Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/262

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyntaf oll, pan y torai gwawr Methodistiaeth ar sir Aberteifi, dan weinidogaeth rymus Rowlands; a chyffelyb ydoedd ei rym a'i effeithiau yn y fl. 1762. Ymledaenodd yr un olaf hwn yn mhellach; cyrhaeddodd eithafion y Gogledd, a chafwyd graddau helaeth o hono yn Lleyn, sir Gaernarfon.

"Tua'r fl. 1762," medd Robert Jones, "yn ngwyneb mawr annheilyngdod a gwaeledd, cofiodd Duw ei gyfammod, trwy ymweled yn rasol â thorf fawr o bechaduriaid ar hyd amryw o ardaloedd Cymru: cododd Haul cyfiawnder ar werin fawr o'r rhai oedd yn mro a chysgod angau. Yn y dyddiau hafaidd hyn, gellid dywedyd: "Wele y gauaf a aeth heibio, y gwlaw a basiodd, ac a aeth ymaith. Gwelwyd y blodau ar y ddaear, daeth amser i'r adar ganu, clywyd llais y ddurtur yn ein gwlad."

Priodol iawn y gelwid yr adegau cyffrous hyn dan yr enw cynhauaf. Tymhor o hyfrydwch ac o lawnder ydoedd; eto, tymhor y byddai medi a chasglu ffrwyth y llafur a fu o'r blaen. Nid cysgu yn ddiofal a segur y byddai gweision Duw ar dymhorau o iselder ar achos eu Harglwydd; ond byddent y prydiau hyny yn hau, ac yn fynych yn hau mewn dagrau. Bwrient yr had anllygredig i'r ddaear, megys, trwy ymddyddanion, pregethau, a chyfarfodydd, yn barhaus. Yr oeddynt yn dda eu hamynedd, yn dysgwyl am yr addfed ffrwyth. Ond yr oedd adeg diwygiad, fel amser cynhauaf, yn amser i gasglu y ffrwyth. Onid oes lle wedi ei roddi i ni feddwl mai yn y wedd yma y mae Duw wedi gweled yn dda fyned â'i achos yn mlaen. Yn more y byd, cafwyd adfywiad ar grefydd yn nyddiau Enos, ar ol yr enciliad gofidus yn nheulu Cain. Rhoddwyd ysgogiad adnewyddol iddi trwy alwad Abraham, a neillduad ei had ef, pan oedd y byd oll ymron yn eilunaddolwyr. Bu diwygiad mawr drachefn tua dyddiau olaf Josua, ac yn amser Samuel. Cafodd adnewyddiad rhyfeddol yn nheyrnasiad Dafydd, ac yn nyddiau Jehosaphat a Josiah; ac ar ol hyny yn nyddiau Ezra a Nehemiah. Gwawr diwygiad rhyfeddol oedd gweinidogaeth Ioan Fedyddiwr, a'r eiddo Crist ei hun a'r apostolion. Diwygiad nodedig oedd yr ymadawiad ag anghrist trwy Luther a'i gydlafurwyr, wedi hir nos yr oesoedd tywyll. Mae gradd o'r wedd hon ar hanes pob cyfundeb crefyddol, ac yn wir yn mhrofiad pob credadyn. Fel hyn, pa fodd bynag, y bu yn ystod y canrif cyntaf ar Fethodistiaeth Cymru. Gwelid adegau o adfeiliad ac adnewyddiad yn dylyn y naill y llall; ond y byddai tymhor o adnewyddiad yn peri mwy o ennill, nag a barai y tymhor gwrthgyferbyniol o golled. Ennillai achos Crist ryw gymaint o dir o bryd i bryd, er mai yn y dull gwrthneidiol a bylchiog hwn yr ennillid ef. Fel y gwelir pan y bydd lli' y môr yn llenwi, gellid meddwl fod y naill dòn yn cilio gymaint ag y bydd y llall yn nesu; ond mewn gwirionedd, ac ar y cyfan, llenwi y mae; ymestyn yn mhellach i'r tir y mae o dòn i dòn, nes y bydd wedi cyrhaedd ei uchder gosodedig.

Mae Cymru wedi bod yn nodedig am yr ymdrechiadau adfywiol hyn, ar wahanol dymhorau. Trwy adfywiad o'r fath yr ennillwyd y tir a gollwyd, pan y torodd yr ymraniad allan rhwng Harris a Rowlands. Wedi blynyddoedd o ofid a gwywdra, a hirfaith auaf llwm, torodd gwanwyn hyfryd a thor-