Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/334

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn dda am wrthwynebiad ei meistres i wrando y Cradociaid; eto, eiddigeddai dros ei llesâd ysbrydol, ac ni allai ymattal heb anturio eilwaith i'w hannog i ddyfod i wrando. Ysbîodd ei mantais, pan oedd calon ei meistres yn delwi mewn braw, gan ofn y tywyllwch a ddaroganid. Dywedai wrthi hefyd, fel rheswm chwanegol, mai offeiriad wedi cael urddau yn eglwys Loegr oedd y gŵr dyeithr a ddysgwylid, a chrefai yn daer ar ei meistres i fyned i'w wrando am unwaith.

Ni chymerai Siân Lewis arni fod annogaeth y llances yn meddalu dim ar ei chalon; ac ar yr un pryd, o'r neilldu wrth ei chyfeilles Miss Guines, hi a arwyddai radd o duedd i gael clywed y dyn dyeithr. Yr un modd hefyd y teimlai y ferch ieuanc, a chytunasant ill dwy yn ddystaw i fyned i'r fan ar yr amser gofynedig. Ond rhag i neb ddychymygu mai i wrando y pengrwn yr aent, penderfynasant gymeryd bob un ei cheffyl, ar yr hwn y gosodent edafedd, fel yr ymddangosai i bawb a ddygwyddai eu gweled, mai i dŷ y gwehydd yr aent, tŷ yr hwn oedd o'r tu arall i'r Rhosddu. Daethant i'r fan pan oedd y pregethwr yn cymeryd ei destyn; a chlywodd y ddwy fenyw y geiriau fel yr oeddynt yn cyrhaedd y lle, ond ni allent fyned yn mhellach. Glynodd y geiriau yn nghalon y ddwy, a rhwymwyd hwy mewn astudrwydd o ddifrif i wrando yr holl bregeth; ond dychwelasant adref wedi anghofio tŷ y gwehydd, â saeth argyhoeddiad yn gwaedu eu calonau. Daeth eu sefyllfa golledig i'r golwg, a chododd yr ymofyniad pwysig, "Pa beth a wnawn fel y byddom gadwedig?" yn eu mynwesau gyda phryder ac ofn. O hyny allan, ennillwyd y ddwy i fod yn ddylynwyr Mab Duw, yn mysg y bobl druain dlodion ag oedd yn gobeithio yn enw yr Arglwydd yn Lleyn. Bu y ddwy yn famaethod ffyddlawn i achos yr efengyl yn y wlad hôno, hyd ddiwedd eu hoes. Dywedir mai yn nhŷ y Siân Lewis hon, y cadwyd y cyfarfod eglwysig cyntaf yn y parth hwnw o'r wlad. Cyfarfu, fel y gellid dysgwyl, â'i rhan o waradwydd ac erlidigaeth y tymhor; trowyd hi allan o'i thyddyn yn mhen rhyw gymaint o amser; eto, gofalodd rhagluniaeth am iddi gael tyddyn gwell yn ei le. Wedi iddi ail briodi, cynygiwyd i'w gŵr faes helaeth yn chwanegol at ei dyddyn, a hyny heb un ychwanegiad at yr ardreth, os efe a beidiai â gwrando y Methodistiaid. "Syr," ebe yntau wrth y gŵr boneddig, "pe rhoddech i mi Madryn i gyd am ddim, ni newidiwn fy nghrefydd." Synodd y boneddwr yn fawr at ei ateb; canfu ei ddianwadalwch penderfynol; a thybiodd mai mwyaf diogel iddo a fyddai gadael iddo ryddid ei gydwybod: felly ni ynganodd air wrtho mwyach. Yr oedd Siân Lewis yn un o'r rhai a aent i Langeitho i wrando, ac i ymofyn am gyhoeddiadau brodyr y Deau i ddyfod i'r Gogledd: a chafodd y fraint o letya Daniel Rowlands, a gwŷr enwog eraill, yn ei thŷ; ac wedi gwasanaethu ei chenedlaeth yn ol ewyllys Duw, hunodd mewn tangnefedd gyda'r tadau. Fel hyn ni a welwn i daerni y llances, ac ofn y diffyg a fyddai ar yr haul, wasanaethu fel achlysuron i ennill y gwragedd hyn at grefydd, y rhai a fuont yn eu tymhor o fawr ddefnydd i gynydd Methodistiaeth yn y rhan hòno o sir Gaernarfon.

Y mae yn orchwyl difyr a dyddorol i'r meddwl ystyriol olrhain y llwybrau