draddododd? pa sawl cyfarfod eglwysig a gadwodd? ac yn mha nifer o gyfarfodydd cyhoeddus y bu? A phan y galwn i gof fywiogrwydd ei ysbryd, tanbeidrwydd seraphaidd ei feddyliau, a'i ddibyniad cyson ar Dduw am ei fendith, pa swm o ddaioni, gan ei faint, ni chwblhaodd? Sicr yw ddarfod i'r cwmwl hwn, mewn ysbaid 43 o flynyddoedd, ddefnynu llawer o gawodydd bendithiol ar diroedd cras y dywysogaeth, ie, y mae efe wedi marw yn llefaru eto yn ei emynau bywiog, a'i gyfansoddiadau barddonol; a thrwyddynt hwy y mae yn parhau hyd heddyw i adeiladu a chysuro plant Duw, yn filoedd ar filoedd ar hyd Gymru oll, ac yn llawer o drefydd Lloegr, ie, yn nhir y gorllewin bell; a diau genyf y pery ei waith barddonol yn ei flas a'i ddefnyddioldeb am oesoedd eto i ddyfod.
Rhoddodd yr Arglwydd y fath arwyddion grymus a diymwad o'i foddlonrwydd ar lafur y cenadau hunan-ymwadol hyn, nes y cawn fod yn nghylch saith ugain o gymdeithasau neillduol, neu eglwysi, wedi eu codi ganddynt mewn ysbaid deng mlynedd, sef erbyn y fl. 1746, a thua deugain o bregethwyr neu gynghorwyr wedi eu chwanegu atynt. Hyd y pryd hwn yr oedd yr holl foddion cyhoeddus a neillduol yn cael eu cynal yn y "prif-ffyrdd a'r caeau," ac mewn tai anedd ac ysguboriau. Nid oedd ganddynt eto yr un addoldy wedi ei godi yn benodol at wasanaeth y cyfundeb. Codwyd y cyntaf yn mhen blwyddyn ar ol hyn, sef capel Alpha fel y'i gelwir, yn Llanfair-Muallt, sir Frycheiniog. Codwyd dau eraill y flwyddyn ganlynol, sef 1748, yn sir Gaerfyrddin.
Y mwyaf sefydlog ei weinidogaeth o'r tadau enwog hyn ydoedd Mr. Rowlands, Llangeitho; a dywedir mai yn ei bulpud ei hun yr oedd ef yn fwyaf llewyrchus o bob man; eto fe deithiodd yntau lawer ar Ddeau a Gogledd, ac ychydig ar Loegr, a mawr yr effeithiau llesâol a ddylynai ei lafur. Meddai Williams o Bant-y-celyn am dano, yn y farwnad a wnaeth efe iddo:
"Nid oes un o siroedd Cymru,
Braidd na phlwy' sy'n berchen cred,
Na bu Rowlands yn eu teithio,
Ar eu hyd ac ar eu lled:
Tros fynyddau, trwy afonydd,
Ac aberoedd gwaetha' sydd,
O Dŷ-Ddewi i Lanandras,
O Gaergybi i Gaerdydd."
Yr un modd y gellir dweyd am y Peirch. Peter Williams a Howel Davies. Dylynwyd hwy â mintai o bregethwyr ffyddlon ac effro, a rhai o honynt yn meddu doniau ardderchog, y rhai a goronwyd yn neillduol ag arddeliad rhyfeddol oddifry. Rhaid addef mai gweinidogaeth deithiol, a hòno yn llawn o'r "eneiniad oddiwrth y Santaidd hwnw," a fu yn foddion i ddwyn y wedd bresenol ar Fethodistiaeth Cymru. Tra yr oedd y dywysogaeth mor amddifad o bregethu, a phob moddion o ras teilwng o'u galw felly, nid oedd ond llafur cenadol a wnaethai y tro; a than ddwys argyhoeddiad mai angenrhaid. a osodasid arnynt, a bod eu llafur yn cael ei goroni â gwên y nefoedd, yr ymroddai y diwygwyr diflino hyn i waith ag oedd yn galw am gymaint o