llawer o honynt. Ymddengys fod eu mwynhad o foddion yn cyfateb i'w hanamledd; a bod eu gwroldeb a'u cysondeb yn cyfateb i'w peryglon; a'u cysuron a'u llawenydd yn gyfartal i'r groes a ddygent, a'r erlidigaethau a ddyoddefent. Anmhosibl i bob meddwl ystyriol beidio canfod fod mwy o ddylanwad Ysbryd Duw yn yr adfywiad hwn, nag o fedrusrwydd dynol, a mwy o arolygiad ac amddiffyniad rhagluniaeth y nef, nag oedd o effaith un beir iandrefn ddaearol. Troes y diwygwyr allan dan ddylanwad eiddigedd dros achubiaeth dynion. Canfyddent y wlad yn gorwedd yn ddiofal mewn drygioni, a llosgent gan awyddfryd angherddol i'w deffroi. Teimlent eu rhwymedigaethau o hyny yn fwy, am y gwelent fod bugeiliaid y praidd eu hunain yn anffyddlawn, ac athrawon y bobl yn peri iddynt gyfeiliorni. Pell iawn oddiwrth eu meddyliau oedd ffurfio enwad neu gyfundeb newydd o bobl. Nid oedd y tebygolrwydd mai fel hyn y byddai ddim, dros ryw ysbaid, wedi ymgynyg i'w meddyliau. Yr unig amcan a ymddengys fod ganddynt, oedd llesâu eneidiau dynion. Nid ymgeisient at ddim llai, ac ar lai nid ymfoddlonent. Rhoes yr Arglwydd iddynt ddymuniad eu calon i raddau anarferol. Yr hwn a blanodd o'u mewn yr awyddfryd hwnw, a atebodd iddo drwy lwyddiant mawr; ie, yr oedd yr awyddfryd angherddol hwnw yn wystl o'r llwyddiant ei hun. "Pan glafychodd Seion, yna yr esgorodd ar ei meibion."
Nid oes i ni, er hyn oll, dybied fod ein tadau, er cystal oeddynt, ac er cymaint a wnaethant, heb eu gwendidau. Ie, nid ydym yn mhell oddiwrth lochesu y syniad fod eu gwendidau, a'u rhagoriaethau, yn fwy ac yn amlach na'r eiddo eu holynwyr. Ar ryw gyfrifon, yr oeddynt yn amlach eu brychau; ac ar gyfrifon eraill, yr oeddynt yn fwy rhagorol eu haddurniadau. Rhoddai y Goruchaf arnynt ardderchogrwydd cyfartal i'w gwaeleddau, fel ag i'w cuddio. Yr oedd yr eneiniad dwyfol yn llawer mwy, a'r cymhwysderau dynol yn llai. Yr oedd y fantell a fwriai Ysbryd Duw mewn arddeliad dwyfol, yn fwy nag a gyflenwai y diffyg o fanteision dynol. "Yr oeddynt. yn gedyrn o nerth gan Ysbryd yr Arglwydd." Eglur ydyw, pa gan leied bynag oedd eu gwybodaeth; pa mor benboeth bynag y tybir fod rhai o'u symudiadau, a pha mor anghelfydd bynag y gallai fod eu talentau,—eglur ydyw, meddaf, fod eu hamcan yn onest, a bod eu dibyniad am lwyddiant a nerth yr Ysbryd. Yr oedd y gonestrwydd hwn yn eu dyben, a'r dibyniad llwyr am gynorthwy yr Ysbryd Glân, ac am ei lwyddiant, yn gogoneddu Duw yn fwy na phe buasai eu gwybodaeth a'u medrusrwydd yn fil mwy nag oeddynt. Nid ydym am i neb feddwl ein bod wrth ddywedyd hyn yn ceisio diraddio addurniadau a manteision dynol ar dir yn y byd, ond mewn cydmhariaeth i arddeliad dwyfol, neu mewn gwrthgyferbyniad iddo. Fe wna dynion diddysg ac anllythyrenog orchestion rhyfeddol, pan yn llawn o'r Ysbryd Glân ac o ffydd; ond ni wna y dysgeidiaeth coethaf, a'r addurniadau tlysaf, ddim heb yr arddeliad dwyfol.
Wrth fwrw golwg ar wawr y diwygiad, yr ydym yn gorfod sefyll yn syn pan yr ystyriom fod canlyniadau mor fawrion, ac effeithiau mor rymus, wedi