Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/226

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dorai i lawr bob rhwystr o'i blaen; crynai nerth y cedyrn gan ei grym aruthrol; a delwai dynion rhyfygus a chreulawn o flaen gwas yr Arglwydd. Yr oedd gradd o'r un Ysbryd ag a roddai wroldeb i Pedr ac Ioan, y ddau bysgotwr tlawd, i gyfarch gyda hyfdra y gynulleidfa fawr a ffyrnig ar ddydd y Pentecost yn Jerusalem, yn llenwi pregethwyr cyntaf y Methodistiaid; a gradd hefyd o'r un arddeliad ag a ddygai argyhoeddiad i gydwybodau miloedd o ddynion megys ar unwaith. Gwyddom mai gwaith yr un gŵr oedd gan y naill ag oedd gan y llall, a'r un rheswm, tybygid, sydd i'w roddi am yr awdurdod a gyd-gerddai â'u gweinidogaeth. "Dyma'r peth a lefarodd y proffwyd Joel, A bydd yn y dyddiau diweddaf, medd Duw, y tywallaf o'm Hysbryd ar bob cnawd."

Yr oedd llawer o'r pregethwyr cyntaf wedi profi argyhoeddiadau llymion, a chysuron lawer, eu hunain; amgylchiad yn tueddu i osod mwy o aidd a difrifwch yn eu hysbryd wrth gynghori eu cyd-ddynion. Mae hanes y tadau Methodistaidd yn rhoi ar ddeall i ni eu bod wedi profi, dros ryw dymhor, weithrediadau grymus iawn, nes byddai yr holl enaid wedi ei gyffroi; diflasder, i fesur mawr, wedi ei roddi ar bob peth arall; eu holl galon yn y gwaith; ie, ni "wnaent gyfrif o ddim, ac nid gwerthfawr oedd ganddynt eu heinioes eu hunain, am y gallent orphen eu gyrfa trwy lawenydd, a'r weinidogaeth a dderbyniasent gan yr Arglwydd Iesu, i dystiolaethu efengyl gras Duw."

Yr oedd y Parch. Daniel Rowlands, o ran ei weinidogaeth, yn cael ei ystyried yn rhagori ar ei holl frodyr. Cyrhaeddodd effeithiau gweinidogaeth y gŵr hwn yr holl dywysogaeth. Yr oedd y fath hynodrwydd arno, nes aeth Llangeitho yn gyrchfa pobl lawer o bob parth o'r wlad, y rhai, wrth ddychwelyd adref, ac wedi dychwelyd adref, a ledaenent y gwirioneddau a wrandawsent gyda'r fath flas, ae yn y fath ysbryd, nes yr ydoedd ei bregethau, trwy yr ail-adroddiad o honynt, yn cario effeithiau nerthol hyd gyrau pellaf y dywysogaeth. Dywedir ei fod, ar ei darawiad cyntaf allan, yn pregethu y ddeddf mewn modd mor ddychrynllyd, nes byddai dynion yn llewygu gan ofn wrth ei wrando; ond ar yr un pryd, yr oedd rhyw sugn anarferol yn ei weinidogaeth i dynu gwrandawyr ato. Mynych iawn y rhedai y dagrau yn llifogydd ar hyd wynebau cannoedd o'i wrandawyr ar unwaith. Y rhai mwyaf anystyriol a ruddfanent gan ing enaid, fel pe safent ar ddibyn dinystr; plygai y dynion mwyaf gwarsyth a balchaidd, fel pe daliesid hwy â gwŷs angau; gwareiddiai dynion gwylltion o'i flaen gan nerth ei ymadroddion; safent yn syn, fel rhai wedi eu hoelio wrth y ddaear; cipid hwy o ran eu meddyliau ymaith, megys gan genllif cryf, fel nad oedd nerth ynddynt i wrthsefyll. Fel hyn y bu gyda Rowlands dros lawer o flynyddoedd. Nid ar ryw ddamwain anfynych y byddai y cyfryw arddeliad arno; ond yn gyffredinol, ac yn fwyaf oll yn ei gartref ei hun. Ni fyddai yr effeithiau i'r un graddau bob oedfa, mae'n wir. Yr oedd amrywiaeth lawer yn ei bregethau, o ran sylwedd ac arddeliad, fel rhyw ddyn arall; eto, anrhydeddwyd ef yn anad neb o'i gydoeswyr i fod yn offeryn i ddychwelyd pechaduriaid at Dduw.