yn y dyddiau hyny? Onid oes gormod o duedd yn mhob cenedlaeth i feio ar ei hoes a'i thymhor ei hun? Ai nid gwir ydyw y syniad, pe buasem ni mor gydnabyddus â'r oesoedd a fu, ag ydym â'r oes hon, ac yn gwybod eu drwg yn gystal a'u da, y gwelsem nad oedd y dyddiau o'r blaen nemawr well na'r dyddiau hyn? Oni all fod y darluniad a roddir i ni trwy hanes am yr oes a fu, yn arddangosiad o'i rhagoriaethau, ac nid o'i gwaeleddau? Pan y bydd hanes yn darlunio i genedlaeth ddyfodol y wedd sydd ar yr oes hon, ar yr un ddalen ag y darlunia wedd yr oes a basiodd, hwyrach y gwelir fod y gwahaniaeth rhyngddynt yn llai nag y tueddir ni i ddychymygu ei fod. Addefwn yn rhwydd fod peth grym yn y ddadleuaeth hon, a bod y duedd a deimla pob dyn pan yn heneiddio, yn peri iddo edrych ar bob peth yn nhymhor ei henaint, yn fwy tywyll a phruddaidd, nag y gwna yn adeg ei ieuenctyd; nid am fod cymaint o wahaniaeth yn yr amgylchiadau eu hunain, ond am fod ei deimladau naturiol ef ei hun wedi llacio a marweiddio gan oedran. Ar yr un pryd, y mae yn rhaid i ni addef fod gwedd Methodistiaeth yn wahanol hanner canrif yn ol, a chyn hyny, i'r hyn ydyw yn awr. Yr oedd mwy o awchlynder anorchfygol yn y weinidogaeth; yr oedd mwy o ddwysder yn yr argyhoeddiadau; yr oedd olwynion y peiriant crefyddol yn rhedeg yn gyflymach; yr oedd y diwygiadau yn amlach a gwresocach; ac yr oedd profiadau y crefyddwyr yn felysach, a'u hymarweddiad yn fwy diargyhoedd. Ond yr oedd amgylchiadau yr achos yn wahanol iawn. Mae y gwaith o arloesi anialwch yn wahanol ei ddull i'r hyn ydyw ei hau a'i blanu: mae cymeryd gwlad o feddiant gelyn, trwy orchest a rhyfel, yn wahanol i'r hyn ydyw ei llywodraethu a'i threfnu ar ol hyny. Yr un amcan sydd trwy y cwbl i'w gyrhaedd; ond y mae y dullwedd a fydd ar y gwaith, a'r moddion a ddefnyddir ato, yn amrywio yn fawr yn y gwahanol amgylchiadau a fydd arno.
Fe fu blynyddoedd o arloesi anialwch ar Gymru: adeg yr oedd anwybodaeth yn gryf, a rhagfarn yn ysgyrnygu ei ddannedd: tymhor yr oedd diofalwch marwaidd am bethau ysbrydol, a gwrthwynebiad fyrnig i'r gwirionedd. Yn awr, y mae y tai addoliad a'r ysgolion sabbothol yn britho y gwledydd; mae dynion yn cael eu magu, o'u mebyd, yn yr ymarferiad o'r Beibl, ac yn swn gweinidogaeth yr efengyl. Mae amgylchiadau y wlad wedi newid yn fawr iawn; a gallwn ddysgwyl mai nid yr un fath oruchwyliaeth o ran ei dull, er mai yr un o ran ei hamcan, a fyddai yn angenrheidiol dan amgylchiadau mor wahanol. Gwahanol iawn ei wedd, er mai yr un ei natur, oedd gwaith gras ar Saul o Tarsus, wrth a raid ei fod ar Timotheus. Torwyd un i lawr megys ar unwaith, ond magwyd y llall yn raddol yn ngeiriau y ffydd. Ond nid oedd yn llai cywir yn yr olaf nag yn y blaenaf, er yn llai amlwg, ac yn peri llai o sylw a chyffro. Mae cychwyniad gwaith o'r newydd yn wastad yn galw mwy o sylw, ac yn fynych yn achlesu mwy o wrthwynebiad, nag ydyw ei ddygiad yn mlaen ar ol ei gychwyn. Ond y mae y ddwy oruchwyliaeth mor wirioneddol ac angenrheidiol a'u gilydd. Mae llawer mwy o gyffro a sylw yn gyffredin mewn ardal, pan y bydd cynulleidfa, y tro cyntaf erioed,