Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/207

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

flynyddoedd yn ddiffrwyth, ac a welsai gynifer o'r ffyddloniaid yn colli o'i gynulleidfa o bryd i bryd, a pharod oedd ei ysbryd i lwfrhau. Ad-dalodd yr ymweliad grasol hwn yn gyflawn iddo am ei holl lafur; canys gwelodd bechaduriaid, wrth yr ugeiniau a'r cannoedd, yn troi eu hwynebau at Geidwad dyn, ac yn ffoi am eu bywyd i gysgod angau y groes. Hauasai yr had mewn gobaith, a chyda diwydrwydd mawr, am lawer blwyddyn, ond nid ymddangosai y ffrwyth yn awr, er hyny, wele y cawodydd yn disgyn, yr had yn egino megys ar unwaith, gan orchuddio y ddaear â ffrwyth.

Yn yr un modd, ac ar yr un tymhor, ond mewn gwahanol raddau, yr ymwelodd Ysbryd Duw ag amrywiol blwyfydd eraill yn Scotland, nes oedd y "diffeithwch yn gorfoleddu ac yn blodeuo fel y rhosyn."

III. AMERICA.—Er fod rhyw arwyddion rhagbarotoawl wedi ymddangos flwyddyn neu ddwy yn ol; eto, yn y fl. 1735 y cafodd Northampton, y dref yn yr hon yr oedd yr enwog Jonathan Edwards yn gweini ac yn cyfaneddu, ymweliad neillduol oddiwrth yr Arglwydd, trwy gawodydd bendithfawr o'i Ysbryd. Am yr ymweliad hwn, ysgrifena y gŵr parchedig ei hun fel hyn:—"Gwnaeth gwaith Duw, fel yr aeth rhagddo, ac y lluosogodd nifer y gwir saint, yn fuan newidiad ardderchog yn y dref, nes yr oedd yn y gwanwyn a'r haf canlynol fel pe buasai yn llawn o bresenoldeb Duw; ni fu erioed mor llawn o gariad, ac o lawenydd, nac ychwaith o drallod, ag oedd y pryd hyny. Yr oedd arwyddion nodedig o bresenoldeb Duw ymron yn mhob tŷ. Yr oedd yn amser o lawenydd mewn teuluoedd, am ddyfod iachawdwriaeth iddynt; rhieni a lawenhaent dros eu plant, fel rhai newydd-eni; a gwŷr dros eu gwragedd, a gwragedd dros eu gwŷr. Gwelid mynediadau Duw, y pryd hyny, yn ei gysegr, cyfrifid dydd Duw yn hyfrydwch, a phebyll Duw yn hawddgar."

Pan y cychwynodd yr adfywiad hwn yn Northampton, ac i'r son am dano gyrhaedd cymydogaethau eraill, ni wyddai y preswylwyr pa beth a allai efe fod. Yr oedd llawer yn ei wawdio, a thybiai eraill mai math o anhwyl corfforol oedd yr achos o hono. Ond fe sylwai dyeithriaid a ddeuent i'r dref, ac eraill a ddeuent i wrando y darlithiau, fod gwedd newydd ar y bobl, ac ar eu hagweddau; a llawer o'r cyfryw ymwelwyr a ddaliwyd gan yr un afiechyd, os afiechyd ydoedd, ac aethant i'w cartrefi gyda chalonau archolledig; a chyn hir o amser, ymddangosodd cyffelyb adfywiad mewn manau eraill hefyd. Ymledaenodd yr un ymweliad grasol i laweroedd o drefydd, pentrefydd, ac ardaloedd y wlad hóno, yr hyn a barodd wedd newydd ar grefydd, a chwanegiad mawr iawn at yr eglwysi.

Effeithiodd yr ymweliad hwn ar bob math o ddynion, bucheddol ac anfucheddol, cyfoethog a thlawd, dysgedig a diddysg ynghyd. Effeithiodd art deuluoedd anrhydeddusaf y dref gymaint ag ar neb arall. Mewn amgylchiadau eraill o'r un natur, y rhai ieuainc ymron yn unig a fyddent wrthddrychau yr ymweliad; ond yma yr oedd yr hen ŵr, a'r plentyn bychan hefyd, yn ei brofi. Cafwyd allan fod o leiaf dri chant o eneidiau wedi eu