Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/219

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

aeth yno; a daeth amryw gyfeillion o Lundain, Caerloyw, a manau eraill, yno hefyd i sefyll drosto. Ar y llaw arall, y gwŷr mawr, ar ol cydymgynghori, a welsant yn dda ei ollwng yn rhydd. Nid oedd y gwrthwynebiadau hyn yn lleithio dim ar aidd ysbryd Mr. Harris. Rhoddid iddo nerth cyfatebol i'r amgylchiad; a llefarar yn hyf a difrifol wrth ei erlidwyr, nes byddent yn fynych yn delwi, ac weithiau yn lliniaru. Pan y daliwyd ef yn Mhont-y-pool, a thra yr oedd yn ngafael yr hedd-geidwad, dywedai wrth y boneddwr a ddarllenasai y Riot Act, ac a wasgarodd y bobl:—

"Yr wyf yn foddlon, syr, i fyned i garchar ac i angau, er mwyn eneidiau dynion. Nid ydym yn amcanu codi terfysg na gwrthryfel yn erbyn gwlad nac eglwys. A fyddwch chwi, syr, (ebe Mr. Harris,) yn darllen yr Act yna mewn cyfarfodydd ymladd ceiliogod, a'u cyffelyb ?"

Atebai y gŵr mawr trwy fygwth yn arswydus, y cymerid sylw o honynt oll, ac oni ymwasgarent, y caent farw heb wasanaeth offeiriad na chlochydd. Gan fod y dyrfa yn para yn llonydd, ebe Mr. Harris wrtho drachefn,—

"Nyni a ymwasgarwn yn y fan, ond rhoddwch genad i weddio drosoch, na ddel arnoch felldith y bobl hyn, ac na roddir y bai hwn yn eich erbyn yn nydd y farn. Cofiwch mai nid ustus heddwch, i alw eraill i gyfrif, a fyddwch yno, ond un a raid iddo roddi cyfrif i arall, pa fodd y cyflawnasoch eich swydd."

"Nid yw hyny yn blino dim arnaf fi," ebe y gŵr boneddig. Yn mhen enyd, ebe Mr. Harris,

"Y mae yn ddrwg genyf mai chwi, mab Major H—— y (canys gŵr heddychol a hawddgar oedd efe), a fyn fod yr erlidiwr cyntaf ar gyfarfod o brotestaniaid heddychol, yn y parthau hyn."

"Myfi a gefais fy awdurdod oddiuchod," ebe yr ustus.

"Ai o'r nef y cawsoch ef?" gofynai Mr. Harris.

"Nage," ebe yntau, "nid hyny oedd fy meddwl."

"Pe bae'r brenin yn gwybod (ebe Mr. Harris) pa mor ufydd a diniweid ddeiliaid ydym iddo, ni byddech chwi yn fwy eich parch ganddo am ein herlid a'n gorthrymu."

Yn Nghastellnewydd-ar-Wysg, rhuthrwyd arno drachefn yn ffyrnig gan fagad o bobl afreolaidd. Drylliasant ddwy lawes ei gôt, cipiasant ymaith ei berwig, gan ei adael ef yn bennoeth yn y gwlaw. Yntau a aeth yn mlaen, gan lefaru wrthynt yn y wedd oedd arno, nes y dechreuasant floeddio a lluchio, ac o'r diwedd ei daro â chareg yn ei dalcen, nes oedd ei waed yn llifo.

Fel yr oedd blinderau y gwroniaid hyn yn amlhau, felly yr oedd eu dyddanwch yn amlhau. Caent ymweliadau hynod oddiwrth Dduw; rhoddid iddynt amlygiadau neillduol yn fynych o'i bresenoldeb a'i ffafr, nes byddent yn llosgi gan awydd at ei waith, pryd y byddai "sel ei dŷ yn eu hysu." Ymddangosai yr Arglwydd yn rhyfeddol drostynt, a chodai amddiffynwyr iddynt pan y byddai gyfyngaf arnynt. Pan oedd Mr. Harris yn ninas Caerloyw, aeth yn ol ei arfer ar y Sabboth i'r llan, a chafodd gyfranogi o swper