mhell oddiwrth eu gilydd; a rhaid ydoedd croesi mynyddoedd uchel, ac aberoedd cryfion, a theithio drwy leoedd geirwon a disathr, trwy oerni a gwres, eira a rhew, gwlaw a gwynt, a hyny yn nhywyllwch dû y nos, yn gystal ag yn ngoleuni y dydd; eto teithio a wnaent, o wir awyddfryd ennill dynion i ffoi rhag y llid a fydd. Y nefoedd hefyd a wenodd ar eu hamcan, ac a wobrwyodd eu llafur.
Yr oedd llafur Howel Harris, rhwng pregethu a theithio, yn fawr iawn. "Pe baech (meddai ef ei hun mewn llythyr at un Mr. Baddington,) yn cymeryd tro gyda mi am ddeufis neu dri, a gweled fy llafur a'm profedigaethau; ac yn enwedig pe medrech roi tro trwy fy nghalon, yr wyf yn sicr na ryfeddech gymaint am na anfonais atoch cyn hyn. Pa fodd bynag, mi a ddywedaf i chwi fel y bu. Y mae yn awr yn nghylch naw wythnos er pan ddechreuais fyned o amgylch De a Gogledd Cymru. Yn yr amser hwn mi a ymwelais â thair sir ar ddeg; a thrafaeliais y rhan amlaf 150 o filldiroedd bob wythnos, a phregethais ddwy waith, ac weithiau dair a phedair gwaith bob dydd. Bum saith noswaith yn olynol yn y daith hon heb ddyosg fy nillad. Teithiais o un bore hyd yr hwyr dranoeth heb orphwys, dros 100 milldir, gan bregethu ganol nos, neu yn foreu iawn, ar y mynyddoedd, rhag ein herlid."
Y pryd hyny nid oedd capelau wedi eu hadeiladu, ac yn ol dim sydd yn awr mewn golwg, nid oedd Harris na Rowlands yn llochi y bwriad o adeiladu capelau; nid oedd cynulleidfaoedd rheolaidd eto wedi eu ffurfio; am hyny, âi Harris allan i ymofyn am gynulleidfaoedd; ymosodai ar y werin mewn ffeiriau a gwylmabsantau; neu ynte, pan y deuai i fan y byddai ynddo ryw nifer bychan o ewyllyswyr da i'r efengyl, anfonai hwy allan i'r dref, neu y pentref, neu yr ardal, i wahodd y bobl i ddyfod i wrando. Yr oedd ymosod yn y modd yma ar gyfarfodydd llygredig, lle y byddai lluaws o ddynion byfion a chelyd ynghyd, a llawer o honynt dan ddylanwad y ddiod "derfysgaidd," yn gofyn ysbryd gwrol iawn, gan faint oedd y perygl, yn enwedig gan y gwneid ymosodiad uniongyrchol ar yr hyn a barai yr hyfrydwch penaf ynddynt, sef y digrifwch ffol, yr anghymedroldeb, y gloddest, a'r campau. Ni ellid dysgwyl llai na pharai y cyfryw ymosodiad gyffro anarferol yn mysg y werin, ac y byddent yn berwi mewn gwŷn i ymddial ar y neb a feiddiai ymyraeth â'u difyrwch hwy.
Yn y fl. 1739, ni a gawn Howel Harris yn gwneyd y cyfryw ymosodiad yn swydd Henffordd. Cyfarchodd y bobl pan oeddynt wrth eu chwareu mewn gŵylmabsant. Dygwyddodd fod yn mysg y dyrfa, fel yr oedd fwya'r gresyni, weinidog y plwyf, a dau ustus heddwch. Cyfeiriodd Harris ei ymadrodd yn neillduol at y gwŷr anrhydeddus hyn,, gan ofyn iddynt, pa fodd y gallent roddi cyfrif o'u goruchwyliaeth, tra y calonogent y bobl mewn oferedd, afreolaeth, ac anfoesoldeb? Ar hyn, gwaeddai rhai o'r boneddwyr, "Tynwch y bragawthwr i lawr." Rhoes hyn ddigon o amnaid i'r lluaws ymosod arno; eto diangodd heb nemawr niwaid. Yn Mhont-y-pool drachefn, cymerwyd ef i fyny gan heddynad, a gorfu iddo roi meichniafon i ateb i'r orsedd yn nhref Mynwy yn mis Awst canlynol. Erbyn yr amser gosodedig,