Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/217

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

afreolaidd a fu ei lafur ef o'r dechreuad. Parai hyn iddo gryn bryder ac amheuaeth, yn enwedig ar ei gychwyniad cyntaf allan. Nid oedd ef wedi derbyn urddau i bregethu. Aeth at y gwaith heb un alwad ddynol, mwy na phe buasai yntau yn apostol. Y tân a'r awyddfryd a roddwyd o'i fewn, a'r angenrheidrwydd a ganfyddai oddiallan, oeddynt ei gymhellion ef. Yr oedd hefyd yn afreolaidd o ran ei ddull. Ai o amgylch o dỳ i dŷ; a rhybuddiai dynion yn mhob man y rhoddid cyfleusdra iddo. Ni fwriadai ffurfio cynulleidfa iddo ei hun, ond cyffro dynion i ystyriaeth am eu heneidiau, gan eu casglu i eglwys y plwyf, o'r hon y golygai ei hun yn aelod ffyddlawn.

Ond er fod ei weinidogaeth yn mhob modd yn afreolaidd, yr oedd, er hyny, ar bob llaw yn fendithiol. Gwenodd Duw ar ei lafur. Nid oedd y gŵr hwn ar y dechreu wedi clywed am neb a ysgogai yn gwbl yn yr un dull ag ef, oddieithr Crist ei hun, a'r apostolion; yr oedd ei lwybr yn gwbl ddisathr, ond ni bu yn ddiles. Calonogwyd ef gan wenau dwyfol Ysbryd Duw i barhau, a rhoes esiampl i eraill ei ddylyn.

Teimlai rwymau arno i fyned lle y gelwid am dano, a than ddylanwad y syniad hwn achubai bob cyfleusdra, a gwrandawai ar bob gwahoddiad, hyd y gallai, i fyned ar hyd Gymru oll, a pharthau helaeth o Loegr. Yr oedd Rowlands yn fwy sefydlog. Tra yr ydoedd heb ei droi allan o'i guradiaeth, gellid dysgwyl hyny; eto, rhaid a fu iddo yntau droi allan o'i blwyfau ei hun. Mynai rhagluniaeth Duw iddo beidio ymgadw yn gwbl o fewn terfynau dynol; denwyd ef, fel y crybwyllwyd o'r blaen (tudal. 71) i Ystradffin gan ddifrifwch gwraig, a rhoddwyd iddo flas yno ar y tafliad anghanonaidd hwn. Ar ol hyn, gwibiai weithiau i fanau dyeithr, er ei fod yn aros yn yr eglwys; ac wedi ei droi allan o'r eglwys, parhâai i bregethu yn lled sefydlog yn Llangeitho, er fod iddo ryddid i deithio bellach fel y mynai. Ac efe oedd. yr unig un ymron, yn mysg y rhaj cyntaf, a fu yn sefydlog ei weinidogaeth. Nid cymaint, mewn cydmhariaeth, dros yspaid 52 o flynyddoedd, a deithiodd Rowlands, ac ni a gawn weled bob yn dipyn, y bu ei weinidogaeth sefydlog ef yn foddion cynydd i Fethodistiaeth, yn gystal â chylch-weinidogaeth ei gynorthwywyr. Anhawdd, yn wir, a fyddai i neb ddyfalu pa fuddioldeb ei faint a fu gwib-weinidogaeth Howel Harris; pa nifer o bechaduriaid a ddeffrowyd trwyddo, a pha nifer o eglwysi a blanwyd ganddo. Yr oedd y Peirch. Wm. a Peter Williams yn deithwyr mawr y rhan fwyaf o'u hoes, a defnyddiol anarferol fuont. Tybiai Mr. Howel Davies fod llawer o fywyd crefydd yn ymddibynu ar bregethu teithiol;" a sicr yw, mai trwy offerynoldeb pregethu teithiol yr oes hòno yr ymledaenodd yr efengyl mor gyflym a chyffredinol dros yr holl dywysogaeth.

Y pryd hyny, yr oedd anghysuron a pheryglon teithio yn fawrion iawn. Nid oedd ond ychydig o ffyrdd da wedi eu gwneyd yn yr holl wlad, yn enwedig yn mharthau mynyddig y dywysogaeth. Nid oedd chwaith i'w ddysgwyl ond llety tlawd, gan amlaf; a rhaid oedd wynebu ar waradwydd ac enbydrwydd, oddiwrth foneddig a gwreng, offeiriaid a phobl. Yr oedd y manau y derbynid pregethu iddynt y pryd hyny yn anaml, ac yn fynych yn