Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/251

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ynent i'r cyfundeb, o'r dechre hyd yn awr, ond ychydig iawn mewn cydmhariaeth. Ni fu yn y Gogledd, lle y mae y cyfundeb luosocaf, ond tri neu bedwar offeiriad mewn ysbaid can mlynedd. Yn y Deheubarth, tua'r fl. 1742,[1] fe ddywedir fod deg offeiriad wedi ymuno â'r Methodistiaid; ond beth er hyny? Pa beth a ddaethai o'r diwygiad a ddechreuasid trwy yr eglwyswyr yn benaf, oni bae eu cynorthwyo gan y lleygion? Pe rheolaeth ganonaidd eglwys Loegr a gawsai ei ffordd, darfuasai am Fethodistiaeth yn fuan. Syrthiasai Cymru er ys hir amser i'r un sefyllfa dywell ac ofergoelus ag y buasai ynddi cyn y diwygiad hwn. Addefaf yn rhwydd, mai effeithiol iawn y gweithiodd amryw o'r gwŷr eglwysig ar ddechread Methodistiaeth Cymru; ac addefaf hefyd, mai hwynthwy a fuont y prif offerynau i ddwyn y diwygiad yn mlaen. Gwn hefyd, fod ynddynt radd o dueddgarwch at yr eglwys sefydledig dros eu hoes; ac nid rhyfedd hyny, canys yr oedd eu dygiad i fyny yn tueddu yn fawr i gynyrchu hyny; ond er hyn oll, tybygaf mai nid teg ydyw arddangos y diwygiad Methodistaidd, fel pe byddai yn ddyledus am ei gyfodiad a'i gynydd i'r sefydliad gwladol. Y gwir ydyw, mai o'r hyn a gyfrifir yn annhrefn ac afreolaeth yn y sefydliad hwnw, y cyfododd Methodistiaeth. Daw hyn yn fwy amlwg eto fel yr elom yn mlaen. Nid ydwyf mewn un modd am ddiraddio mymryn ar effeithioldeb llafur a gweinidogaeth y gwŷr urddasol a duwiol hyny o eglwys Loegr, a fendithiwyd mor hynod yn Nghymru; eto, ni allaf mewn un modd ganiatâu, fod canmoliaeth yn ddyledus i'r sefydliad gwladol am yr ysgogiad. Mae'n wir mai dynion mewn urddau, neu mewn cymundeb, ynddi, a'i cychwynodd; ond fe wnaed hyny ar draws ei rheolau. Dygodd hyny arnynt ŵg eu huwchraddiaid, ac erlidigaeth eu cydraddiaid; a pharodd hyny, o'r diwedd, eu diarddeliad o honi. Paham, ynte, y dangosir cymaint o flys i briodoli y wedd bresenol sydd ar Gymru i eglwys y wlad? Onid mwy priodol a fyddai cydnabod gyda syndod yr ysgogiad oll i law ddirgelaidd rhagluniaeth y nef, a hyny trwy foddion ac offerynau, ac mewn dull, nad oedd i sect grefyddol o un enw ddim clod o'i herwydd. Ar hyd ffordd nid adwaenent yr arweiniwyd Harris a Rowlands a'u cydlafurwyr yn hyn; a gwnaed hwy yn offerynau gan Dduw i gyflawni yr hyn ni feddyliasent am dano. Rhoddwyd yr anrhydedd o gychwyniad Methodistiaeth Cymru a Lloegr i weinidogion yr eglwys wladol, ond nid i drefniadau yr eglwys hono y rhoddwyd yr anthydedd. Anrhydeddwyd y gwŷr, ond drylliwyd y drefn. Cafodd y gwŷr hyn yr anrhydedd fawr o hyrwyddo achos Mab Duw yn ddirfawr yn Nghymru, ond ar draul canonau eu heglwys y bu hyny. Cawsant y fraint o lesâu eneidiau dirif, ond fe gostiodd hyny ymneillduad oddiwrth eu heglwys. Ond pa fawr niwaid oedd hyny? A raid galaru llawer, os cafodd enw Duw ei ogoniant, am na ddaeth hyny yn ol trefn osodedig gan ddynion? Ai llai o werth ydyw iachawdwriaeth pechadur, am ei chymhwyso trwy offerynoliaeth crefftwr, yn hytrach na thrwy un a urddwyd gan esgob? Myn Duw

  1. Nid wyf yn meddwl fod hyn yn gywir, oddieithr y cyfrifir yr offeiriaid Seisonig.