Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/250

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chwanegodd gynghori ei gymydogion eraill. Nid oes genym ond prin grybwylliad am ugeiniau lawer o'r cynghorwyr dechreuol. Aeth eu henwau ymron i ebargofiant, er fod holl Gymru hyd heddyw, wedi can mlynedd a mwy, yn medi o ffrwyth eu llafur dihoced a dirwysg. Yr oedd gweinidogaeth yr enwogion cyntaf yn cyffroi llawer iawn o sylw, a chafwyd rhywrai i draddodi y son am danyní i genedlaethau dyfodol; ond yr oedd y lluaws cynghorwyr, gydag ychydig eithriaid, yn llafurio yn ddiwyd, eto yn ddystaw, yn ddyfal, ac yn ddidwrf. Effeithient ar y wlad, fel y gwlaw mân ar y ddaear; parent ffrwythlondeb mawr, heb beri nemawr sylw. Yr oedd "llef ddystaw fain," a Duw ynddi, yn eu haddysgiadau, nes oedd y gydwybod ddifraw yn cael ei deffro, a channoedd o bechaduriaid dan drallod ysbryd, yn ymofyn am fywyd tragwyddol yn Nghrist.

Nid oedd ond ychydig o'r lleygion hyn wedi cael manteision dysg; yr oedd llawer o honynt hefyd yn isel eu hamgylchiadau; wedi ymarfer o herwydd cynefindra, a bywioliaeth wael, ac â llafur caled. Yr oedd ynddynt â lawer o gymhwysder i'r gwaith y'u bwriadwyd iddo. Yr oedd eu dull o bregethu yn agos at ddeall gwan eu gwrandawyr; yr oedd eu sefyllfa a'u dygiad i fyny yn peri mai hawdd oedd nesâu atynt, ac yn eu cordeddu yn fwy yn serchiadau y bobl. Yr oedd eu cynefindra â chaledfyd yn eu cyfaddasu i gyfarfod â gerwindra y tywydd, i ymfoddloni ar ymborth gwael, i gyflawni teithiau meithion, ac i allu ymgynal ar daledigaeth prin. Nid oedd ynddynt gymhwysder i lywyddu; gadewid hyny i'r gweinidogion urddedig, mewn undeb ag ambell ŵr lleŷg o barch a dylanwad; ond yr oedd ynddynt gymhwysder i weithio. Yr oedd tân Duw wedi ei gau o fewn eu hesgyrn; profent raddau helaeth o felysder yr efengyl, a chymdeithas a Duw, a llosgent gan awydd i achub eneidiau dynion: parod oeddynt, gan hyny, o ran eu hysbryd, a chymhwys hefyd o ran eu sefyllfa, i ymosod ar orchwyl ag a ofynai am gymaint o hunan-ymwadiad, llafur, ac egni. Cododd yr Arglwydd yn eu plith rai i fod yn lle llygad iddynt;" dynion helaethach eu dysg, eangach eu gwybodaeth, a grymusach eu dylanwad personol; eto, er hyn, y lleygion, neu y cynghorwyr, oeddynt y dwylaw a'r traed. Arnynt hwy y disgynai y llafur; hwynthwy a roddent benderfyniadau eu brodyr parchedig mewn grym. Pob peth mawr a ddygent at eu brodyr, fel y gwnai swyddogion Israel yn yr anialwch gyda Moses; ond pob peth bychan a farnent eu hunain, Exod. xviii, 17-24. Yn y modd yma, yr oedd gan bawb eu gwaith eu hunain, heb gyfyngu dim ar eu gilydd. Yr oedd gwasanaeth pob rhan mor angenrheidiol a'u gilydd, ac ni ellid hebgor yr un. Ni allai y "llygad ddweyd wrth y llaw, Nid rhaid i mi wrthyt, na'r pen chwaith wrth y traed, Nid rhaid i mi wrythych." Yr oeddynt oll yn cyd-wasanaethu i lesâd y corff Methodistaidd.

Hyn, tybygaf, sydd anwadadwy, pa afreolaeth bynag a ddychymygai neb fod yn yr ysgogiad hwn, trwy ganiatâu i ddynion diurddau wasanaethu mewn pethau cysegredig, mai i'r afreolaeth hyny, fel moddion, y mae Cymru yn ddyledus am y wedd sydd arni yn awr. Ni fu nifer y clerigwyr a berth-