cynysgaethwyd â thywalltiad tra mawr, grymus, a gogoneddus o'r Ysbryd ar y bobl; ac yn enwedigol ar y plant a'r bobl ieuainc. Mae ugeiniau o'r bobl ieuainc gwylltaf, a mwyaf anystyriol, wedi eu deffro. Yr argyhoeddiadau ydynt amlwg a dwfn, ac ar rai personau mor rymus nes eu dwyn ar ddibyn anobaith. Mae eu cysuron hefyd yn gyffelyb. Os gwel yr Arglwydd yn dda barhau i weithio fel y gwnaeth yr wythnosau a basiodd, fe fydd teyrnas diafol yn y gymydogaeth yn adfeilion. Dos rhagot, dos rhagot, ti frenin gogoniant, ydyw gwaedd ddiffuant fy enaid ddydd a nos. Yr wyf yn ddiau yn credu fod yr Arglwydd ar fedr rhoddi ysgytiad arswydus i deyrnas y tywyllwch, oblegid y mae yn cymeryd ymaith ei cholofnau. Y rhai oeddynt flaenaf yn ngwasanaeth Satan, ac mewn gwrthryfel yn erbyn Duw, ydynt flaenaf yn awr yn ceisio maddeuant trwy waed yr Oen. Y mae pregethu yr efengyl yma ar hyn o bryd yn beth hawdd. Mae gwirioneddau dwyfol yn cael gafael ar feddyliau y bobl, yn eu pwysigrwydd a'u mawredd eu hunain. Mae pelydrau dwyfol, yn nghyda nerth anorchfygol, yn cydgerdded â phob gwirionedd a draddodir. Y mae yn hyfryd gweled pa fodd y plygir y calonau ystyfnicaf, ac y toddir y rhai caletaf. Ni fynaswn fod heb weled yr hyn a welais yn ddiweddar, na fynaswn, er y byd i gyd."—Drachefn, "Mae yr ysgolion rhad yma yn cael eu bendithio yn fawr. Mae y plant ag oeddynt gynt fel perlau cuddiedig yn y llwch a'r llaid, yn ymddysgleirio yn awr gyda chlaerder a phrydferthwch rhagorol. Mae plant bychain, o chwech i ddeuddeg oed, yn cael eu toddi a'u gorchfygu. Mae eu meddyliau ieuainc yn llawn o bethau enaid, nos a dydd. Mae hyn oll yn ffaith ddilys. Nid wyf yn arfer gormodiaith, ac ni fynegais ond ychydig allan o lawer. Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion, ac iddo ef y byddo y clod."
Fe fu llawer yn meddwl ac yn traethu mai pethau perthynol i Gymru yn unig oedd y cyfryw ddiwygiadau, a pherthynol i'r Methodistiaid yn anad neb. Haerent mai "effaith naturiol rhyw ddull o bregethu ydoedd; mai teimlad ydoedd, yn cyfodi oddiar weled rhai eraill; mai grym yr iaith Gymraeg a'i cynyrchai; mai effaith pereidd-dra llais, a bywiogrwydd, y pregethwr ydoedd; mai arddangosiad ydoedd o feddyliau gweiniaid a thymherau gwylltion y werin ddiddysg:—nad oedd i'w gael ond yn mysg y Cymry yn unig, ac yn y rhanau mwyaf mynyddig a diddysg o'r wlad; na welid mo hono ond i raddau bychan yn y trefydd, a hyny yn mysg y dosbarth lleiaf eu gwybodaeth, a gwanaf eu tymherau." Ond y mae yr haeriadau hyn, dan rith gwirionedd, yn gwbl annheg a chyfeiliornus. Pa fodd, ynte, na cheid y cyfryw adfywiadau yn Nghymru bob amser, os ydynt yn perthyn iddi fel gwlad, neu i'r bobl fel cenedl? Pa fodd na chynyrchid yr un effeithiau gan y weinidogaeth ar bob tymhor, os ydynt yn gylymedig wrth y dull o bregethu, yr iaith, neu y llais? Pa fodd na welid yr un argraffiadau ar y werinos diddysg, neu ar fenywod gwylltion eu tymherau, yn mhob amgylchiad fel eu gilydd, os arwyddion ydynt o feddyliau cyfyng, ac o nwydau dilywodraeth?
Mae yr haeriad nad yw y cyfryw adfywiadau ddim i'w cael yn un wlad,