llyfr, a digŵyn ganddynt dreulio punnoedd am y naill, pryd y gwrthodir y sylltau am y llall.
Yr oedd ymdrech yr hen bobl i gynal achos yr efengyl i fyny, mewn amgylchiadau o iselder a thlodi, yn ganmoladwy iawn. Nid llawer o'r cyfoethogion a alwyd; eithr Duw a ddewisodd, gan mwyaf, dlodion y byd hwn i fod yn gyfoethogion mewn ffydd. Hawdd y gallasai alw pendefigion at ei waith yn ngwahanol barthau y dywysogaeth, y rhai a fuasent yn ddigon galluogi gynal cymaint o biegethu ag oedd ar y dechre trwy holl Gymru; eithr "gwan-bethau y byd a etholodd Duw, fel y gwaradwyddai y pethau cedyrn; a phethau distadl y byd, a phethau dirmygus a ddewisodd Duw, a'r pethau nid ydynt, fel y didymai y pethau sydd." Gadawyd y mawrion, gan amlaf, i erlid, a galwyd y tlodion i ddyoddef. Nid oedd o blaid Methodistiaeth ond anwybodaeth, gwendid, a thlodi, ac yn ei erbyn y safai awdurdod, dysgeidiaeth, a chyfoeth; eto, llwyddo a wnaeth. Llestri pridd, yn wir, y rhoddwyd y trysor hwn ynddynt, fel y byddai godidogrwydd y gallu o Dduw, ac nid o honom ni. Gwnaeth yr Arglwydd yn Nghymru fel y gwnaethai lawer gwaith o'r blaen. Dewisodd yr Arglwydd Iesu ei ddysgyblion o blith dynion isel eu manteision a'u hamgylchiadau, ac a'u henwogodd hwy â grasau ei Ysbryd, ac nid cymaint â bendithion ei ragluniaeth, i ddangos mai nid o'r byd hwn y mae ei freniniaeth ef, ac mai nid cnawdol ydyw arfau ei filwriaeth ef. Mae yn wir y defnyddiai ddylanwad y cyfoethogion ar rai achlysuron, megys Nicodemus, a Joseph o Arimathea; a dysg y rhai dysgedig, megys Saul o Tarsus, i ddwyn o amgylch ei amcanion ei hun; eto, megys mewn ffordd o eithriad. Nid dyma ei reol gyffredin. Yn Nghymru hefyd, efe a alwodd ambell un cyfoethog at ei achos, a doniodd ambell un dysgedig; ond nid oedd y nifer ond bychan mewn cydmhariaeth. Yr oedd y .ifer mwyaf o lawer yn ddynion isel eu sefyllfa, er nad oeddynt. isel o gymeriad yr oedd eu tlodi a'u gras yn cydgyfarfod. Mae achos Duw yn Nghymru yn fwy dyledus i haelfrydedd y tlodion, nag i lawnder y cyfoethogion. Ni adawai llawnder y cyfoethog i'w berchenog gysgu; ond fe adawai i achos Mab Duw lewygu. Rhoes llawer Cymro neu Gymraes dlawd ei holl fywyd i ymgeleddu achos yr efengyl. Gallent ddweyd, fel Pedr ac Ioan wrth y gŵr cloff, "Arian ncu aur nid oes genym; ond yr hyn sydd genym, yr ydym yn ei roddi yn ewyllysgar i ti." Arbedent mewn cysuron, ie, mewn angenrheidiau personol, fel y byddai ganddynt beth i'w gyfranu at achos Mab Duw. A chawn lawer enghraifft nodedig o ofal Duw yn ei ragluniaeth am danynt hwythau.
Gan faint a wnai ambell un mewn ffordd o gyfranu, a chan lleied o niwaid a wnai hyny i'w hamgylchiadau bydol, fe gododd dychymyg yn meddyliau rhai, fod yn rhaid eu bod yn derbyn yn ddirgelaidd o ryw drysorfa anadnabyddus. Nid oedd ganddynt un ddirnadaeth y rhoddai neb ei eiddo i estroniaid am ddim; y cymerent y fath boen, ac y tynent arnynt y fath draul, heb fod iddynt ad-daliad o ryw le. A bychan y gwyddent hwy fod i'r dynion hyny fwyd i'w fwyta, a thrysorau i'w mwynhau, yn mhell uwchlaw dim a