Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/278

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hamrywiaeth ol doethineb yr hwn sydd yn gweithio pob peth wrth gynghor ei ewyllys ei hun, ac yn eu hanwastadrwydd ol ei ben-arglwyddiaeth. Meddai Mr. Charles o'r Bala am danynt, mewn llythyr at gyfaill yn Scotland, yn y fl. 1792,—"Mai gwaith Duw ydyw, nid oes genyf un gradd o amheuaeth. Dwg i'w ganlyn bob prawf boddlonol a allem ei ddymuno, megys dwfn argyhoeddiad o bechod, cyfiawnder, ac o farn; cariad mawr at, a hyfrydwch mawr yn, ngair Duw, a gweddi, mewn ymddyddanion ysbrydol, ac ordinhadau dwyfol. Dyma'r pethau, yn neillduol mewn pobl ieuainc, sydd yn myned â'r lle a'r amser a dreulid gynt mewn pleserau a difyrwch gau. Nid oes dim chwareu telynau yn y gymydogaeth hon, er ys misoedd bellach, ond y telynau aur y sonia Ioan am danynt. Ac nid yn unig fe "ddygwyd y rhan hon i ddirmyg," ond fe'i llwyr ddinystriwyd. Mae y gareg fechan wedi dryllio ac wedi dinystrio y rhwystrau hudoliaethus hyn. Pell ydwyf, er hyn, o feddwl fod pawb a brofasant yr argraffiadau hyn wedi eu gwir ddychwelyd, gan ddylanwad achubol. Pe felly, fe fyddai yr holl wlad wedi eu dychwelyd; oblegid ar un adeg, nid oedd nemawr i'w cael na phrofasent argraffiadau arswydlawn o law yr Arglwydd ar eu meddyliau, yn peri daroganau ac ofnau am eu cyflwr tragwyddol mewn byd arall. Amser difrifol yn wir ydoedd! Ni welais erioed arddangosiad cywirach o agwedd meddyliau dynion yn nydd y farn, yn ol y cyflwr y byddant ynddo. Ni pharhaodd yr oruchwyliaeth hono ond ychydig wythnosau. Ond y mae gweinidogaeth y gair eto yn fywiol a nerthol; a deffroadau newyddion a gymerant le, ond nid mor lluosog ag ar y cyntaf. Hwyrach na wybyddir, hyd ddydd y farn, pa nifer o'r dychweledigion newyddion hyn sydd wedi eu dwyn i gyflwr cadwedig; nac ychwaith pwy ydynt. Ond hyd yma y mae genym achos i ddiolch am yr olwg dda sydd arnynt. "

Am ledaeniad pellach y gwaith, y mae yr olwg sydd ar y wlad yn dra hyfryd. Yn swyddi Caernarfon a Mon, mae y cynulleidfaoedd yn lluosog iawn. Mae miloedd lawer yn ymgynull wrth swn udgorn yr efengyl, ac yn gwrando gydag astudrwydd. Mae cyffroadau mynych hefyd. Ond mewn perthynas i ryw dywalltiad anarferol o'r Ysbryd, nid oes dim y pryd hwn ond mewn dau le, heblaw y sydd yn y gymydogaeth hon; ac yn y ddau le hyny, nid oes mo'r arwyddion amlwg o'r nerth anorchfygol, a'r eglurdeb goleu, ag sydd yma. Mae y son am yr hyn a gymerasai le yn yr ardal hon wedi deffro sylw yr holl wlad, ac wedi llenwi yr eglwysi yn mhob man ag ysbryd o ddiolchgarwch a gweddi. Gan mor ogoneddus y cychwyniad, parod ydwyf i feddwl ei fod yn rhagflaenu pethau mawrion. Mae'r eglwysi yn mhob man megys mewn gwewyr, ac ni allaf lai na dysgwyl y bydd mab gwrryw yn cael ei eni. Maent eisoes yn barod; gweddio, dysgwyl, a hiraethu, y maent am ei ddyfodiad.

"Gwnaeth Duw bethau mawrion eisoes i'r dywysogaeth. O fewn yr hanner can mlynedd a aeth heibio, y mae pump neu chwech o adfywiadau tra mawr wedi bod. Y wlad oedd yn mro a chysgod angau a welodd oleuni mawr. Rhodder i ni fyw i weled eto bethau mwy."