Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/240

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

weinidogaeth ddim arall ond rhoddi yr ysgogiad cychwynol i feddwl y gŵr hwnw, buasai yn orfoledd iddo yn nydd Crist, na redodd yn ofer, ac na chymerodd boen yn ofer," Phil. ii, 16.

Yr oedd min anarferol ar bregethau Howel Harris hefyd, yn enwedigol yn ystod blynyddau cyntaf ei weinidogaeth. Nid ydym, er hyn, yn ei gydmharu â Rowlands, nac ag amryw eraill, fel pregethwr; ar yr un pryd, fe osododd Ysbryd Duw ryw awchlymder yn ei bregethau ag a'u gwnelai mor effeithiol i argyhoeddi a dychwelyd pechaduriaid a'r eiddo neb arall. Nid oedd Harris, fel y sylwyd, yn cymeryd amser i gyfansoddi pregethau, nac yn wir i ddarllen llawer; ond efe a draethai ar ei gyfer yr hyn a roddid iddo ar y pryd, gan ddysgwyl, yn ddigyfrwng ymron, am gynorthwy i lefaru, yn gystal ag am fendith ar yr hyn a draddodid. Ymddengys fod Harris wedi ei godi yn arbenig i arloesi y drysni, ac i barotoi y tir. Math o Ioan Fedyddiwr ydoedd, wedi ei anfon gan Dduw i barotoi ffordd yr Arglwydd. Rhoes Duw iddo orchymyn, "Llefa a'th geg, nac arbed; dyrchafa dy lais fel udgorn, a mynega i'm pobl eu camwedd, a'u pechodau i dŷ Israel." Y llef a ddywedodd wrtho, "Gwaedda." A gwaeddi yn groch a wnaeth, "Pob cnawd sydd wellt, a'i holl odidowgrwydd sydd fel blodeuyn y glaswelltyn." Yr oedd y wlad oll ymron yn cysgu yn ddiofal mewn difrawder trwm. Nid oedd neb yn meddwl am eu diwedd. Tosturiodd yr Arglwydd wrth Gymru gysglyd, a chyfododd Harris megys i'r unig ddyben i ddeffroi y wlad. Yntau, wedi cael y cyfryw awdurdod o'r nef, a aeth allan yn gadarn o nerth gan Ysbryd yr Arglwydd. Clybuwyd ei floedd gref gan luoedd aneirif o drigolion Cymru. Gwnaed ei wyneb fel callestr. Rhoddwyd iddo fod yn ddinas gaerog, ac yn golofn haiarn, ac yn fur pres, yn erbyn yr holl dir." Gwibiodd i bob cwr o Gymru, ac yn wir, i lawer o barthau Lloegr; dyrchafodd ei lef uwchben dynion diofal, nes oedd eu gwynebau yn gwelw-lasu. Syrthiai dynion cryfion i'r llawr gan rym ei eiriau, heb nerth ynddynt i sefyll i fyny. Dan bregeth o'r eiddo yn Cilgeran, fe gerddodd y fath rym at gydwybodau y gwrandawyr, nes oedd amryw o honynt wedi hanner ddyrysu. Rhoisant eu gorchwylion a thriniad eu tiroedd heibio am ddyddiau rai, gan gwbl gredu fod diwedd y byd gerllaw. Yn agos i Lanwyddelan yn sir Drefaldwyn, fe goffeir hyd heddyw am bregeth o'i eiddo yn y lle hwnw, pryd yr oedd y fath luchedau tanllyd yn disgyn ar y bobl, nes oedd llawer o honynt yn ymwylltio gan fraw, ac yn ysgrechian gan ddychrynfeydd y farn. Daethai gŵr boneddig yno i aflonyddu, a hyderai y medrai lwyddo, fel y gwnaethai mewn oedfa a fuasai yn yr ardal o'r blaen; ond yn hyn fe'i siomwyd. Yr oedd y "golofn haiarn, a'r mur pres," yn rhy galed iddo. Bu gorfod arno gilio yn ol. Yn yr oedfa hon yr ennillwyd Jeremia Williams, yr hwn a fu yn pregethu ar ol hyny am fwy na hanner cant o flynyddoedd. Anaml yr âi Harris i unman i bregethu, na fyddai rhywrai yn cael eu dychwelyd dan bob pregeth; anfynych y bwriai efe y rhwyd, na fyddai "yn dal dynion." Codai eglwysi bychain ar ei ol yn mhob man yr elai, nes oedd Deheubarth Cymru yn enwedigol wedi ei fritho â chymdeithasau mwy neu lai eu rhif, wedi eu