Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/315

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wŷr i bregethu i'w gymydogion, a'i ddyfalwch i wrando pregethau, yn mhell ac agos, defnyddiai bob adeg yn mhob man, mewn ymddyddanion personol, i rybuddio a chynghori ei gyd-ddynion. Dywedai yn ffyddlawn wrthynt am eu perygl mawr, a thaer erfyniai arnynt ddefnyddio moddion gras, a ffoi at yr unig Waredwr.

Trigianai teulu gerllaw iddo, o gymeriad moesol a pharchus, yn ol eu gradd, ond hyd yn hyn yn ddyeithriaid i wir grefydd. Cynwysai y teulu hwn nifer o frodyr, a dwy chwaer. Cyfarfyddai yr hen lanc yn fynych â'r naill neu y llall o'r brodyr hyn, ac â'r chwaer ieuangaf; a phob amser, a chyda difrifwch mawr, cynghorai hwynt i ystyried eu diwedd, gan alw eu sylw at y pethau a berthynent i'w heddwch. Bendithiodd Duw ei amcan, ac ennillwyd y chwaer, a dau o'i brodyr, i ddyfod yn gyntaf i wrando, a thrachefn i ymuno â'r bobl ddirmygedig, gan ymgysegru o galon i fod yn eiddo yr Arglwydd. Fel hyn, cafodd yr anrhydedd a'r hyfrydwch o weled, cyn ei farw, fod iddo gyfeillion a wir ofalent am achos yr efengyl yn y lle, ar ol ei ymadawiad. Ac felly hefyd y bu. Ar ol ei farwolaeth, cymerodd Dorothy Ellis, chwaer y brodyr uchod, y capel bychan dan ardreth, a daeth o fysg ei thylwyth i fyw i'r pentref, gyda'r unig amcan i wasanaethu achos yr efengyl. Y Dorothy Ellis hon ydoedd y ddiweddar Mrs. Peters o Gaergwrle, am yr hon a'i theulu y bydd genyf eto air i'w ddweyd yn hanes sir Fflint. Mae hanes ac enw Thomas y troellwr ymron yn hollol anadnabyddus i Fethodistiaid sir Fflint; eto, fe anrhydeddwyd y creadur disylw hwn gan y Duw mawr, trwy ei wneuthur yn ddolen yn y gadwen i wneuthur ei enw yn hysbys i filoedd o breswylwyr swydd Callestr.

I ddangos yr ysbryd aiddgar a deffro oedd yn ffynu yn mynwesau yr hen bobl hyny y rhoddwyd iddynt weled gogoniant y Cyfryngwr, ac i wasanaethu ei achos ar ddechreuad y diwygiad Methodistaidd yn Nghymru, ysgrifena hen ddysgybl, yr hwn sydd weithian yn tynu at ei 75 mlwydd oed:

"Yr oedd fy anwyl fam yn aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, er pan wyf fi yn cofio dim. Nid oedd yr un cyfarfod eglwysig ganddynt yn y plwyf, sef plwyf Llandechwyn, yn agos i Maentwrog, swydd Meirion, tra y bu fy rhieni yn byw yno.--Nid oedd ond un arall, sef Catarine, gwraig Hugh Lunt, o'r Garthbur. Yr oedd y ddwy yn hynod o hoff o'u gilydd, ac yn ymweled yn fynych y naill â'r llall; a thestyn eu hymddyddanion, a sugn eu difyrwch, a fyddai Iesu Grist, a'r pethau perthynol i'w deyrnas. Ai y ddwy gyda'u gilydd trwy y traeth, er mawr berygl bywyd, i'r unig society a gedwid yn y fro, sef mewn plwyf arall. Nid wyf yn cofio pa mor fynych y cedwid y cyfarfod eglwysig, fe allai bob dau neu dri mis; a mawr fyddai gofal ac awyddfryd y ddwy chwaer i fyned iddo. Ni wnai na thywydd na thywyllwch y nos eu hattal, er fod ganddynt draeth i'w groesi; a byddent weithiau hyd eu gwasg mewn dwfr, a hyny wedi nos. Eto, gan faint mwynhad a roddid iddynt yn y cyfarfodydd eglwysig, yr oedd pob graddau o ofn yn diflanu. Ond un tro, buasai y ddwy wedi boddi yn ddilai, wrth anturio dychwelyd trwy y traeth, oni buasai i ragluniaeth ofalus y nef drefnu