Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/332

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mwyaf ei barch a'i gyfoeth yn y fro hono, sef y dywededig John Vaughan. Ystyrid ef yn un o'r dynion callaf yn yr holl wlad; y mwyaf medrus i drin y byd, ac i gasglu cyfoeth; a pherchid ef gan bob graddau, o fawr i fân. Yr oedd y gŵr hwn hefyd yn un campus am redeg ceffyl mewn rhedegfeydd, ac yn dra hoff o hyny. Cynelid y cyfryw redegfeydd bob blwyddyn y pryd hyny, ar forfa Towyn. Ni fyddai odid flwyddyn yn myned heibio, heb fod gan Mr. Vaughan geffyl i'w redeg ar y pryd; ac ond odid, nad efe a fyddai yr ennillwr. Ond dygwyddodd un tro, pan oedd ar ganol y redegfa, efe a glywai y ceffyl oedd tano yn gruddfan yn dost, ac yn ddisymwth daeth y geiriau hyn i'w feddwl: {{center block| <poem> "Bydd gruddfanau 'rhai'n ryw ddiwrnod, O'th flaen i'th boeni yn benaf pennod." {{center block| <poem> Yn y fan, ymattaliodd rhag curo yr anifail; ond gadawodd iddo fyned i'r pen mor araf ag y mynai. O hyny allan, gadawodd yr hen ddifyrwch gwag yn llwyr, ac am byth. Collodd bob pleser mewn gwagedd o'r fath yn hollol, a dechreuodd ymofyn am bleser na fyddai colyn ganddo; difyrwch a gymeradwyid gan y gydwybod, ac na adawai chwerwder ar ei ol. Dechreuodd bellach nesu at yr ychydig bobl ddirmygedig ag oedd yn ofni yr Arglwydd, ac yn meddwl am ei enw ef, yn yr ardal.

Yr oedd yr ymddarostyngiad yn ymddangos yn fawr iawn, i ŵr fel Mr. Vaughan ymuno â'r fath rai! Ymddangosai i lawer fel yn anmhosibl. Tybid ei fod yn rhy gall i hyny; a sicr ydyw y buasai yn rhy falch, oni buasai fod Ysbryd Duw wedi gosod ei law arno. Ond fe'i gwnaed ef yn ddysgybl gostyngedig yr addfwyn Iesu, a chyfrifwyd ef a'i wraig, a'u hunig fab, o hyny allan yn mysg yr ychydig broffeswyr. Yr oedd dychweliad gŵr mor gyfrifol a Mr. Vaughan at grefydd, yn foddion effeithiol i osod gradd o urddas a bri ar grefydd yn ngolwg y rhai a edrychent yn unig ar ymddangosiad pethau, ac a farnent yn ol y golwg. Nid bychan oedd y syndod ei weled ef, yn anad neb, yn troi yn Fethodist; eto felly y bu, a pharhaodd yn ffyddlawn hyd ddiwedd ei oes. Byddai ef a'i deulu yn mhob moddion yn gyson a phrydlawn. At yr amser yn gymhwys, ceid ei weled ef, a Mrs. Vaughan, a'u mab, yn cychwyn oddiwrth y tŷ; ac yn fuan ar eu hol gwelid yr holl weinidogion yn fintai fawr gyda'u gilydd, a hyny ar unrhyw awr o'r dydd, neu unrhyw ddydd o'r wythnos, neu unrhyw wythnos o'r flwyddyn. "Mae yn rhaid fod rhywbeth mawr mewn crefydd," meddai ei gymydogion, "onide ni wnai gŵr mor gall a Mr. Vaughan mo hyn." Yr oedd yn ŵr tirion a chymydogol, a phob amser yn barod i wneuthur cymwynas i'w gymydogion. Yr oedd ei hynawsedd yn foddion i ystwytho rhai a fuasent yn rhy gyndyn i ystwytho dan oruchwyliaeth arall, i'w hennill i ddyfod i wrando yr efengyl. Fel hyn yr ystwythwyd Owen Evans o'r Tyddyn-meirig, i ddyfod i wrando. Bob amser y ceisiai Mr. Vaughan ganddo ddyfod, fe ddeuai, nes o'r diwedd iddo adnabod a phrofi grym a nerth y gwirionedd ei hunan. Nid oedd,