Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/314

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a dywalltodd y blwch enaint gwerthfawr ar ben yr Iesu, y dywedir, "Pa le bynag y pregethir yr efengyl hon yn yr holl fyd, yr hyn a wnaeth hon hefyd. a adroddir, er coffa am dani," oblegid yr hyn a allodd hon, o gariad at Grist, "hi a'i gwnaeth." Mae enw llawer un tlawd a digyfrif gan y byd, wedi ei groniclo yn nghof-gelloedd y nef; ni fu yn werth gan ddynion, hwyrach, osod careg ar eu bedd, a'u henw arni: ond gwerthfawr yn ngolwg yr Arglwydd a fu eu marwolaeth; ac ar ddydd eu mabwysiad cyhoeddus, sef prynedigaeth eu corff, fe wneir arddelwad anrhydeddus o'u gwaith, o flaen lluoedd cynulledig nef a llawr.

Mae o fy mlaen ysgrif yn coffa am rai o'r fath a soniwn am danynt, y rhai a fynwesent y llafurus gariad a ddangosasant tuag at ei enw ef, ac a weiniasant i'r saint; ond y rhai, gan eu lluddias trwy farwolaeth, ni allant ei weini mwy. Un o'r fath yma oedd un Thomas Edwards, a fu byw am nifer o flynyddau yn Nghaergwrle, swydd Fflint. Troellwr ydoedd wrth ei gelfyddyd, a "hen lanc," fel y geilw y Gogleddwyr y cyfryw, sef dyn heb briodi. Cafodd hwn flas ar yr efengyl, rywbryd rhwng 1760-70. Dywedasom o'r blaen, y byddai y gŵr hwn yn arfer myned i Langeitho i ymofyn am bregethwyr i ddyfod i draethu gwirioneddau dwyfol i drigolion tywyll ei fro. Aeth un tro, medd ein hysgrif, i rywle yn y Gogledd, i wrando ar y Parch. D. Jones, Llangan; ac ar ol yr oedfa, gofynai iddo, "Pa bryd, Mr. Jones, y deuwch atom ni i Gaergwrle a'i hamgylchoedd ?" "Pan y deui di i Langan i geisio genyf," oedd yr ateb. Ymddengys y rhoddai Mr. Jones y cyffelyb ateb yn awr ac eilwaith, pan ofynid iddo am gyhoeddiad. Cymerodd Thomas ef ar ei air; aeth i Langan, dros 150 o filldiroedd, ar ei ddau droed, a chafodd gan y gŵr parchedig gyflawni ei addewid. Nid oedd un lle penodol yn yr ardal, ar y pryd, i gadw oedfaon, a'r erlid oedd drwm yn y wlad. Y dyn hwn, heb ei gymhell gan neb na dim, ond cariad gwresog ei fynwes at y Gwaredwr, ac heb ddysgwyl llai nag erlid ffyrnig am ei drafferth, o leiaf oddiwrth ei gydwladwyr, a gymerodd dir dan ysgrif-rwymiad am ei oes, ac ar ei draul ei hun a gododd gapel bychan, lle y cynelid y moddion o hyny hyd ddiwedd ei oes. Ni chafodd un gradd o gynorthwy tuag ato, ond pum swllt gan ŵr o'r enw Ithel Hill, o gymydogaeth arall. Arfer Thomas Edwards, neu Thomas y troellwr fel y gelwid ef, pan ddeuai pregethwr dyeithr trwy y wlad, oedd ei ddylyn o oedfa i oedfa, tra y parhâai ei arian; yna dychwelai at ei alwedigaeth, hyd nes y deuai gŵr dyeithr arall; ac fel hyn y gwnai dros amryw flynyddau.

Gŵr cadarn o feddwl, a chryf o gorff, oedd y troellwr, medd yr hanes; a da iawn ei fod ef felly, dan yr amgylchiadau terfysglyd a berthynent i'r Cradociaid y dyddiau hyny. Ffynai y duedd i erlid y crefyddwyr yn fawr yn mhob man, ond nid yn unlle yn fwy nag yn Nghaergwrle. Gan hyny, pan ddeuai gŵr dyeithr heibio i bregethu yn nghapel y troellwr, efe ei hun a safai wrth y drws, i gadw y terfysgwyr mewn trefn; a llawer ymdrechfa galed a fu rhyngddo â hwy oddiallan, tra y byddai yr ychydig bobl yn ceisio addoli oddimewn. Mewn ychwanegiad at ei lafur dirfawr yn ymofyn am