Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/224

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymeradwyaeth mawr, ac o wreiddio yn ddwfn yn serchiadau у bobl. Yr oedd y buddioldeb o hono mor ddiymwad, ac amgylchiadau amddifaid y wlad yn galw mor uchel am wasanaeth y pregethwyr, fel yr argymhellid y llafur teithiol gan ystyriaethau gwir bwysig,-cymaint felly, fel y bernid na allent ei roi heibio heb drais ar eu cydwybodau, ac anufydd-dod i ewyllys Duw.

Nid yn Nghymru yn unig yr oedd y wedd deithiol hon ar y weinidogaeth; yr oedd graddau helaeth o hono yn Lloegr hefyd. Soniasom eisoes am John Berridge; ond byddai yn anfaddeuol ynom pe yr aem heibio i gymedrolwr ein cymdeithasfa gyntaf, cyfaill a chydweithiwr Harris a Rowlands a'u cydlafurwyr, sef y Parch. George Whitfield. Yr oedd hwn yn wir fel pe buasai yn llythyrenol yn "angel yn ehedeg yn nghanol y nef, a'r efengyl dragwyddol ganddo." Ni fu ei oes weinidogaethol yn faith, ond hi fu yn llafurus ac effeithiol. Bu saith gwaith yn America; teithiodd Scotland dair gwaith; nid esgeulusodd Iwerddon dywell, na Chymru fynyddig. Gwibiai yn ddiorphwys ar hyd ac ar led Lloegr. Yr oedd ei weinidogaeth yn gynefin i'r pendefigion uchaf, ac nid oedd lai ei awydd i lesâu y werin iselaf. Dadseiniai rhosydd Kensington, a macsydd Spâ, gan ei lais. Rhoes yr udgorn hwn lais hynod uwchben masnachwyr Bristol, a glowyr Kingswood: mewn gair, nid oes hanes ar gael am neb wedi teithio cymaint a Whitfield; neb wedi cael y cyfleusdra i bregethu i gynifer math o ddynion; neb wedi ei gynysgaethu â doniau mor hynod, ac â llwyddiant mor helaeth. Yn yr un cyfnod hefyd y llafuriai John Wesley, gŵr a wnaed yn offeryn nodedig yn llaw Duw, mewn cysylltiad â George Whitfield, i gychwyn adfywiad rhyfeddol ar grefydd yn Lloegr. Ac y mae yn nodedig ddarfod i'r diwygwyr hyn yn Lloegr gymeryd yr un llwybr, a chyfeirio eu llafur, heb nemawr amrywiaeth ond a elwid am dano gan amgylchiadau, yn yr un dull ag y gwnai Methodistiaid Cymru. Yn mhob un o'r ddwy wlad, yr oedd gwedd fwy teithiol nag arferol ar y weinidogaeth, a gwnaed defnydd anarferol o ddoniau cyffredin a diurddau. A pha faint bynag o wahaniaeth a welir erbyn hyn rhwng Methodistiaeth Cymru a'r eiddo Lloegr, wedi i flynyddoedd o brofiad, a niferi o amgylchiadau, osod eu delw arnynt, yr oeddynt yn nodedig o gyffelyb yn eu cychwyniad, o ran ffurf ac ysbryd.

Yn y pedwerydd dosbarth o'r gwaith hwn, rhoddir cyfleusdra i ni eto i gyfeirio rhai sylwadau ar weinidogaeth deithiol. Yr unig beth sydd genym yn awr mewn llaw ydyw gosod allan y ffaith mai trwy weinidogaeth deithiol, gan mwyaf, yr ymeangodd ac y llwyddodd Methodistiaeth Cymru hyd yn hyn. Gormod a fyddai hòni nad oedd gan amgylchiadau ddylanwad mawr i osod y wedd yma ar y weinidogaeth. Diamau fod amgylchiadau y wlad a'r diwygiad ar y pryd, yn tueddu yn gryf i arwain y tadau i'r llwybr hwn; ac os amgylchiadau a argraffodd gymhwysder y dull hwn o lafurio, fe all amgylchiadau gwahanol ddangos y priodoldeb eto o liniaru, neu newid y dull. Sicr ydyw, pa fodd bynag, fod y Duw mawr wedi gweled bod yn dda fendithio y dull hwn o lafurio i raddau mawr iawn; cymaint felly ag a ddylai ddarostwng y dyb mai gweinidogaeth sefydlog, fel y'i gelwir, ydyw yr unig