Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/258

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chanu, gan ddarllen cyfran o'r Beibl, a chymhwyso y rhan a ddarllenid at y rhai a fyddent yn y lle, mewn ffordd o addysgu, rhybuddio, neu ddyddanu. Cyfarfyddent hefyd â'u cyd-aelodau crefyddol, i gyd-ymddyddan am bethau santaidd, gan roddi gair o gynghor byr yn ol yr amgylchiad. A chan fod y gwŷr hyn yn nodedig yn mysg eu brodyr am brofiad gloywach, gwybodaeth eangach, ac egwyddorion cryfach, na'r aelodau eraill, gallem ddysgwyl y byddai eu haddysgiadau yn dra bendithiol er amaethu crefydd a duwioldeb yn y cylch y byddent yn troi ynddo. Heblaw y gradd yma o ddynion, y mae gan y Methodistiaid, fel enwadau eraill yn Nghymru, fintai fawr iawn o lafurwyr lleŷgaidd eraill, y rhai a wasanaethant mewn modd arbenig i eangu teyrnas Crist, ac i luosogi nifer ei deiliaid, sef athrawon yr ysgolion Sabbothol. Rhoddir cyfleusdra i'r athraw ddyfod yn agos at bob un yn ei ddosbarth, a thrwy ymddyddanion rhydd, ac addysgiadau eglur, y mae yn gallu cyfarfod mewn modd effeithiol ag amgylchiadau a galluoedd ei ddosbarth, fel ag i hyrwyddo eu mynediad yn mlaen yn yr egwyddorion a'r ymarferion ag sydd yn ol duwioldeb.

Ond yr hyn a bâr fod Methodistiaid Calfinaidd Cymru yn amrywio mwyaf oddiwrth enwadau eraill o ymneillduwyr ydyw, fod y rhan fwyaf o lawer o'u pregethwyr a'u gweinidogion yn dibynu ar ryw alwedigaeth fydol am eu cynaliaeth, ac nid ar eu llafur gweinidogaethol. Dealler, pa fodd bynag, nad oes un rheol gan y cyfundeb yn gwarafun yr eglwysi i gynal eu gweinidogion, nac ychwaith yn eu gorfodi. Neu mewn geiriau eraill, nid yw yn hanfodol yn ol un rheol sydd eto yn cael ei chydnabod, fod yn rhaid i'r pregethwr fod yn rhwym wrth alwedigaeth fydol, nac yn rhydd oddiwrthi. Gwnaed a fyno yn hyn, o ran un rheol benodol, nid yw yn pechu. Dylid cadw mewn cof hefyd, mai yr egwyddor fawr yr ysgogai y tadau Methodistaidd arni oedd, "Ar fod i bob un, yn ol ei dalent a'i sefyllfa, wneyd ei oreu." A rhyfeddol yr effeithiau a ganlynodd, tra yr oedd yr egwyddor hon yn llawn bywyd a grym. Ofer ydyw son am annhrefn, tra yr oedd y gweithwyr a'u gorchwylion yn dda, a thra yr oedd yr annhrefn hwnw, os felly y rhaid ei alw, yn cynyrchu y fath effeithiau godidog. Ac nid cymaint o annhrefn, mewn gwirionedd, oedd yn yr ysgogiadau hyn. Nid oedd neb yn ymwthio i gyhoeddusrwydd yn groes i feddyliau ei frodyr. Er na fyddai rhyw osodiad rheolaidd a ffurfiol ar y cynghorwr bach gonest, eto yr oedd annogaeth yn cael ei roddi iddo; ac yr oedd yr annogaeth hono yn fwy penderfynol, yn ol amlygrwydd y gwasanaeth a gyflawnid. Yr oedd yr ymchwiliad i gymhwysder yr ymgeisydd yn fwy manwl a gofalus, i'r graddau y byddai y gwaith yn gyhoeddus, a'r swydd yn barhaus. Yr oedd yn hyn yma hanfod trefn. Fel hyn y dylasai fod, ac fel hyn y dylai fod i barhau. Ac er y gall llawer un ddychymygu, wrth edrych ar yr ysgogiad o bell, a chanfod pob math o grefftwyr, amaethwyr, a llafurwyr—dynion heb un dygiad penodol i fyny i'r gwaith, a dynion yn dechreu ar y gorchwyl pwysig heb lawer o rwysg yn nglŷn â'u galwad ato, a'u gosodiad ynddo,—gallai llawer un, meddaf, feddwl mai tryblith annhrefnus ydoedd y cwbl. Ond fe argyhoeddid y cyfryw un o'r