Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/189

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eich erbyn cyhyd; ond yn awr, trwy ras, mi wn mai un o'r breintiau mwyaf ydyw cael dyfod ynghyd mewn ffordd o gydymgynghoriad gydag achos yr efengyl. A chredu yr wyf na ŵyr neb yn iawn, ond a gafodd brofiad, pa mor ddichellgar ydyw yr hen sarff, fel y bu gyda fi yn yr amgylchiad hwn; ac mor gyflawn oeddwn yn meddiant y diafol, fel y tybiais yn ddiau fod yn rhaid i chwi oll ymostwng i fy marn i. Ond yr ydwyf yn ddiau yn credu fod y diafol yn hyn wedi twyllo ei hun, bendigedig fyddo Duw! yr hwn a ddwg ddaioni allan o ddrwg, oblegid fe'm dysgwyd gan Dduw, fel yr wyf yn credu, i beidio byth eto a meddwl fod mwy o oleuni genyf nag sydd gan holl blant Duw ; ac heblaw hyny, fe fu yr amgylchiad yn foddion cynorthwyol i mi i sefyll yn erbyn yr un a'r unrhyw ysbryd yn rhai o'r brodyr yn Llansamled yn ddiweddar. Oddiwrth eich annheilwng frawd, "JOHN RICHARD." Ond er caniatau fod yma radd o blentynrwydd a gorfrydedd (enthusiasm) yn ymddangos yn y bobl a'u blaenoriaid, eto mae y weledigaeth a bortreiadir gerbron yn peri i ni sefyll yn syn a rhyfeddu. Parod ydym i ofyn, Pa fodd yr oedd yr holl bregethwyr lleŷgaidd yn ymddarostwng mor llwyr i'r gweinidogion? Pa fodd yr oedd y cynghorwyr yn ymddarostwng mor dawel i'w harolygwyr? Pa fodd yr oedd yr arolygwyr hyn yn cael eu cynal? A pha fodd yr oedd y fath gysonedd a dyfalwch ynddynt i gydymgyfarfod â'u gilydd mor fynych?

Pan yr ystyriom hefyd nad oedd yr un o'r gwŷr blaenaf a gyfansoddent y gymdeithasfa ddim tros 28 neu 29 mlwydd oed, a lluaws o honynt yn llawer ieuangach na hyny, y mae y cydweithrediad, a'r ymddarostyngiad i'w gilydd, yn ymddangos yn fwy syn fyth. Pwy ond yr Ysbryd Glân a allasai lywodraethu y fath rai, ac yn y fath fodd? Mae cario hen drefniadau yn mlaen, y rhai y bydd dynion wedi eu magu yn yr ymarferiad â hwy, a'r rhai y bydd amser a henafiaeth wedi eu coroni eisoes, yn orchwyl digon anhawdd ei gyflawni dan rai amgylchiadau: ond y mae gosod i fyny drefniadau newyddion gan ychydig o ddynion ieuainc o'r fath ag a nodwyd uchod-trefniadau nad oedd y wlad erioed wedi clywed am eu cyffelyb; ac yn gofyn am lawer o hunan-ymwadiad a llafur diflino i'w gosod mewn gweithrediad,—a dysgwyl i ugeiniau a channoedd o ddynion yn mhob cwr o'r wlad ymostwng iddynt, yn anturiaeth bwysig iawn, a dweyd y lleiaf. Edryched y dyn bydol ei syniadau ar y swp bychan acw o ddynion dan ddeg-ar-hugain oed, yn mhalas Watford, yn rhoddi eu penau ynghyd i ffurfio peiriandrefn i osod ar waith ugeiniau o ddynion, nad oedd na gwybodaeth ganddynt, na choethder arnynt, ond a roes yr efengyl;—heb fedru addaw dim i lawer o honynt ond llafur, gwarth, ac erlid, i fyned allan yn erbyn syniadau ac arferion y werin, ac yn erbyn rhagfarn a dylanwad y mawrion, gan ddysgwyl i'r dynion anghoethedig hyn gymeryd eu llywodraethu a'u trefnu gan y nifer bychan hwnw, a chydweithredu â'u gilydd mewn undeb a chariad;-a pha beth a feddylia efe am danynt? pa fath a fydd ei ddarogan am eu llwyddiant? Oni ddywed mai penboethni sydd wedi eu dal? ac oni ddysgwyl mai mewn penbleth flin