duol, ac i ddybenion arbenig, y fath amlygiadau o hono ei hun, a'r fath brofiad o bethau'r efengyl, ag a fyddo yn anmharu, ac am dymhor yn bylchu, gweithrediad y synwyrau corfforol. Ac os yw y gosodiad hwn yn gywir, paham y gwedir y cymhwysder o hono yn y naill amgylchiad, mwy nag mewn amgylchiad arall? Os nad oedd anghysondeb yn yr oruchwyliaeth a wnaeth Daniel yn glaf enyd o ddyddiau, paham yr honir fod anghysondeb yn yr un a bâr i Gymro, ar ryw achlysuron neillduol, lewygu gan ofn, neu lefain allan o wir lawenydd?
Mi a ewyllysiwn adgoffa eto i'r darllenydd, nad yw y tywalltiadau grymus, y fath a gafwyd yn y dywysogaeth lawer gwaith yn ystod y can mlynedd diweddaf, ddim wedi eu cyfyngu o fewn cenedl y Cymry; ac mai nid yn eu mysg hwy yn unig y gwelir yr ystumiau corfforol yr achwyna rhai gymaint yn eu herbyn. Ymweliadau ydynt ag sydd wedi ymddangos yn eglwys Dduw, ac wedi eu cymeradwyo gan y saint, mewn gwahanol wledydd ac oesoedd. Peth arferol yn Scotland, tua'r fl. 1625, oedd cario lluaws allan o'r tŷ addoliad, mewn llewygfeydd gan argyhoeddiad, y rhai a brofasant eu hunain yn Gristionogion dysglaer a defnyddiol dros eu hoes. Darllenwn fod llawer o wrandawyr Farel a Vinet yn Ffrainc, wedi profi y fath nerthol ddylanwadau, ag a'u hanghymhwysai dros dymhor i ddylyn eu galwedigaethau. Yn Iwerddon hefyd, yn y fl. 1628, rhoddwyd tywalltiadau cyffelyb, pryd yr oedd y mwynhad o gysuron yr efengyl mor fawr, a'r amlygiadau o gariad Crist mor rymus, ag i lawer ymattal oddiwrth fwyd, a diod, a chwsg, am dymhor, ac ni theimlent chwaith yr anghen am danynt. Peth cyffredin dan weinidogaeth y dyn hynod hwnw, John Rogers, o Dedham, oedd fod rhai o'i wrandawyr yn tori allan i lefain, nes y byddai gwaedd fawr yn y gynulleidfa.
Mae talaeth New England, yn America, yn nodedig am dywalltiadau o'r fath a nodwyd. Cawn hanes helaeth am danynt gan Jonathan Edwards, gŵr tra adnabyddus fel duwinydd dwfn ac iach,-gŵr nad oedd mewn un modd yn chwanog at ofergoeledd gorphwyllog,—gŵr a edrychai yn fanwl ar weithredoedd Duw, ac a wyddai lawer am serchiadau dyn. Rhydd y gŵr pwyllog hwn hanes dyddorol iawn am dywalltiadau rhyfeddol o Ysbryd Duw ar eglwysi lawer iawn, y rhai oeddynt cyn hyn mewn agweddau hynod isel a marwaidd. Daeth yr ymweliadau hyn ymron yn annysgwyliadwy, ac i raddau ymron yn anhygoel. Dynoethodd Duw ei fraich, a gwnaeth rymusderau. Parodd swn a chynwrf yn mhlith esgyrn sychion; gwisgodd hwy â chnawd ac â chroen, a rhoddodd anadl ynddynt, a chododd hwy ar eu traed yn llu mawr iawn. Tymhor ydoedd o lawenydd yn y nefoedd ac ar y ddaear. Os oes llawenydd yn ngwydd angylion Duw am un pechadur a edifarhao, pa fath a pha faint a fydd eu llawenydd pan ddygir miloedd i adael eu pechodau, ac i ddychwelyd at Fugail ac Esgob eu heneidiau? Am eglwys Dduw yn y wlad hono, fe roddwyd iddi hi gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Yr Arglwydd a wnaeth iddi bethau mawrion; llanwyd ei genau â chwerthin, a'i thafod â chanu. Dychwelwyd ei chaethiwed, fel yr afonydd