Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/215

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn fuan, a llwyddo yn helaeth a wnaeth! "O'r Arglwydd y daeth hyn, a rhyfedd yw yn ein golwg ni!"

Wrth ddweyd fod gwedd wyrthiol ar y cynydd hwn, nid wyf yn bwrw fod yr Arglwydd wedi dwyn yr achos hwn yn mlaen heb foddion yn y byd, na thrwy foddion anghymhwys ac anmhriodol; ond fod yr effeithiau yn llawer mwy nag y mae cyffelyb foddion yn eu cynyrchu mewn amgylchiadau cyffredinol. Yr ydym yn edrych ar lwyddiant yr apostolion ar gychwyniad Cristionogaeth yn wyrthiol, am ei fod yn rhyfeddol, ac mewn graddau a than amgylchiadau anarferol. Yn y naill ddiwygiad a'r llall, yr oedd y llwyddiant yn fawr ac annysgwyliadwy. Defnyddid moddion, ond bendithid y moddion i raddau yn mhell tuhwnt i ddysgwyliad a dyfaliad dynol. Darostyngwyd y Midianiaid gan Gideon trwy foddion; ond pwy, er hyny, a'n beia am ddywedyd fod y fuddugoliaeth ar y llu mawr hwnw yn wyrthiol? Nid oedd y 300 ŵr yn foddion cymhwys dynol i gyfarfod â llu aneirif y Midianiaid; ac nid oedd y piserau pridd, a'r lampau tân, a bloedd y fyddin fechan, yn foddion tebygol i ddarostwng y fath rym anaele: eto, felly y gwnaethant. Yr oedd yma foddion, a moddion oeddynt hefyd â chymhwysder ynddynt it beri dychryn ar y llu barbaraidd; eto, pwy all lai na meddwl nad oedd yma wedd wyrthiol ar y fuddugoliaeth? Yr un modd y bu gyda'r ysgogiad Methodistaidd yn Nghymru, a hyny dros lawer o flynyddau wedi ei gychwyniad. Yr oedd yr effeithiau a gynyrchid yn ymddangos yn anghyfartal i'r moddion a'u cynyrchent; a'r llwyddiant y fath na ellid trwy un dyfaliad dynol ei ddysgwyl.

Ymddengys rhyw gymaint o wedd wyrthiol hefyd ar faint y cynydd, yn gystal ag ar ddull ei gynyrchiad. Beth a welwn ni yn y dechreuad? Howel Harris, yn llencyn ieuanc yn cynghori ei gymydogion o dŷ i dŷ, a hyny dan lawer o warth a dirmyg. Beth a welwn ni? ond curad anghyhoedd yn Llangeitho, yn pregethu o ddifrif i'w blwyfolion hyn a welwyd lawer gwaith o'r blaen, a llawer gwaith ar ol hyny. Ond pa beth a welwn ni yn y canlyniad? Gwelwn 800 o gynulleidfaoedd wedi eu casglu, ac o eglwysi wedi eu planu: gwelwn gyfanswm o 170,000 o aelodau eglwysig o'r dechreu hyd yn awr (1850); gwelwn restr o 1200 o bregethwyr yr efengyl wedi eu cyfodi, a 300,000 o ieuenctyd y canrif yn cael eu haddysgu yn y wybodaeth o Dduw, a'i Fab ef Iesu Grist. Pwy, meddaf, a allasai ddysgwyl hyn o ddechreuad mor fychan, ac mewn amser mor fyr?

Mae y ffaith yn anwadadwy, pa gyfrif bynag a roddir am dani. Ceisiais. fy hunan roddi cyfrif athronyddol am y fath lwyddiant; chwiliais ai nid oedd ansawdd meddwl y trigolion ar y pryd yn ddefnyddiau hawdd eu tanio? ai nid oedd disgyniad disymwth y fath weinidogaeth daranllyd, gan ddynion llawn o enthusiasm crefyddol, ar werin dywyll ac ofergoelus, yn gyfrif digonol am yr effeithiau? Ymofynais ai nid hyawdledd anarferol Rowlands; gwroldeb diysgog, a min treiddgar geiriau Harris; llygad craff, ac ehediadau eryraidd Williams o Bant-y-celyn; gweinidogaeth gref, a llafur diflino, Peter Williams; a gwlith hyfryd, ac ysbryd hynaws, Howel Davies, a gynyrchasant hyn oll, yn