naturiol ac angenrheidiol? Disgynais i'r penderfyniad Sicr, er maint y defnydd a wnaed o gymhwysderau a thalențau gorwych y dynion uchod, a llawer eraill o'u cyffelyb, fod yma rywbeth arall,—rhywbeth nad ellir ei ddesgrifio na'i ddynwared byth, wedi ei roddi iddynt o'r nef, yr hyn a anadlai fywyd a nerth yn yr ysgogiad oll. Y gwir diymwad ydyw, mai "Ysbryd oddiwrth Dduw" a barodd hyn oll. Efe a gymhwysodd yr offerynau, a roes y tân yn eu calonau, y llymder yn eu geiriau, yr amddiffyn ar eu bywydau, a'r gorchudd ar eu gwaeleddau; Efe a safodd gyda hwy, ac a roddodd ei eiriau yn eu geneuau fel tân, a'r bobl o'u blaen yn gynud, fel na allent eu gwrthsefyll.
Ond er y wedd wyrthiol a welwn ddarfod ei roddi ar offerynau gwael, ac er na allwn roddi cyfrif rhesymol ac athronyddol ar nerth a maint y diwygiad hwn, yr ydym o'r farn fod moddion wedi cael eu defnyddio, a bod y moddion hyny wedi cael eu cymhwyso, ac amgylchiadau wedi cael eu trefnu a'u goruwchlywodraethu fel ag i ddwyn o amgylch "yr hyn a welwn ac a glywn," heb un trais ar ddeddfau naturiaeth, na bylchiad ar eu gweithrediad. Fel ly mae cymhwysder yn ngwahanol ranau corff dyn i gyflawni gwahanol swyddau, megys y llygad i weled, y glust i glywed, a'r dwylaw i weithio; ac fel y mae y cwbl yn ddieffaith, er eu cymhwysder, heb ddylanwad bywyd arnynt; felly hefyd yma, gwelodd Duw yn dda ddarpar moddion ac offerynau cymhwys, a pheri cydgyfarfyddiad a chydweithrediad y moddion hyny ag amgylchiadau neillduol ei ragluniaeth i gael eu grymuso "â nerth bywyd annherfynol." Anadlodd yr Iesu ar y cenadau hyny fel ar yr apostolion gynt, a dywedodd, "Derbyniwch yr Ysbryd Glân." Yr Ysbryd hwn a eneiniodd ddysgeidiaeth a dawn y sawl ag oedd yn eu meddu; yr Ysbryd hwn a addurnodd ac a awchlymodd gymhwysderau naturiol rhai eraill; a'r Ysbryd hwn a roes nerth, a grym, a goleuni, yn eu gweinidogaeth i wneyd y moddion a ddefnyddid yn effeithiol i ateb y dyben. Ein gwaith bellach fydd olrhain hanes y moddion hyny yn eu dylanwad ar Gymru i beri y cynydd dan sylw. Y moddion cyntaf a grybwyllwn ydyw,—
Y wedd deithiol a symudol ag oedd ar lafur yr offerynau.--Mae gweinidogaeth deithiol neu symudol yn un o brif nodweddau y cyfundeb. Y mae yn hyn o beth heb ei gyffelyb o fewn y byd crefyddol. Y mae ei gyffelyb o ran athrawiaeth, ac o ran henaduriaeth ei ffurf, ond o ran y wedd deithiol sydd ar ei weinidogaeth, nid oes, tybygid, un o'i fath. Fe ddechreuodd hyn heb fod un bwriad neillduol i ffurfio cyfundeb ar y wedd hon i barhau. I hyn, er hyny, yn raddol y disgynodd; ac yn wir, yn y dull hwn gan mwyaf y dechreuodd. Gan fod llaw arbenig gan weinidogion yr eglwys sefydledig yn nghychwyniad y diwygiad Methodistaidd, ni a gawn fod yr amgylchiadau a'u cyfarfu yn naturiol yn eu harwain i'r dull symudol hwn; er fod eu dygiad i fyny yn eu tueddu yn y gwrthwyneb; a'r amgylchiadau a orfuant. Wedi eu troi allan o'r llanau, lle yr oedd eu gweinidogaeth yn sefydlog, nid oedd yn aros iddynt, bellach, ond myned o amgylch i bob dinas a man, lle y byddai amnaid yn cael ei roddi arnynt, naill ai gan wir angen y lle, neu gan erfyniau taerion rhyw rai o'r trigolion. Am Howel Harris, y mae yn hysbys mai