Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/267

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedodd y naill ddim wrth y llall am gyffro y fynwes, yn achos cyflwr drwg, wrth ddychwelyd adref ychwaith; ond arosent bob un yn ei ystafell heb fyned nemawr allan o'r tŷ. O'r diwedd, torodd un at y llall, a'r ddau gyntaf at y trydydd, a chawsant eu bod ill trioedd yn yr un fagl, wedi eu dal yn garcharorion ewyllysgar i Fab Duw. Bu y tri hyn fyw i fyned yn hen, a buont yn ddynion enwog a defnyddiol yn eu tymhor.

Amgylchiad arall a nodir am ŵr tlawd, yr hwn am lôg a ddygasai foneddiges i'r cymundeb, a'r hwn, yn lle gwrando, a ymbrysurai i fwydo ei geffyl gerllaw y babell lle yr oedd y gynulleidfa. Ond tua rhan ddiweddaf y bregeth, pan oedd llaw Duw rymusaf ar y gwrandawyr, efe a ddeallodd fod rhyw gyffro mwy nag arferol yn mysg y bobl; deallai fod ei feddwl ef ei hun dan ryw ddylanwad dyeithr; cyfododd ac aeth ar frys i'r gynulleidfa, a gwnaed yntau yn gyfranog o'r bendithion a wasgerid mor helaeth gan Ysbryd Duw y dydd hwnw.

Yn y fl. 1742, fe fu adfywiad rhyfeddol yn agos i Glasgow, mewn plwyf a elwir Cumbuslang. Ar yr achlysur hyfryd hwn arosai y bobl yn yr addoldy ymron ddydd a nos; pregethid iddynt bob dydd, a phob dydd fe chwanegid at nifer yr argyhoeddedig. Ar un noson, daeth deg-a-deugain i dŷ y gweinidog, dan drallod meddwl am eu cyflwr, i ymofyn am gyfarwyddyd a dyddanwch; ac mewn ychydig wythnosau yr oedd tri chant o eneidiau wedi eu chwanegu at nifer y dysgyblion yn y lle hwnw. Ac nid eu dwyn i broffesu crefydd oedd yr unig effaith a gynyrchid arnynt; ond hwy a roddent brofion diymwad o argyhoeddiadau dyfnion, ac ymofyniad difrifol am ffordd iachawdwriaeth. Dangosent hefyd gywirdeb eu proffes, trwy rodio yn holl orchymynion yr Arglwydd, a glynu wrtho yn ddiwahan. "Ni welais erioed y fath gyffro," ebe Whitfield, gan gyfeirio at yr un amgylchiad, ehedai y cynwrf fel y fellten o un pen i'r gynulleidfa i'r llall. Chwi allech weled miloedd â'u dagrau yn llifogydd ar unwaith; rhai yn y cyfamser yn gwasgu eu dwylaw mewn trallod; eraill ar lewygu, ac eraill yn gwaeddi allan, gan alaru am wanu eu Ceidwad."

Nid yn Nghymru yn unig, ynte, y mae diwygiadau wedi bod: fe'u ceir hwy mewn gwledydd eraill hefyd. Fe'u ceir yn mysg dynion gwahanol eu tymherau a'u dygiad i fyny, i'r Cymry. Mae'r Ysgotiaid yn gyffredinol yn bobl bwyllog, ac o dymherau gwastad; y maent hefyd dan ryw gymaint o addysg o'u hieuenctyd; ond er hyn i gyd, gwnaed hwythau yn ddeiliaid adfywiadau cyffelyb i'r rhai a welwyd yn Nghymru. Fe ddichon, mae'n wir, fod i dymherau gwahanol, a dygiad rhai i fyny, ran fawr yn ffurfiad yr agweddau corfforol, pan fyddo un yn profi y dylanwadau; ac oddiar hyn, fe allai, yn nghyda graddau y gweithrediadau a brofir, y cyfyd y gwahanol ddulliau corfforol. Delir rhai megys â syndod; prin y sylwant ar ddim a gymer le o'u hamgylch, gan rym y gweithrediadau tufewnol. Eraill, dan yr un a'r unrhyw weithrediadau, a dorant allan mewn wylofain, dagrau, a llefau. Rhai a ymliwiant yn eu hwynebau, a rhai a syrthiant i lewygfeydd, trwy geisio ymattal. Y mae buchedd, ac agwedd flaenorol y gwrthddrych, yn