fedd y ddaear hon. Ad-daliad arianol oedd o flaen dychymyg "dynion y byd," a dyeithriaid oeddynt hwy i bob un o natur arall.
Yr oedd un Owain Siôn yn byw gerllaw Mallwyd yn sir Drefaldwyn, ar ddechreuad pregethu gan y Methodistiaid yno, yr hwn a ddangosai lawer o ffyddlondeb a charedigrwydd i achos yr efengyl, a'r hwn, ar yr un pryd, a lwyddai yn y byd, o leiaf llawn cymaint â neb o'i gymydogion; parodd hyn iddynt ddychymygu fod yn rhaid ei fod yn derbyn ad-daliad o rywle neu gilydd; a blin oedd ganddynt, gan awydd gwybod o ba le, a pha faint. Ar ryw ddiwrnod nodedig, cytunodd lluaws o honynt, ag oeddynt yn cydfedi mewn maes, i ofyn iddo. Yr oedd Owain Siôn ar y pryd wedi troi ei gefn, i fyned i oedfa a gynelid y diwrnod hwnw; ond ar ei ddychweliad yn ol at y medelwyr, gofynasant iddo, a ddywedai efe wrthynt y gwirionedd am un peth a ofynent iddo. Addawodd yntau na ddywedai gelwydd; ond yr atebai hwynt yn ddigêl, os gweddus iddo fyddai gwneyd hyny. Yna dywedent wrtho, fod rhai o honynt yn meddwl ei fod yn cael ugain punt yn y flwyddyn o Langeitho, neu o rywle arall, tuag at roddi bwyd a llety i bregethwyr, a phorfa i'w ceffylau; a gofynent, a wnai efe ddywedyd wrthynt pa faint, mewn gwirionedd, yr ydoedd yn ei gael. Atebodd yntau, mai hawdd iawn oedd iddo ddweyd y gwir wrthynt; ac mai y gwir oedd, nad oedd efe yn derbyn dim o Langeitho, nac un llan arall, nac ychwaith o un llaw ddynol; ond nas gallai ddweyd, er hyny, pa faint a dderbyniai o law "Meddiannydd y nefoedd a'r ddaear," yn ffordd ei ragluniaeth. Yr oedd yn ddigon adnabyddus, ar yr un pryd, fod gwên rhagluniaeth ar bob peth yn y Plas-uchaf, sef y tyddyn yr oedd Owain Siôn yn byw ynddo, a'i fod yn codi mwy o gynyrch, ac yn gwerthu mwy o enllyn, yn ol maint ac ansawdd y tir, na neb yn y cymydogaethau, er maint y draul a ddygai yn achos ei grefydd; ac mor amlwg oedd hyn, nes tynu sylw trigolion ei blwyf. Yr oedd perthynasau ei wraig yn dra anfoddlawn i'w gwaith yn ymyraeth â chrefydd, a mynych yr ymliwiai y fam â'r ferch, gan ddweyd, "Fy ngeneth anwyl, chwi fyddwch yn sicr o dori wrth roddi eich bwyd i'r crwydriaid sydd yn dyfod atoch, ac wrth roddi cymaint o'ch amser i wrando arnynt."
Yr oedd cymydog goludog i'r hen wraig, yr hwn oedd yn perchen tir ei hun, yn arfer ei chadarnhau yn y tyb hwn, gan ddarogan y byddent yn fuan wedi difrodi yr ychydig oedd ganddynt. Yn lle hyny, yn y gwrthwyneb y bu. Yr uchelwr a fethodd, er meddiannu tir yn ddiardreth, tra yr oedd Owain Siôn yn gallu ateb i'w ofynion yn rhwydd a pharhaus. Gwir a ddywedodd y gŵr doeth, "Rhyw un a wasgar ei ddâ, ac efe a chwanegir iddo; a rhyw un arall a arbed fwy nag a weddai, ac a syrth i dlodi."
Bu ei feistr tir, am ryw ysbaid, yn byw mewn rhan o'r tŷ. Yr oedd yntau hefyd yn atgas iawn wrth Owain a'i wraig o herwydd eu crefydd. Bygythiai yn fynych, ar bob rhyw esgus, eu troi o'r tyddyn; a hyny yn ddiau a wnaethai, oni bae y rhwym-ysgrif oedd gan Owain ar y tyddyn am nifer o flynyddoedd. Torai y gŵr boneddig allan yn aml i dyngu ac i regu yn eu clyw, o wir ddyben i'w poeni; a llawer gwaith pan gyfarfyddai â'r hen