Feiblau na llyfrau yn yr iaith; nid oedd ysgolion sabbothol eto wedi eu geni; yr oedd rhagfarn cryf, ac anhyblyg ymron, yn erbyn pob peth newydd, yn enwedig mewn crefydd; yr oedd y gwŷr mawr, heb nemawr eithriaid, yn eithaf boddlawn i'r grefydd wladol, yn yr agwedd oedd arni; yr oeddynt. hefyd yn penderfynu gosod eu hwynebau yn erbyn pob cais a wneid gan neb i aflonyddu tawelwch difraw y trigolion, nac i newid eu harferion. Nid oedd yn ngwedd pethau, fel y gwelwn, ar y dechreu, ddim a roisai yr awgrym lleiaf yn mlaen llaw o'r hyn a ganlynodd. Nid oedd y diwygwyr ar y cyntaf ond ychydig iawn mewn rhif, a phrin mewn adnoddau dynol; eto yr oeddynt yn "gedyrn o nerth gan Ysbryd yr Arglwydd." Nid oeddynt hwy eu hunain yn dysgwyl pethau mawrion; yn unig teimlent awyddfryd i wneyd a allent i ddeffroi eu cymydogion o'u cwsg peryglus, ac i ledaenu arogledd y wybodaeth am Grist yn y cylch y troent ynddo. Eithr Duw a fwriadai bethau mwy, ac efe a'u harweiniodd ar hyd ffordd nid adwaenent, ac i gyflawni pethau ni ddysgwyliasent am danynt.
Wrth gydmharu y diwygiad hwn ag ymdrechion crefyddol neu genadol yr oes bresenol, ni allwn lai na chanfod rhyw wahaniaeth mawr rhyngddynt. Yn y dyddiau hyn, pan fyddys yn ymosod at y gwaith o anfon yr efengyl i barthau tywyll y byd, neu i ryw lanerchau amddifaid yn ein gwlad ein hunain, yr ydym yn arfer "eistedd i lawr, a bwrw y draul;" yr ydym yn rhagolygu pa le y ceir offerynau ac adnoddau, dynion ac arian. Ac wedi cael y dynion a'r moddion, a gosod yr offer mewn trefn, a'i "sicrhau fel nad ysgogo," nid ydym, er hyny, yn dysgwyl y cyrhaedd llafur un neu ddau o ddynion ond o fewn cylch bychan; ie, llawen fyddwn os defnyddir hwy yn eu hoes i blanu eglwys neu ddwy, fwy neu lai lluosog. Gan amlaf, ni a seiliwn ein gobaith am lwyddiant eang a pharhaus ar weithrediad graddol egwyddorion; ar fod ysgolion yn cael eu sefydlu, a gwybodaeth yn cael ei lledaenu bob yn ychydig, trwy y pulpud, y wasg, ac addysgiant; ac felly, fod crefydd yn raddol bach yn ennill tir, yn darostwng gwrthwynebiadau, ac yn chwalu anfoes ac anghrefydd o'i blaen. Ond am y diwygiad hwn, ni fu un cynghor blaenorol pa fodd y dygid ef yn mlaen; nid oedd un rhagolygiad am na chyllidau nac offerynau; ni fu un rhagbarotoad gogyfer ag anhawsderau dyfodol, nac un dyfaliad pa beth a allai fod y canlyniadau. Aeth y diwygwyr allan fel Abraham o'i wlad, ar alwad Duw mae'n wir, ond "heb wybod i ba le yr oeddynt yn myned." Troent allan i'w teithiau peryglus fel y dysgyblion, "heb na ffon nac ysgrepan." Aent ar hyd ac ar led y gwledydd, fel yr âi Paul i Jerusalem, heb wybod y pethau a ddygwyddent iddynt; ond fod amgylchiadau, a gwedd pethau, yn dysgu iddynt yn mhob man, fod rhwymau weithiau, a blinderau yn wastad, yn eu haros. Yn ol arfer a syniad cyffredin dynion, pa beth a ellid ei ddysgwyl oddiwrth y fath ysgogiad? Oni chyfrifem ni y fath ddynion yn annoeth, ac yn rhy benboeth? Ac oni ddysgwyliem i'r fath ymosodiad ddybenu mewn gwarth a siomedigaeth? Y cyfryw oedd yr ysgogiad hwn, eto llwyddo a wnaeth! Llwyddo