bellach, yn credu oblegid ymadrodd neb arall; ond wedi teimlo nerth yr efengyl yn ei brofiad ei hun.
Y mae yn syn trwy ba wahanol foddion, a than ba amgylchiadau neillduol, y dychwelwyd rhai o'r Methodistiaid henaf. Deuai rhai i swn y gwirionedd, megys o ddamwain, a rhai oddiar ddrwg-fwriad ac i ddrwg-amcan; ond heb yn ddysgwyl iddynt, ie, heb yn waethaf iddynt, bendithiwyd y gwirionedd, i fod iddynt yn wir droedigaeth. Dygid rhai i swn y weinidogaeth trwy ofnau coel-grefyddol, ac eraill oddiar gywreinrwydd, ac ysfa i glywed rhyw bethau newyddion;—amgylchiadau a oruwch-lywodraethwyd gan ddoethineb a gras Duw, i fod yn fendithiol iddynt yn y canlyniad.
Yr oedd yn Lleyn, yn sir Gaernarfon, wraig weddw o'r enw Siân Lewis o Fadryn, gyda'r hon y lletyai merch ieuanc o deulu dyeithrol, ac o gryn gyfoeth. Gelwid y ferch ieuanc yn Miss Guines, yr hon oedd yn etifeddes i amryw dyddynod yn y parth hwnw o'r wlad. Rywbryd, yn mlynyddoedd cyntaf Methodistiaeth yn sir Gaernarfon, dygwyddodd fod diffyg cyflawn ar yr haul i gymeryd lle ar ddiwrnod nodedig, a mawr oedd y pryder a'r braw a achosid trwy y daroganiad o hono yn mysg y lluaws; ac yn eu plith, yr oedd Siân Lewis a Miss Guines. Deallent y byddai gorchudd dros wyneb yr haul, ac y byddai mesur o dywyllwch ar y ddaear ganol dydd; parai hyn gryn lawer o ddifrifwch ac arswyd. Dygai yr amgylchiad i gof y trigolion fod Llywodraethwr mawr yn bod uwchben; ei fod yn sylwi ar eu gweithredoedd; ac y gelwid hwy i'r farn. Ie, edrychent ar y gorchudd a ddygid dros wyneb yr haul, fel arwydd o anfoddlonrwydd y Goruchaf tuag at drigolion y ddaear, ac yn rhyw ddaroganiad difrifol, pa ganlyniadau a ddylynai fywyd didduw. Yr oedd gan Siân Lewis lances yn ei gwasanaeth, o'r enw Gaunor. Byddai y llances hon yn arfer myned i wrando pregethwyr y Methodistiaid mor fynych ag y rhoddid cyfleusdra; a dangosai fwy o ymlyniad wrth eu gweinidogaeth hwy, nag wrth wasanaeth llan y plwyf, er dirfawr ofid i'w meistres. Fel yr oedd diwrnod y diffyg yn nesâu, yr oedd y braw yn cynyddu; a drwg iawn oedd gan Siân Lewis, a Miss Guines, ddeall, nad oedd dim gwasanaeth i gael ei gynal yn yr eglwys ar y diwrnod byth-gofiadwy hwnw. Prin y medrent ymattal rhag beio y gŵr parchedig am ei esgeulusdra a'i ddiofalwch. Wrth graffu ar eu penbleth, anturiodd Gaunor ddweyd wrth ei meistres, fod gŵr dyeithr o'r Deheudir i fod yn pregethu ar y Rhos-ddu ar y diwrnod tywyll hwnw; a gwnaeth mor hyf, ac eto yn lled wylaidd, i ofyn i'w meistres a'i gwestai i ddyfod i'w wrando. Cryn anturiaeth oedd hon i Gaunor; oblegid yr oedd hi eisoes wedi profi anfoddlonrwydd Siân Lewis, am ei bod hi ei hun yn myned i wrando y pethau dyeithr. "Oni bae dy fod di yn forwyn pur dda, Gaunor, ni chawsit aros ddiwrnod o dan fy nghronglwyd i," meddai ei meistres ar ryw achlysur blaenorol; a rhoes Gaunor dan rybudd, oni ddeuai hi adref erbyn naw o'r gloch yn yr hwyr, y byddai yn cael ei chloi allan. Methodd Gaunor unwaith a dychwelyd erbyn yr awr benodedig; cafodd y drws wedi ei gau, ac yn y daflod wair y cafodd hi lety y noson hòno. Ond er y gwyddai hi