynt yn fwy na dim. Er fod y drws yn nghauad (yn y gymdeithas neillduol) ar y dechreu; eto, yr anwyl Oen a ddaeth, ac a safodd yn y canol, gan ddywedyd, "Tangnefedd i chwi;" yna'r ddeadell a doddwyd mewn dagrau, ac a lanwyd o gariad Duw. Gwaeddodd un allan, "Gresyn! gresyn! y mae yn rhedeg drosodd! Na fydd hannerog, ond llanwer eraill hefyd !" A thorodd y lleill allan i lefain, 'Bendigedig fyddo Duw am Iesu Grist.'

"Y 19eg o'r mis, yn y MYNYDD, ger Narberth (Rhif. 9). Mwynhasom gymundeb hyfryd â'r anwyl Immanuel. O herwydd gwlybaniaeth yr hin, ac amgylchiadau eraill, yr oedd un-ar-ddeg o'r aelodau yn absenol, oddiar dybied na ddaethwn atynt.

"Y 20ed o'r mis, yn GELLI-DAWEL (Rhif. 15). O'r dechreu hyd yma, ni chymerodd yr anwyl Oen ei wên oddiwrthyf, ond a'm dyddanodd megys ar ei lin, nes fy llenwi i, a'r ddeadell hefyd, o gariad, a pheri i ni lefain ar lu y nef, "O chwi wyryfon gogoneddus! cenwch, oblegid rhyddhawyd chwi oddiwrth y clai. Treblwch eich cân nes y deuwn ninau atoch!"

"Yn y modd yma, anwyl frodyr, fel y galwaf chwi, y'm gwnaethpwyd i yn gyfranog o'ch gofal a'ch pryder yn eich gwaith mawr. Tybiwyf fy mod yn cyd-ddwyn y baich gyda chwi. A chan fy mod yn credu fod ein hanwyl archoffeiriad yn eich cynorthwyo, ac mai efe yw Awdwr, yr wyf yn coelio y bydd hefyd yn Berffeithydd y gwaith; er y gall Satan a'i offerynau ddweyd fel Tobiah wrth Sanbalat am waith Nehemiah yn adeiladu muriau Jerusalem, 'Ped elai lwynog i fyny, efe a fwriai i lawr eu mur cerig hwynt.' Ewch yn mlaen yn wir y mae gan Oen Duw law yn y gwaith y mae a wneloch chwi ag ef; a chwithau a gewch fedi o ffrwyth eich llafur, &c. Hyn oddiwrth yr annheilyngaf o bawb ag sydd yn ceisio gwyneb yr Oen.—JOHN HARRIS."

Mae amryw gyfrifon fel yr un uchod yn gysylltiedig â llythyr o eiddo yr arolygwr, yn rhoddi desgrifiad nid yn unig o agwedd ysbrydol yr aelodau, ond hefyd o'r wedd gyffredinol ag oedd ar yr achos, ac o'r mwynhad a geid yn fynych yn y cyfarfodydd neillduol. Anfonai un William Richard, arolygwr ar y dosbarth o Lwyn-dafydd yn sir Aberteifi, hyd Dŷ Ddewi yn sir Benfro, ei gyfrif i mewn i'r gymdeithasfa, dyddiedig Medi 15, 1743, fel hyn:

"Yn y gymdeithas a gynelir yn Llwyn-dafydd, yr ydym gan amlaf yn mwynhau llawer o'r presenoldeb dwyfol; prin y deuwn un amser ynghyd,