Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/213

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y TRYDYDD DOSBARTH

SEF,

CYNYDD METHODISTIAETH.

PENNOD I.

GWEINIDOGAETH DEITHIOL YN FODDION CYNYDD.

CYNWYSIAD:

EI DDECHREUAD BYCHAN—GWEDD WYRTHIOL EI GYNYDD—ANSAWDD SYMUDOL A THEITHIOL Y WEINIDOGAETH—AMGYLCHIADAU YN ARWAIN I HYN YMA—TEITHIAU HARRIS—TEITHIAU ROWLANDS, Y DDAU WILLIAMS, A HOWEL DAVIES—ANGHYSURON TEITHIO—PREGETHU MEWN FFEIRIAU A CHYFARFODYDD LLYGREDIG—EFFEITHIAU Y WEINIDOGAETH DEITHIOL—CYFFELYB WEDD AR LAFUR DIWYGWYR LLOEGR—LLAFUR JOHN BERRIDGE, FICAR EVERTON.

"DYDD y pethau bychain" oedd dechreuad Methodistiaeth yn Nghymru. Ond arfer y Goruchaf ydyw cynyrchu pethau mawrion o ddechreuad bychan, a thrwy foddion distadl. Gwedd isel oedd ar Gristionogaeth ei hun, pan oedd ei chenadau ond un-ar-ddeg o rifedi, yn yr ystafell, a'n Harglwydd o fewn ychydig oriau i drengu ar y groes. Eto, yr oedd wedi ei geni yn freiniol. I deyrnasu y ganwyd hi. Careg a "dorwyd nid â llaw" ydyw; ac iddi hi y perthyn taro y ddelw fawr, nes ei dryllio yn chwilfriw; a myned yn fynydd mawr, a llenwi yr holi ddaear. Cwmwl bychan, megys cledr llaw gŵr, oedd y diwygiad yn Nghymru yn ei gychwyniad; ond efe a gynyddodd yn ddirfawr, gorchuddiodd holl awyr y dywysogaeth, a gwlaw mawr, yn gawodydd bendithiol, a ddisgynodd ar ei diffeithleoedd hi.

Pwy fuasai yn gallu darogan y buasai y fath ganlyniadau i waith y llencyn dwy-ar-hugain oed yn cynghori ei gymydogion o dŷ i dŷ yn ardal Trefeca? neu i waith y curad bychan yn sir Aberteifi yn dysgu ei blwyfolion? "O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni!" "Y fechan a aeth yn fil, a'r wael yn genedl gref." Yr hedyn mwstard a aeth yn bren mawr. Duw a arloesodd o flaen y winwydden wanaidd hon, "ac a'i planodd hi: parodd i'w gwraidd hi wreiddio, a hi a lanwodd y tir. Cuddiwyd y mynyddoedd gan ei chysgod, a'i changenau oedd fel cedrwydd rhagorol."

Gwedd wyrthiol ei gynydd.—Mae cynydd Methodistiaeth yn Nghymru yn naturiol yn peri syndod i'r meddwl ystyriol. Pe gofynasid i rywun, ar gychwyniad yr achos yma, pa beth a dybiai a ddeuai o hono?-pa un ai myned rhagddo a wnai, ai ynte sefyll yn fuan, a diffodd yn llwyr? cawsid atebiad ebrwydd a dibetrusder, mai diflanu a wnai, a hyny yn fuan. Yn ol dyfaliad dynol ar bethau, ni allesid casglu dim yn amgen. Nid oedd yma na "llu na nerth." Yr oedd yr offer yn wael, a'r gwaith yn fawr. Nid oedd y diwygwyr yn hóni fod ganddynt na chyfoeth na dylanwad; yr oedd tywyllwch ac ofergoeledd y wlad yn fawr dros ben; nid oedd nemawr o