Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/259

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gwrthwyneb, pe cymerai amser a gofal i syllu yn fwy manwl ar y gyfundrefn. Yn y lle cyntaf, nid oedd yma neb yn cael aelodaeth, heb arwyddion lled amlwg o grefydd mewn barn, profiad, a buchedd; nid oedd neb, drachefn, i ymwisgo ag un swydd, pa mor anamlwg bynag, heb fod yn aelod; nid oedd neb o'r aelodau, chwaith, i ymwthio i swydd bwysig ac amlwg, heb fod ei frodyr crefyddol yn ei gymhell; nac yn wir, heb fod gradd o ymchwiliad i'w gymhwysder; ac yr oedd manyldra a gofal yr ymchwiliad hwn yn cyfartalu i amlygrwydd a pharhad y swydd yr ydoedd yn wynebu arni. Onid oedd yma drefn? Onid oedd yma hanfodion gweinidogaeth effeithiol? Nid oedd gan y Methodistiaid cyntefig yr un ddeddf i warafun crefftwr, neu weithiwr tlawd, i bregethu yr efengyl; ond yr oedd ganddynt ddeddf, na chai dynion gau-grefyddol ac anfucheddol ddim pregethu iddynt. Nid rhoddi heibio yr alwedigaeth fydol a ofynid, ond rhoddi heibio yr hen ddyn, yn nghyda'i weithredoedd. Nid oeddid yn gweled cymaint o anghysondeb rhwng gweinidogaeth y gair â chrefft fuddiol; ond yr oedd yn rhaid i'r pregethwr fod yn ddiargyhoedd, neu yn ddiachwyn arno, a gair da iddo gan y rhai oddiallan.

Nid oedd gan y cynghorwyr neu y pregethwyr dirwysg hyn, ar ol eu cymhell i gychwyn ar y gwaith, ddim lle yn serchiadau y bobl, ond a ennillent drwy eu teilyngdod; ac nid oedd eu gwobr nemawr fwy nag a'u cadwent rhag llewygu. Yr ydym yn addef fod yma lawer iawn o ddirodresrwydd. Yr oedd y bobl hyn yn troi allan yn bur debyg i fab Jesse i ymladd â'r cawr Goliah o Gath. Nid oedd arno nemawr o olwg milwr; yr oedd heb y pethau a dybid yn angenrheidiol i wynebu maes y gwaed. Yn mha le y mae y fraich gref, a'r cleddyf llym? Yn mha le y mae y llurig a'r darian? Pa bryd, a chyda phwy, y bu yn ymarfer? Eto, yr oedd gan y bachgen yr unig gymhwysder a sicrhâai ei lwyddiant, sef eiddigedd tanllyd dros ei Dduw, ac ymddiried diysgog ar ei allu. Felly yr un modd, yr oedd y pregethwyr Methodistaidd yn troi allan i ymladd â galluoedd y tywyllwch, yn llwm iawn o ran yr offer arferol o'u hamgylch. Ni ddysgasid hwy mewn un athrofa; ni fu un ordeiniad rhwysgfawr arnynt, ond cymhelliadau a gweddiau eu cyd-aelodau, dan arolygiad yr henuriaid; nid oedd cytuno wedi bod am ddim cyflog; ond troent allan, â'u heneidiau yn angherddol gan gariad Crist, ac yn gwbl benderfynol o geisio gwneyd hyny a allent drosto.

Yn y modd yma y cafodd Cymru ei phregethwyr Methodistaidd. Prydferthwyd ei mynyddoedd gan draed yr efengylwyr hyn. Aethant allan yn enw Duw byddinoedd Israel, a llawer cawr mewn annuwioldeb a gwympwyd ganddynt. Yr oedd arferion oesoedd, y rhai fel cestyll cryfion oeddynt wedi sefyll er ys maith flynyddau, yn ysgwyd hyd eu sylfeini gan eu hymosodiadau. Ciliai y gaddug dywell gan awelon cryfion eu gweinidogaeth. Disgynai eu pregethau fel cawodydd bendithiol i ddyfrhau y crasdir poeth, a tharddai ffrwythau cyfiawnder allan ar dde ac ar aswy, er gogoniant a moliant. i Dduw.