Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/188

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drysau yn cael eu hagor iddo, a rhai eneidiau yn cael eu hargyhoeddi drwy ei athrawiaeth. Mae rhai lleoedd yn y wlad y derbynir y gair yn awyddus ynddynt, lle nad oes cymdeithasau eglwysig, a gobeithio yr wyf fod gan Dduw waith i'w ddwyn yn mlaen rywbryd neu gilydd yn ein mysg. Nid oes genyf fwy i'w ddywedyd yn awr, ond dymuno ar fod achos plant Duw yn agos at eich calonau, hyd yn nod y rhai hyny sydd mewn conglau tywyll; ac ar i chwi wneyd a alloch, trwy weddi ac athrawiaeth, i gryfhau y gweiniaid, a phrysuro i ddyfod i'n plith."

Fe allai mai digon yr hyn a osodwyd i lawr i wasanaethu fel enghraifft o'r dull y dygid yr achos Methodistaidd yn mlaen yn yr amser bore hwnw. Diamheu y bydd i'r olwg a roddir ar bethau beri i rai wawdio, i eraill wenu, ac i bawb synu. Fe dybia rhai fod yma lawer iawn o ysbryd gor-grefyddol, ac mai truth rhagrithiol gan mwyaf oedd eu profiadau, ac mai ofergoeledd disylwedd oedd eu crefydd ymron i gyd. Cyfyd gwên ar wynebau eraill, wrth ddarllen eu hanes, at eu plentynrwydd. Tybiant mai peth plentynaidd oedd rhanu y cymdeithasau bychain fel y gwneid, y gwŷr a'r gwragedd, gwŷr ieuainc a gwyryfon, priod a gweddw, pob dosbarth wrtho ei hun. Tybiant hefyd o bosibl fod llawer o'r dysgyblion hyn, er iddynt fod yn gywir eu hamcan, dan ddylanwad eu teimladau i raddau mawr. Yr oedd syniadau o'r fath hyn yn ymgynyg i feddyliau rhai o'r brodyr yn eu plith eu hunain, y pryd hwnw. Anfonodd un arolygwr lythyr i'r gymdeithasfa, yn cynwys syniadau gwrthwynebol i'r drefn osodedig. Dywedai fod y dosbarthiad o briod a gweddw yn babaidd, a bod cofrestru enw, ac ymofyn i ansawdd ysbryd pob un, yn anysgrythyrol; ac hefyd, fod nodi dosbarth o wlad i ryw un i'w arolygu, yn lle gadael pob un at ei ryddid i fyned lle y meddylia fod yr Arglwydd yn ei alw, yn gamsyniol. Nid oes amheuaeth nad trefn a gosodiad dynol oedd hyn; ar yr un pryd, dichon fod iddo lawer o gymhwysder a doethineb i gyfarfod ag amgylchiadau y wlad a'r crefyddwyr eu hunain yn y tymhor bore hwnw. A sicr hefyd ydoedd, mai anweddus a rhyfygus mewn rhyw un brawd, neu ddau, oedd sefyll yn erbyn yr hyn y cytunasai yr holl frodyr arno; gan nad oedd y gosodiad, wedi y cwbl, yn cyffwrdd ond ag amgylchiadau crefydd, ac nid ei phethau hanfodol. Ac os dymunol y buasai neb yn parhau i feddwl a fuasai newidiad, rhesymol a fuasai i'r cyfryw ddwyn y mater i drafodaeth deg yn y lle priodol, ac mewn ysbryd brawdol. Peth gwerthfawr iawn, yn ddiau, i'r achos yn ei gychwyniad, pryd yr oedd anhawsderau mor fawrion oddiallan, oedd fod undeb a chydweithrediad perffaith oddimewn. Buasai terfysg ac aflywodraeth oddifewn yn gwneyd annhraethol fwy o ddifrod na'r holl erlidigaethau tanllyd oddiallan; ac i'r dyben i symud neu attal y drwg hwn, penderfynwyd ar i Mr. Whitfield anfon llythyr o atebiad i'r gwrthddadleuon. Hyn hefyd a wnaeth; ac ni a gawn fod y brawd a lithiwyd fel hyn ychydig o'r neilldu, wedi cael ei lwyr adferu; a chawn brawf o hyny yn y dyfyniad canlynol a anfonodd i'r gymdeithasfa ar ol ei adferiad:

"Anwyl Frodyr,-Blin ydyw genyf ddarfod i mi sefyll yn gyndyn yn