Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/279

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cyfeiria Mr. Charles at ddiwygiad arall, yr hwn oedd barhad ac ymeangiad, fe allai, o'r un yn ardaloedd y Bala, y crybwylla am dano uchod. "Yn ystod y flwyddyn ddiweddaf (sef 1793), amlygwyd grym hollalluog yr efengyl mewn modd tra gogoneddus, yn amrywiol barthau o'n gwlad. Barnwyf na fu erioed olwg mwy obeithiol arni. Y flwyddyn ddiweddaf, fe fu diwygiad mawr iawn a chyffredinol, trwy ranau helaeth a phoblogaidd yn sir Gaernarfon. Mewn ysbaid tri mis, dygwyd cannoedd i drallod yn achos eu heneidiau. Mi a deithiais, fis Mawrth diweddaf, trwy y rhan hyny o'r wlad; ac y mae yr olwg eto yn parhau yn wir hyfryd. O! fy anwyl Syr, swn hyfryd, ie, yn nghlustiau Duwdod ei hun, ydyw clywed pechaduriaid yn llefain wrth yr ugeiniau, "Pa beth a wnawn i fod yn gadwedig?" A dyma oedd y swn a glywais yn mhob cynulleidfa ymron, pan oeddwn yn ddiweddar yn myned trwy y rhan hyny o'r wlad. Yr un ydyw gwrthddrychau y gwaith yno ag yma yn y Bala,—plant a phobl ieuainc, o wyth a deg oed hyd yn ddeg-ar-hugain. Mae'r effeithiau hefyd ar y wlad yn gyffredinol yn dra chyffelyb diwygiad cyffredinol mewn moesau; cysondeb dyfalaf gyda moddion gras, yn ddirgel a chyhoedd; a syched am wybodaeth o Dduw, gwybodaeth o natur ysbrydol ac ymarferol."

Ymddengys hefyd fod enciliadau, mwy neu lai lluosog, yn cymeryd lle yn mysg deiliaid yr adfywiadau hyn. Y mae gwehilion i'r gwenith. Anfynych y ceir llawer o'r gwir, na fydd hefyd beth o'r gau. Cyfeiria Mr. Charles at hyn yn yr un llythyr, a dywed, "Yr ydym yma yn y Bala, trwy drugaredd, yn myned rhagom yn dda, a chenym lawer o achos diolch, er na chynysgaethir mo honom â'r ymweliadau hynod a gawsom ddwy flynedd yn ol. Mae y rhan fwyaf o'r rhai y cawsom radd o foddlonrwydd am eu dwys argyhoeddiad, mai nid dychryn dros amser ydoedd, yn dal eu tir yn hynod o dda. Ychydig o'r rhai hyn a gollasom. Ac y mae rhai nad oeddym yn cael cwbl foddlonrwydd ynddynt ar y dechre, yn dyfod rhagddynt yn dda. Nid oedd ar y dechre, hwyrach, ond gradd o fraw; eto, trwy y braw hwnw dygwyd hwy i wrando y gair, yr hwn yn raddol a effeithiodd arnynt, ac y maent yn awr yn aelodau gobeithiol yn yr eglwys. Mae y gwaith eto yn myned yn mlaen, er nad mor rymus a'r amser y cyfeiriwyd ato uchod. Yr ydym yn parhau i chwanegu ein rhif; mae ein cynulleidfaoedd yn para cymaint, os nad mwy nag erioed; ac fe ymddengys ar dymhorau, fod y gair yn effeithio yn anarferol."

Gan gyfeirio at yr adfywiad yn y Bala, fe ddywed yr enwog a'r duwiol John Newton:—"Mae yr adfywiad yn y Bala yn galw am ddiolchgarwch. Mae yr Arglwydd, yn ol ei ewyllys penarglwyddiaethol, yn awr ac eilwaith yn rhoddi tymhorau o sirioldeb o'r fath ag a dyn sylw llaweroedd. Ond hyd yma, y maent yn arferol o fod yn lleol, a thros amser. Yr wyf yn cofio un yn Scotland hanner can mlynedd yn ol. Yr helaethaf, tebygwyf, oedd yr un a gymerth le tua'r un amser yn America, ac a ymddangosodd gyntaf dan weinidogaeth Dr. Edwards, yn Northampton. Yn gyffredinol, fe wneir llawer o ddaioni ar y fath achlysuron nerthol, ond nid ydym i ddysgwyl yr