Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/274

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn y de. Yr hon a fu yn hau mewn dagrau oedd bellach yn medi mewn gorfoledd; a gwiriwyd ynddi eiriau y Salmydd, "Yr hwn sydd yn myned rhagddo, ac yn wylo, gan ddwyn had gwerthfawr, gan ddyfod a ddaw mewn gorfoledd dan gludo ei ysgubau," Salm cxxvi. Mewn amgylchiadau dirif, disgynai y gair gyda'r fath rym ar y gynulleidfa, nes byddai y dorf ymron oll megys yn ymliwio ar unwaith. Ehedai y saethau llymion fel mellt, glynent yn nghydwybodau cannoedd ar unwaith, a pharent sobrwydd ac arswyd ar bob cnawd. Llawer o honynt a wir ddychwelid at Dduw. Yr oedd yr effeithiau cyffredinol mor rymus, fel na chlywid nemawr o ymddyddan ond am grefydd trwy y dref; gorchwylion bydol ymron wedi sefyll; dynion celyd a safent yn syn, gan fyfyrio pa beth oedd hyn. Llawer a flaenorent mewn drygioni—rhai na wrandawent ar na chynghor na cherydd—rhai a wawdient grefydd a chrefyddwyr—rhai nad "ofnent Dduw, ac na pharchent ddyn,"—a ddelid megys â gwŷs o'r nef, nes oedd y gwylltaf yn y fan yn dofi, a'r caletaf yn delwi gan fraw. Dynion o gymeriad gwael, ac ymddygiadau anfucheddol, a greid megys o newydd, a "Christ yn cael ei ffurfio ynddynt,' nes eu gwneuthur o hyn allan "yn oleuadau yn y byd." Plant bychain, y rhai y gellid meddwl eu bod yn analluog, o herwydd oedran, i gynwys dirnadaeth gyson am wirioneddau y Beibl, a ddysgid yn nirgelion teyrnas nefoedd, nes oeddynt yn syndod i'r byd; a channoedd o'r fath hyn a ddygid i brofi yn gyffelyb i'w gilydd ar yr un tymhor. Llawer hefyd o'r creaduriaid dirmygedig hyny, yr Indiaid a'r Negroaid, y rhai yr edrychid arnynt ymron fel anifeiliaid, a'r rhai oeddynt, mewn gwirionedd, ymron hwnt i gyrhaedd nac addysg na llywodraeth, yn cael eu cyneddfau wedi eu heangu megys yn wyrthiol, a'u dwyn i ymdeimlo, fel creaduriaid rhesymol, a phechaduriaid colledig, yn achos eu heneidiau. Dygwyd llawer o'r rhai hyn i ymhyfrydu yn ngwirioneddau goruchel trefn iachawdwriaeth, ac i orfoleddu yn Nuw, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.

Ond er mai am ddiwygiadau New England y soniasom uchod, rhoisom ddarluniad bras ac anmherffaith, megys o ddamwain, o ddiwygiadau Cymru hefyd. Cyffelyb yn eu nerth, eu dull, a'u heffeithiau, a fu llawer o ddiwygiadau y can mlynedd diweddaf, yn ngwlad ein genedigaeth.

Cyfaddefwn yn rhwydd, fod ûs gyda'r gwenith yn yr achos hwn, fel yn mhob gwaith da arall. Nid oes amheuaeth na cheir llawer o fwg, lle y bydd ychydig o dân. Gellir dysgwyl yn wir, gan faint ydyw ynfydrwydd a llygredigaeth y natur ddynol, a chan faint ydyw llid ac ystryw pyrth uffern, y ceid dynion, ar y tymhorau crybwylledig, yn rhedeg i eithafion; ac y byddai gorfrydedd, ofergoeledd, a sel anghymedrol, yn codi eu penau. Nid rhyfedd fydd os cawn ni fod lluaws o ddysgyblion yn myned yn eu hol, wedi ychydig amser. Gwelwyd llawer o egin gobeithiol iawn, yn poethi ac yn gwywo, gan wres rhyw brofedigaethau; ac am nad oedd iddynt wreiddyn, yn crino yn llwyr. Pan ddaeth Israel o'r Aifft, fe ddaeth llawer o bobl gymysg gyda hwy, y rhai oeddynt barod i droi yn ol ar yr achlysur cyntaf; felly hefyd yma, ennillwyd llawer gan rym yr argyhoeddiadau, a dylanwad y teimladau,