Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/265

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

heblaw Cymru, yn anghywir. Oblegid yr ydym yn cael fod cyffelyb adfywiadau wedi eu profi mewn gwledydd eraill: ac er y dichon fod y wedd allanol yn gwahaniaethu graddau yn y naill amgylchiad rhagor y llall, eto yr un o ran sylwedd. Yn hanes bywyd un Mr. Blair, gŵr o Scotland, yr hwn a lafuriai yn mysg Gwyddelod gogledd Iwerddon, ni a gawn fod ei lafur ef wedi ei goroni ar ryw dymhorau â diwygiadau rhyfeddol. Pregethai y gŵr hwn gan mwyaf bob dydd, a dwywaith ar y Sabboth, ac yn fynych yn y maesydd, gan na ellid cynwys y gwrandawyr mewn un adeilad. Dywedai rhai hen bobl dduwiol, gan gyfeirio at y deffroad mawr ag oedd yn mysg y bobl, na welsent, ac na chlywsent, erioed am ei gyffelyb; mor rymus y pregethid yr efengyl, ac mor rhyfeddol y'i cymhwysid, fel na welsent hwy y fath gyffro toddedig yn mysg gwrandawyr yr efengyl erioed o'r blaen. Gwiriwyd eilwaith yr hyn a fu yn Mispah, lle yr ymgynullodd Israel, ac y tynasant ddwfr, ac a'i tywalltasant gerbron yr Arglwydd, ac y dywedasant, "Pechasom yn erbyn yr Arglwydd." 1 Sam. vii, 6.

Drachefn, fe ddywed un Mr. Livingstone, gan gyfeirio at ogledd Iwerddon, "Mi a welais y bobl yn dyfod filldiroedd o ffordd i'r cymundeb, ac i'r bregeth ddydd Sadwrn o'i flaen, ac yn treulio nos Sadwrn trwyddi, yn sypiau wrthynt eu hunain weithiau, a phryd arall â gweinidog gyda hwy, mewn ymddyddanion a gweddiau; yna fe'u ceid yn gryno yn y moddion dros yr holl Sabboth, a'r nos Sabboth a dreulient drachefn yr un modd a nos Sadwrn, a byddent yn y bregeth ddydd Llun, mor effro ag y gellid eu dymuno. Perchid hwy am eu hymddygiadau cyson a santaidd, ie, gan y lluaws diras yr oeddynt yn byw yn eu mysg." At yr un amser y cyfeiria Fleming,[1] "Ie, gellir ar dir cymedrol ddweyd, ei fod yn un o'r amlygiadau egluraf o Ysbryd Duw, ac un o adegau y tywalltiad helaethaf o hono, ag a fu ymron er dyddiau yr apostolion. Yr oedd gallu Duw yn gweithio yn amlwg gyda'r gair, a hyny gyda chyffro anarferol ar y gwrandawyr, a chafwyd helfa fawr o eneidiau at Grist. Yr oedd mynediad yr Arglwydd y pryd hyny yn llawn o fawrhydi, a chlywid udgorn-floedd brenin yn nghymanfaoedd y bobl. Yr oedd fel dysgleirdeb y wawr, neu belydr oddiwrth Dduw, mor glaer a grymus, ag a barai i'r rhai gerllaw sefyll yn syn. Hawdd y pryd hyny oedd i Gristionogion ddyfod 30 neu 40 milldir ffordd i gymundeb, ac aros yno o'r amser y daethent nes y dychwelent, heb na blino na chysgu; ac yn ol addefiad rhai o honynt, aent adref yn siriol a heinyf, gan y llenwid eu heneidiau o bresenoldeb Duw."

Ac os dywed neb, mai yn mysg y Gwyddelod anwybodus, anwaraidd, a nwydwyllt, y bu hyn, cenedl yn meddu llawer o dân a byrbwyllder yn eu cyfansoddiad, fel y dywedir fod gan y Cymry, ni a gawn ddangos fod cyffelyb wedi bod yn mysg yr Ysgotiaid; pobl a addefir yn hynod o ran eu harafwch, a'u pwyll, ac o ran gwastadrwydd eu tymherau.

Cawn hanes am ddiwygiad yn Stewarton yn Scotland, yr hwn a barhaodd

  1. "Fulfilling of the Scriptures."