Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/241

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

casglu at eu gilydd i ymddyddan am bethau ysbrydol; a Howel Harris a arddelid gan lawer iawn o honynt fel eu tad yn yr efengyl.

Yr oedd rhai gwŷr eraill heblaw Rowlands a Harris dan arddeliad neillduol. Gwnaeth y Duw mawr ddefnydd arbenig o Howel Davies a Peter Williams. Crybwyllir enwau Lloyd o Henllan, John Evans o Gilcwm, a John Harris o sir Benfro, fel gwŷr y bu eu gweinidogaeth yn dra bendithiol Fe fu Dafydd Morris, a Jones o Langan, yn enwog iawn yn eu tymhor. Yn y Gogledd, fe fu gweinidogaeth Robert Roberts o Glynog, a John Elias o Fon, yn dra bendithiol., Ond nid ein hamcan yn bresenol ydyw dynodi y pregethwyr hyny a ddyrchafwyd trwy eu llafur a'u llwyddiant i fwy o enwogrwydd na'r cyffredin o'u brodyr; eithr datgan fod yn y weinidogaeth yn gyffredinol fwy o awchlymder a nerth nag a ganfyddir mewn blynyddoedd diweddarach. Cafwyd prawf mewn ambell oedfa, yn yr hanner canrif diweddaf, o'r cyffelyb nerthoedd ag y soniwn fod, yn llawer amlach, yn ngweinidogaeth y tadau. Yr oedd yr arddeliad a brofwyd yn achlysurol yn ein hoes ni, yn llawer mwy cyffredinol y pryd hyny. Nid ydym yn dweyd ei fod yn hollol gyffredinol; ond yr oedd yn llawer mwy felly nag yn awr. Nid ydym yn proffesu y gallwn roddi rheswm am hyn, ag a foddlona y darllenydd; yn enwedig, os ydyw yn anewyllysgar i dderbyn dim ond y gellir rhoddi cyfrif athronyddol am dano. Diau fod y wlad yn llawer tywyllach y pryd hyny; meddyliau dynion heb eu cynefino â gwirioneddau difrif yr ysgrythyrau; ac ysbrydoedd y pregethwyr eu hunain dan deimladau dwysach a mwy difrifol, yn nghylch achubiaeth dynion. I raddau mawr, y mae dynion yn cyrhaedd y nôd yr amcenir ato;-yn cael yr hyn a geisiont. Gellir cymhwyso geiriau yr Iesu am y Phariseaid, fel gwireb tra eang ei ystyr, a chyffredinol ei wrthddrychau, "Yn wir meddaf i chwi, y maent yn derbyn eu gwobr." Yr oedd nôd y tadau Methodistaidd yn uchel a mawreddig; yr oedd hefyd yn unplyg a syml. Gellir meddwl mai ychydig o gymhelliad oedd yn mlynyddoedd cyntaf yr adfywiad i hunan-gais, mewn enw, clod, nac esmwythdra. Y cyfryw oedd amgylchiadau y wlad tuag at bregethwyr a chrefyddwyr, a'r cyfryw ydoedd sefyllfa crefydd a chrefyddwyr yn nghyfrif y trigolion, fel y gallwn feddwl nad oedd neb o'r pregethwyr dan demtasiwn i geisio nac enw nac elw, gan nad oedd un olwg am eu cael. Yr oedd nifer y crefyddwyr mor ychydig, a'u sefyllfaoedd, gan amlaf, mor isel; yr oedd gelyniaeth y bobl mor fawr, yn enwedig y rhai mwyaf eu cyfoeth a'u dylanwad, fel nad oedd prin le i hunan-gais roddi troed i lawr. Pa beth a allai demtio dynion, yn y tymhor hwnw, i fyned ar hyd y wlad i bregethu, pryd nad oedd i'w ddysgwyl ond llafur a lludded, gwarth a thrais? Yn lle clod, difenwid hwy ag enwau drwg, a gwarthruddid hwy â chwedlau celwyddog; yn lle ennill, caent golled; ac yn lle esmwythyd, llafur a phoen. Nid oes un enghraifft fod yr un o honynt wedi casglu cyfoeth, ac ni chyrhaeddodd yr un o honynt awdurdod a bri; ond yn unig y dylanwad a ennillasai eu cymeriad diargyhoedd, a'r bri ag oedd yn wobr iddynt am eu llafur a'u defnyddioldeb. Os nad oedd, gan hyny, nac enw nac elw yn amcan ganddynt, beth