Harris a Rowlands,[1] yr hwn anghydfod a derfynodd mewn rhwygiad ac ymraniad yn y corff. Disgynodd yr ymraniad, mewn effeithiau niweidiol iawn, ar y cynulleidfaoedd bychain ag oeddynt, bellach, yn britho broydd Cymru, fel pe disgynasai awel o wynt gwenwynig ar ardd o bêr-lysiau; a pharhaodd yr effeithiau difaol hyn ar y wlad am flynyddau meithion.
Ond tua'r fl. 1762, mwy na deng mlynedd ar ol yr ymraniad, ymddangosai arwyddion diymwad na wrthodai yr Arglwydd ei bobl, er mwyn ei enw mawr. "Yr amser i drugarhau wrth Seion, ie, yr amser nodedig a ddaeth. Oblegid yr oedd ei weision yn hoffi ei meini, ac yn tosturio wrth ei llwch hi," Salm cii, 13, 14. Dychwelai y lli', fel llanw mawr y môr ar ol trai isel. Cariai bob peth o'i flaen; rhoddai brawf, gan ei rym aruthrol, ei fod wedi ei anfon gan Grewr y bydoedd. Safai dynion yn syn, gan ofyn, "Pa beth a allai hyn fod?" Ymaflai y gwirionedd yn nghydwybodau dynion gwylltion, megys gwŷs oddiwrth y brenin, a rhaid oedd ymostwng. Profai y saint felysder newydd mewn gwirioneddau hen: rhoddid awch newydd yn eu gweddiau, a mwyniant hyfryd mewn ymarferiadau crefyddol. "Pechaduriaid a ofnent yn Seion, a dychryn a ddaliai rhagrithwyr." Ieuenctyd gwylltion wrth y cannoedd a adawent eu hoferedd, heb wybod yn sicr paham, ac a ymunent ag eglwys Dduw; hen bobl wedi cynefino â gwrando yn farwaidd, a gynhyrfid megys o gwsg maith, i ymofyn am loches rhag y llid a fydd. prin y byddai, mewn ardal fawr, un teulu diweddi i'w gael, pe chwiliasid am dano. Am bethau byd arall y byddai yr holl ymddyddanion. Trinid y byd â'r dwylaw, ond rhoddid y serch ar bethau sydd uchod. Byddai gwedd wahanol ar agweddau dynion yn y ffeiriau a'r marchnadoedd; y tafarndai wedi eu gwaghau, a'r addoldai wedi eu gorlenwi. Bywiogrwydd yn y canu, ac awch grymus ar y weinidogaeth; gwersyll y saint yn cychwyn, a myrdd o bechaduriaid yn dywedyd, "Awn gyda chwi, canys gwelsom fod Duw gyda chwi." Beth oedd hyn, ond "Duw yn cyfodi, ei elynion yn gwasgaru, a'i gaseion yn ffoi o'i flaen."
"Yn Llangeitho fe ddechreuodd
Gweiddi dystryw'r anwir fyd,
Miloedd ffödd o'r De a'r Gogledd,
Yn un dyrfa yno ynghyd:
Arswyd, syndod, dychryn, ddaliodd
Yr holl werin, fawr a mân,
Nid oedd gwedd wynebpryd un-gŵr
Fel y gwelid ef o'r blaen.
"Gliniau yn crynu gan y daran,
Fel pe buasai angau ei hun
Wedi cym'ryd llawn berch'nogaeth
Ar y dyrfa bob yr un;
"Beth a wnawn am safio'n henaid?"
Oedd yr unrhyw gydsain lef;
Chwi sy' am wybod hanes Daniel,
Dyma fel dechreuodd ef.
Fel hyn y darluniai Williams, Pant-y-Celyn, y wedd oedd ar y diwygiad
- ↑ Gwel hanes yr ymraniad hwn yn mlaen.