Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/212

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

codi o gychwyniad mor fychan. Pe cyfodasai rhyw ddaroganwr gan mlynedd yn ol, a rhagfynegu pa fath effeithiau mawr oedd i ddylyn pregethau curad bychan y pentref mynyddig yn sir Aberteifi; neu gynghorion tanllyd y lleŷgwr diurddau yn sir Frycheiniog; gosodasid ef i lawr fel proffwyd gau neu oracl dwyllodrus! Nid aeth i feddwl neb yr effeithiau a ddylynent. Nid oedd gan y diwygwyr eu hunain un dychymyg am y fath ganlyniad. Y mae ein syndod yn fwy fyth pan y cofiom pa mor ddibarotoad i gyfarfod â'r fath lwyddiant yr aeth y diwygwyr allan i gychwyn eu goruchwyliaeth. Ni fu rhyngddynt ar eu mynediad allan ddim cymaint a chydymgynghoriad, a thros flynyddau nid oedd ganddynt yr un gyfundrefn arbenig i weithredu wrthi. Yr oedd eu hadnoddau yn fychain, a'u gwrthwynebiadau yn fawrion; eto, bu eu llwyddiant yn ogyfuwch a'u rhwystrau, a gwên y nef yn llawn gyfateb i ŵg y ddaear.

Yn olaf, gwelwn pa mor fawr yr anrhydedd a osododd Duw ar yr egwyddorion pur a lywodraethent ein tadau. Yr egwyddorion hyny oeddynt, cariad angherddol at y Gwaredwr, a dibyniad llwyr a hollol ar Ysbryd Duw am gynorthwy, gan amcanu yn unplyg a chywir at ogoniant Duw, ac iachawdwriaeth dynion fel dyben. Anhawdd, tybygem, ydyw i neb ddarllen eu hanes yn troi allan at y gwaith mawr y gelwid hwy iddo, a chofio y rhwystrau mawrion oeddynt ar eu ffordd, heb fod yn argyhoeddedig mai yr egwyddorion uchod a'u cynhyrfai. Prin y caniatâai yr amgylchiadau i hunanolrwydd a bydolrwydd egwyddor a dyben ddod i mewn. Gelwid arnynt yn y fan i roi heibio y dysgwyliad am anrhydedd, cyfoeth, nac esmwythyd. Rhaid oedd iddynt ymfoddloni i ymwadu â hwy eu hunain, a dwyn y groes beunydd. Y mae dirgelwch eu llwyddiant yn gorwedd yn yr egwyddorion a'u llywodraethent. Ni phlanwyd yr egwyddorion goruchel a mawreddig hyn erioed ond gan Dduw ei hun; ac ni chynyrchwyd mo honynt erioed yn mynwes neb i'w siomi. Gwystl oeddynt o'r llwyddiant a'u dylynodd. Hoff ydyw gan yr Arglwydd eu hanrhydeddu, oblegid y mae ei ddelw ef yn amlwg arnynt. Gallwn ninau benderfynu oddiwrth hanes ein tadau, na adewir mo honom yn ddilwydd, tra y byddwn dan ddylanwad yr un egwyddorion; a gallwn benderfynu hefyd, os ein cynhyrfu a wneir gydag achos yr efengyl, gan ryw gymhelliad amgen na chariad at Grist; os dibynu am ein llwyddiant wneir ar unrhyw fanteision, yn lle ar Ysbryd Duw; neu os amcenir at unrhyw nôd fel dyben, amgen na gogoniant Duw, mai gwywdra a diflaniad a ddisgyn arnom o'r dydd hwnw allan.