Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/225

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

un apwyntiedig gan Grist; a chymaint felly hefyd ag a ddylai arafu pob ymosodiad byrbwyll am ei ddiddymiad.

PENNOD II.

NATUR AWCHLYM Y WEINIDOGAETH.

CYNWYSIAD

AWCH Y WEINIDOGAETH YN FODDION NEILLDUOL I GYNYDD METHODISTIAETH—YSBRYDOLIAD NEILLDUOL YNDDI—GWEINIDOGAETH DANIEL ROWLANDS—Y CYRCHU I LANGEITHO—GWEINIDOGAETH ROWLANDS YN EFFEITHIO AR GYMRU OLL—GWEINIDOGAETH HARRIS, AC ERAILL.

Y MAE yn anmhosibl i ni lai na chanfod fod rhyw gysylltiad tra agos rhwng cynydd y diwygiad yn Nghymru, ag ansawdd hynodol gweinidogaeth yr oes hòno. Y pryd hyny, nid oedd ymron ddim moddion cyhoeddus yn cael eu defnyddio heblaw y weinidogaeth. Ar ol hyny, daeth y wasg, a'r ysgolion sabbothol, i roddi cynorthwy mawr yn y gwaith. Ond tra y safai y weinidogaeth yn unig, ac heb gynorthwy un llaw-forwyn, ymddengys ei bod o hyny yn rymusach, ac yn ateb pob dyben ynddi ei hunan. Yr oedd wedi ei chyfaddasu at sefyllfa y bobl, ac at angen y wlad. Mae genym le cryf i gasglu oddiar amryw amgylchiadau nad oedd effeithioldeb y weinidogaeth, yn yr oes hono, ddim yn fwy, oddiar fod yr athrawiaeth yn fwy cywir, neu yn fwy sylweddol nag yn awr; nac ychwaith yn wastad am fod ysbrydoedd y pregethwyr eu hunain yn fwy dwys, a'u rhodiad yn fwy cyson, na'r eiddo yr oes a'u dylynodd. Oddiar amryw ystyriaethau, tueddir ni yn gryf i feddwl fod olynwyr y tadau cyntaf, gan mwyaf, yn rhagori yn y pethau hyn ar y rhai a'u blaenorodd, a'u bod hefyd, ar y cyfan, yn fwy eu dawn a'u gwybodaeth. Ar yr un pryd, yr oedd rhyw effeithioldeb a grym yn perthyn i weinidogaeth y tadau, na welwyd ar ol hyny mo'i gyffelyb. le, y mae genym le i gredu nad oedd gweinidogaeth rhai o'r tadau a fu byw yn hir, ddim mor effeithiol yn niwedd eu hoes ag oedd yn y dechreu. Mae hyn yn fwy syn genym, gan i'r gwŷr hyny ddwyseiddio mewn profiad, ac ymestyn mewn dawn a deall, a pharhau hefyd hyd y diwedd mewn difrifwch a sel. Mewn golwg ddynol ar hyn, gallasem ddysgwyl fod eu llwyddiant yn llawer mwy yn niwedd eu hoes nag yn ei dechre; oblegid ar y dechread, yr oedd rhagfarn cryf yn y werin, a ffyrnigrwydd creulawn yn y boneddwyr yn eu herbyn; yr oeddynt hwythau eto heb gael amser i ennill eu lle trwy ddylanwad a theilyngdod eu cymeriad personol. Yn niwedd yr oes, pa fodd bynag, yr oedd y rhwystrau hyn wedi diflanu, a hwythau eu hunain wedi eu cynysgaethu â gwybodaeth a phrofiad helaethach, yr hyn, a barnu yn ddynol, a fuasai yn peri effeithioldeb ychwanegol ar eu llafur. Ond nid felly yr ymddengys y ffaith; a'r casgliad naturiol ydyw, fod y Duw mawr yn rhoddi i'w weision ryw fesur helaethach nag arferol o'i Ysbryd i gyfarfod ag amgylchiadau hynod eu hoes. Yr oedd y weinidogaeth y pryd hyny yn gymhwys i arloesi anialwch gwyllt; yr oedd y fath awdurdod ynddi yn fynych ag a