Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/185

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cael ei gyflwyno i'r gymdeithasfa, yr hon a gynaliwyd yn Watford y pryd hwnw. Nid oedd yn y gymdeithasfa hon yr un gŵr urddedig heblaw Mr. Whitfield, a Mr. Henry Davies, gweinidog ymneillduol. Yr achos o absenoldeb D. Rowlands, William Williams, a Howel Davies, oedd eu lluddias gan erwinder y tywydd, ac i'w hanifeiliaid fethu a myned rhagddynt. Yr arolygwyr yn bresenol oeddynt,—Mri. Howel Harris, Herbert Jenkins, James Beaumont, Morgan John Lewis, Thomas Williams, William John, Thomas Lewis, Richard Tibbot, John Richard, a Thomas Price. Gan nad oes yr un adroddiad o Wynedd ond adroddiad Richard Tibbot, ni allaf ymattal heb ei osod gerbron y darllenydd yn gyflawn, fel y gweler sefyllfa Methodistiaeth yn y wlad hóno ar y pryd. Dyddiedig Ionawr 1743:

"Mae gwaith Duw yn gyffredinol yn myned rhagddo yn lled dda yn mysg y cymdeithasau. Mae rhai (o'r crefyddwyr) dan fesur o argyhoeddiadau, ac yn cael eu blino yn fynych gan demtasiynau; rhwystrau oddiallan, weithiau, oddiwrth ddynion; bryd arall oddifewn, oddiwrth bicellau Satan; a phryd arall oddiwrth wrthgiliadau rhai eraill, y rhai a ddygant warth ar ffyrdd Duw, ac a osodant dramgwydd o flaen yr ŵyn gweiniaid i barhau; ac weithiau hefyd trwy ddadleuon croesion, &c. Ond pa foddion bynag a ddefnyddia y diafol, Crist sydd yn ennill y dydd; a thrwy brofiad eu ffydd, y mae ei ŵyn yn cael eu puro, a'u cadarnhau yn y gwirionedd.

"Cymdeithas LLANBRYNMAIR. Nid oes yma ond chwech o aelodau; sef, "Wiliam Hughes, a Richard Howel, y ddau yn credu yn wanaidd fod Duw wedi eu caru, a'u bod wedi eu cyfiawnhau trwy Grist; ond y mae tywyllwch a llygredigaeth yn aflonyddu arnynt gymaint, fel nad oes iddynt wir dangnefedd yn arosol.

"William Howel, Humphrey Dafydd, Edward Howel, a Richard Humphrey, sydd yn lled dywyll am eu cyfiawnhad; ond y mae eu heneidiau yn newynu ac yn sychedu ar ol Duw, fel na allant orphwys nes (yn brofiadol) eu cyfiawnhau. Mae amryw yn dyfod i wrando, a rhai o honynt, gobeithiwyf, yn gywir yn ceisio yr Arglwydd.

"Cymdeithas LLANFAIR. Mae yma lawer yn dyfod i wrando, ac amryw dan radd o argyhoeddiadau, ond nid oes eto ond ychydig o drefn yn eu plith. Ymgynullant deirgwaith neu bedair yn yr wythnos; ac y mae rhai yn selog iawn gweddia chwech neu wyth, hwyrach, cyn codi oddiar eu gliniau. Mae genym le ac achos i gredu fod gan Dduw waith i'w wneyd yn eu mysg. Fe fu dan arholiad: Dafydd Powel ac Evan Dafydd, y ddau hyn a rodiant mewn cariad a sel, ac ydynt yn gysurus iawn. Ond am Edward Gittins, Morris Watkin, Thomas Dafydd, a Rhys Evan, lled dywyll ydynt, ond y mae ganddynt awydd gwresog: milwyr ieuainc ydynt eto, heb wybod llawer am danynt eu hunain, nac am eu gelynion ysbrydol.

"Nid oes gan Mari Powel, Ann Jehu, Margaret Dafydd, Ann Dafydd, Elin Rhys, a Rachel Mood, chwaith, ddim adnabyddiaeth neillduol am eu cyfiawnhad; ond y mae yn felys arnynt weithiau yn y moddion, gan ddymuno gwasgu yn mlaen.