Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/227

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid dynion diddysg a diwybod yn unig a deimlent rym ei weinidogaeth; ond hefyd y dynion cryfaf eu galluoedd, helaethaf eu dysg, a choethusaf eu barn. Gwyddom yn dda y bydd rhyw fath o bregethau yn effeithio yn fawr ar deimladau rhyw ddosbarth isel ac anwybodus, pryd y byddant yn gwbl annerbyniol gan ddosbarth arall; ond yr oedd gweinidogaeth Rowlands gan odidegrwydd ei chynwysiad, a phriodoldeb ei gweinyddiad, yn peri syndod aruthrol ar feddwl y callaf; yr oedd y fath awch ynddi hefyd, a'r fath oleuni a nerth yn cydgerdded â hi, fel y teimlai cydwybodau y rhai mwyaf barbaraidd oddiwrth ei dylanwad, a rhoddid argraff ar feddyliau pawb fod Duw yn y lle." Gŵr pwyllog a chall dros ben y cyfrifid John Evans o'r Bala, yr hwn a ddywedai am Rowlands, "Yr oedd gweinidogaeth Rowlands yn ardderchog dros ben, ac yn rhagori yn ei mawredd ar neb a glywais erioed."

Mae yn anhawdd, os nad yn anmhosibl, dysgrifio gweinidogaeth Rowlands. Gwnaed llawer cais gan lawer o ŵyr call a medrus, ond wedi pob ymdrech o'r eiddynt, addefir ei fod yn annhraethol fyr o osod allan ei bywyd a'i hardderchogrwydd. Ymddengys fod arni bob addurn a phrydferthwch, o ran llais, dull, ac ystum; fod ynddi sylweddolrwydd rhyfeddol o ran mater; fod bywiogrwydd, cymhwysder, a gweddusrwydd anarferol, yn y wedd y gwisgid ei materion; fod cymhwysiad agos at y deall, a grymus at y gydwybod, yn y cyfarchiad; ac uwchlaw y cwbl, a'r hyn a roddai ardderchogrwydd ysblenydd ac annirnadwy ar y cyfan, yr oedd Ysbryd y peth byw ynddi. Ac oblegid hyn, yr oedd ei grym yn anorchfygol; llanwai bob mynwes â syndod, a swynai bob calon. Toddai y gynulleidfa fawr o'i flaen fel cŵyr, gan wres angherddol y gwirionedd. Rhoddai daw ar bob coegyn a fynai feio; parai syndod aruthr ar bob dyhiryn a fynai gecru; bwriai i lawr wrthddadleuon y petrusgar; cynaliai yr annyddanus â chysuron annhraethadwy, ac ymadawai pawb o'r lle, gan dystio, "Y mae Duw yn ddiau yn y lle hwn."

Meddai Mr. Charles am dano, yn ei ddyddlyfr, Ionawr 20, 1773:--"Aethum i wrando y Parch. Daniel Rowlands, yr hwn oedd yn pregethu yn y Capel Newydd. Ei destyn oedd yn Heb. iv. 15, a bydd y diwrnod yn dra chofiadwy genyf tra byddwyf byw. O'r diwrnod cysurol hwnw, cefais nef newydd a daear newydd i'w mwynhau. Y cyfnewidiad a brofai dyn dall wrth dderbyn ei olwg, nid ydyw yn fwy na'r cyfnewidiad a brofais i y pryd hwnw yn fy meddwl"

Ciliodd daear, aeth o'r golwg,
Nef a ymagorai'n amlwg;
Sain angylaidd oedd i'm clustiau,
Adsain nefol bêr ganiadau."

Y mae mor anhawdd gosod allan pa raddau gan gymaint oedd effeithiau gweinidogaeth Rowlands ar Gymru, ag ydyw darlunio godidogrwydd y weinidogaeth ynddi ei hun. Cyrhaeddai ei heffeithiau ymron ar holl bregethwyr yr oes, a chyrhaeddent hyd eithafoedd y dywysogaeth. Parai grym a dysgleirdeb pregethau Rowlands i Langeitho ddyfod yn gyrchfan crefyddwyr pob dosbarth o Gymru dros lawer o flynyddoedd. Nid oedd Llangeitho fel