Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/209

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

crefyddol, ac am dywalltiadau o Ysbryd Duw, ag a fuasai y ganrif o'i blaen am ymweliadau ofnadwy yn rhagluniaeth Duw. Trwy Gymru, Lloegr, Scotland, a pharthau o America, disgynai y gwlaw graslawn yn gawodydd bendithiol, nes oedd yr anialwch yn llawenychu, ac yn blodeuo fel y rhosyn. Yn lle y pla yn dyfetha, a'r cleddyf yn difrodi, gras oedd yn teyrnasu yn achubiaeth pechaduriaid colledig yn lle galar, gruddfan, a gwae, a dynion yn llewygu gan ofn, cawn fod llais cân a moliant yn mhyrth merch Seion. Esgorodd tywyll-nos y barnau ar wawr y diwygiad. Dywedwyd wrth yr angel ag oedd yn dinystrio, "Attal dy law, digon yw." Rhoes yr Arglwydd brofion diymwad unwaith at eilwaith yn ystod 1600, mai eiddo Duw yw cadernid. Ond yn ystod y ganrif ddylynol, seiniodd tant arall ei hyfryd sain, "Trugaredd hefyd sydd eiddot ti." Estynodd Duw ei fraich allan i achub. Yr oedd wedi bod yn hogi ei gleddyf dysglaer, a'i law wedi ymaflyd mewn barn:-yr oedd eisoes wedi dial ar ei elynion, ac wedi talu y pwyth i'w gaseion: ond bellach, efe a roddodd heibio ei waith, sef ei ddyeithrwaith, ac a gyfododd i drugarhau wrth Seion. Efe a rwygodd y nefoedd ac a ddisgynodd, a'r mynyddoedd a doddasant o'i flaen. Gorchymynodd i Haul cyfiawnder godi, â meddyginiaeth yn ei esgyll;-ciliodd y tarth afiach a'r cymylau duon a orweddent yn gaddug tew ar yr holl wlad. Torodd gwanwyn hyfryd ar y ddaear; y gauaf a aethai heibio; y gwlaw a basiodd; daeth yr amser i'r adar ganu; a chlybuwyd llais y ddurtur yn y tir. Cynhyrfodd uffern, a chyffrôdd y fyddin wrthwynebol yn aruthr; ond yr oedd llawenydd yn ngwydd angylion Duw; yr oedd pechaduriaid colledig yn cael eu gollwng i ryddid cyfreithlawn yr efengyl; a Mab Duw, fel bugail da, yn dwyn y rhai cyfrgolledig adref ar ei ysgwyddau ei hun yn llawen.

ADFYFYRIADAU AR GYCHWYNIAD METHODISTIAETH.

Yr ydym bellach wedi cymeryd bras-olwg ar gychwyniad Methodistiaeth mewn De a Gogledd; a digon, fe allai, ar hyn o bryd ydyw yr hyn a fynegwyd, i roddi hysbysiad i'r ymofyngar am ysgogiadau blaenaf y diwygiad hwn. Ni a gawn eto alw sylw y darllenydd gydá graddau mwy o fanyldra at fynediad y diwygiad yn mlaen; a rhoddir achlysur i ni y pryd hwnw i olrhain camrau ei gerddediad yn mhob sir yn y dywysogaeth, ac mewn rhai parthau o Loegr, can belled ag y cynysgaethir ni â defnyddiau. Oddiar yr olwg a roddwyd, fe wel y darllenydd fod y diwygiad yn dra dyledus i'r Parch. Griffith Jones, Llanddowror, nid yn unig am iddo fel offeryn roddi ysgogiad i redfa rhyfeddol Daniel Rowlands, ond hefyd am y bu sefydliad yr ysgolion rhad o dan ei olygiad yn ngwahanol barthau o Gymru, yn amaethiad ac yn swcr rhyfeddol i fynediad y diwygiad yn mlaen. Nid oedd ganddo ef un dychymyg, wrth gymhwyso athrawon, a sefydlu ysgolion; wrth ysgrifenu llyfrau, a lledaenu Beiblau,-pa faint o ddefnydd a fyddai hyny i achos yr efengyl: a llai fyth a ddychymygai pa gychwyniad a maeth a roddai hyny i gyfundeb newydd o Gristionogion yn Nghymru. Ond heb yn ddysgwyl iddo, efe a balmantodd y ffordd i Fethodistiaeth ddod i mewn. Efe a fu yn