am bum mlynedd, a'r hwn a alwyd gan ddynion anystyriol y wlad, "Selni Stewarton." Dywedir nad oedd nemawr Sabboth yn myned heibio, a hyny am dymhor hir, heb fod rhywrai yn cael eu dychwelyd at Dduw, a bod llawer o honynt gan rym y gwirionedd, a dychryn eu cydwybodau, yn syrthio yn feirw gan lewygfeydd, ac yn cael eu cario allan o'r addoldy. Mynych y cafwyd rhai o'r dynion gwaethaf, a wawdient bob peth santaidd, wedi eu tynu i'r lle trwy gywreinrwydd, yn cael eu dal cyn troi adref, a'u gwir ddychwelyd at Dduw. Gelwid y cyfryw adegau yn amser y llanw mawr, yr hwn a barhaodd, y tro hwn, yn Stewarton, nid am amser byr, ond am rai blynyddau.
Yn y fl. 1630, ar yr 21ain o Mehefin, y bu amgylchiad hynod mewn lle arall yn Scotland o'r enw Kirk of Shotts. Sul y cymundeb ydoedd, a threuliasid y noson o'i flaen, gan lawer o Gristionogion yn y lle, mewn gweddiau gyda Duw. Bendithiwyd y moddion y Sabboth hwnw, medd yr hanes, er dychweliad yn agos i bum cant o eneidiau! Yr oeddynt o bob gradd a sefyllfa, a theimlent rym y weinidogaeth ar y pryd, fel ag i beri ystumiau anarferol ar eu cyrff. Un John Livingstone oedd y pregethwr, gŵr ieuanc o ran oed, a'r pryd hyny heb ei ordeinio. Teimlai y gŵr ieuanc hwn yn anfoddlawn iawn i bregethu ar y fath achlysur, pryd yr oedd cynifer o ddynion profiadol, ac o hen weinidogion enwog a pharchus, yn gwrando. Efe a dreuliodd yr holl nos o'r blaen mewn gweddi ac ymddyddan; aeth allan i'r maesydd yn y bore, a theimlai y fath iselder meddwl gan yr olwg a roddid iddo ar ei anghymhwysder, fel yr oedd ar fedr ffoi ymaith. Y fynyd hòno, daeth i'w feddwl, "A fum i yn anialwch i Israel, yn dir tywyllwch ?" a pharodd iddo newid ei fwriad, a dychwelyd at ei orchwyl.
Dygwyddodd dan y bregeth nodedig hon, i amgylchiadau gymeryd lle, tra chyffelyb i rai a welwyd yn Nghymru ar dymhorau o ddiwygiad, yr hyn sydd brawf ychwanegol, pe byddai raid, o unedd y gwaith yn mhob gwlad.
Ar y dydd Llun hwnw y pregethodd Livingstone, yr oedd tri o wŷr ieuainc hoenus yn ymdaith o Glasgow i Edinburgh, i'r dyben o ymblesera. Daethant i Shotts ar eu ffordd, a throisant i mewn yno i borthi, a dadluddedu eu ceffylau. Cynygiodd un o honynt fyned i wrando y gŵr ieuanc ag oedd i bregethu, tra y gorphwysai'r anifeiliaid, ond fod iddynt droi i ffordd ddiwedd y bregeth, a chyn i'r holl wasanaeth ddybenu. Eithr ni allai yr un o honynt symud, gan yr afael a feddai y gwirionedd arnynt hyd y diwedd. Daethant yn ol i'r gwestdŷ; a chyn galw am y ceffylau, archasant gael bwyd; ond hwn ni allent ei brofi heb ofyn bendith arno, yr hyn beth nid oedd arferol ganddynt, a galwyd ar ryw un, yn y lle, i wneyd hyny drostynt, a'r un modd talu diolch am dano ar ol darfod. Aethant i'w ffordd, gan ofyn y naill i'r llall ar y ffordd, yn awr ac eilwaith, "Pa fath bregeth mor hynod a glyw som?" "Ni chlywais erioed ei bath." Ond ni ynganent air wrth eu gilydd am deimladau eu mynwesau. Aethant i Edinburgh, ond yn lle ymroddi i ddifyrwch, arosasant bob un yn ei ystafell am y rhan fwyaf o'r ddeuddydd yr arosasant yno, ac yna dychwelasant. Ni ddy-