offeryn i gyffroi Rowlands o Langeitho fel y gwelsom, pan ydoedd eto yn aros mewn difrawder anianol. Yr oedd lluaws mawr o'r ysgolfeistri ag oeddynt dan ei ofal, ac wedi eu cymhwyso i fesur mawr trwy ei addysgiadau personol ei hun, yn barod, erbyn y rhoddid cyfleusdra iddynt, i arfer eu dawn, ac i gynghori eu cyd-ddynion yn ngwahanol barthau y wlad, a thrwy y rhan fwyaf o siroedd Cymru. Rhyfeddol yr ymddengys y cyd-amseriad a welir yn llafur Harris yn Nhrefeca, Rowlands yn Llangeitho, a Howel Davies yn sir Benfro; pob un wedi ei gyffro gan yr un Ysbryd, yn pregethu yr un athrawiaeth, ac yn cael eu bendithio â chyffelyb raddau o lwyddiant. Gwelwn y gwasanaeth mawr a fu gweinidogaeth deithiol Harris i holl Gymru, ac yn wir i lawer man yn Lloegr; ac mor ad-dyniadol ac adfywiol ydoedd gweinidogaeth fwy sefydlog Rowlands yn Llangeitho. Ato ef y cyrchai holl Gymru megys, gan faint y swyn oedd yn ei weinidogaeth; rhyfeddol yr adnewyddiad a dderbyniai y gynulleidfa gorfforedig trwyddo; ac annhraethadwy y cyffro a roddid i'r wlad yn mhob cyfeiriad hyd yn mhell, trwy ei wrandawyr, ar, ac wrth, eu dychweliad i'w cartrefleoedd.
Cawsom olwg ar wedd anghrefyddol Gwynedd pan yr ymwelai Lewis Rees gyntaf â siroedd Meirion a Chaernarfon; gwelsom hefyd y modd yr anrhydeddwyd y gŵr duwiol hwn i fod yn offeryn i ddwyn Harris i Wynedd y tro cyntaf, a Jenkin Morgan i Leyn. Teimlwn barch iddo yn arbenig am ei ysbryd anmhleidiol, gan y dangosai fwy o awyddfryd i eangu teyrnas Crist, ac achub eneidiau dynion, nag am chwanegu ei blaid ei hun. Anmhosibl ydyw peidio canmol yr ysbryd aiddgar, llafurus, ac egniol a feddai y diwygwyr cyntaf, y rhai a ymwadent gymaint â hwy eu hunain, gan ymddyosg mor llwyr oddiwrth esmwythyd ac elw y byd hwn, ac ymroddi mor hollol a ffyddloni wasanaeth yr efengyl; a hyny mewn amser nad oedd lle iddynt ddysgwyl ond y gwawd a'r golled. Gorfyddir ni i feddwl fod ysbryd eu gwaith wedi eu llwyr feddiannu. Duw a osododd angenrhaid arnynt. Cauodd ei air o fewn eu calonau, fel tân o fewn eu hesgyrn, ac ni allent ymattal. Rhoes iddynt wroldeb meddwl, grym corff, ac arddeliad gweinidogaethol, ag a'u gwnai yn anorchfygol. Cyniweirient Dde a Gogledd, a gwybodaeth a amlhawyd. Nid oedd nifer y dysgyblion am rai blynyddoedd ond ychydig, a'u hamgylchiadau ond isel, wrth edrych ar bob ardal wrthi ei hun, er fod eu nifer corfforedig yn gryn lawer. Yr oedd eu gelynion, ar y llaw arall, yn aml, ac yn meddu yr holl ddylanwad; yr oeddynt hefyd wedi gosod eu bryd ar lethu y diwygiad; eto ni a gawn fod rhyw amddiffyniad rhyfeddol ar y bobl druain dlodion" hyn. Mynodd Duw ei ogoneddu ar lawer Pharaoh yn Nghymru; ac er gwaethaf gwŷr llên a gwŷr lleŷg, gwenodd ar ymdrechiadau ei bobl, gan eu bendithio mewn modd ac i raddau annghyffredin, "megys y gwelir heddyw."
Anhawdd iawn ydyw darllen hanes cychwyniad y diwygiad hwn, heb ganfod yr ysbryd rhagorol a feddiannai y proffeswyr cyntaf. Mae hyn yn fwy syn pan ystyriom leied a fu eu manteision,-leied o lyfrau oeddynt yn yr iaith, anamled oedd rhif y pregethwyr, a graddau gwybodaeth a thalent