Tudalen:Methodistiaeth Cymru Cyfrol I.djvu/331

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"John Pierce," ebe hithau. "oedd ei enw."

Wedi hyn o ymddyddan, aethant i orphwys; ond ni allai y gŵr orphwys ar hyd y nos. Ac ar waith y wraig yn gofyn iddo, paham na allai gysgu, efe a ddechreuodd ddweyd wrthi ei holl helynt, a'i fod bellach yn meddwl mai efe oedd y dyn gwaethaf o holl ddynion y ddaear;—ei fod wedi ofni fod gan y pregethwr fwriad i anfon rhywun i'w ddal, "canys," ebe efe, "y mae yn adnabyddus o'm holl droion, ac a'u dynoethodd yn ei bregeth."[1]

Hawdd dychymygu pa fath lawenydd a barai yr argoelion hyn i Margaret, am y gobeithiai, nid yn unig fod y gwaith da wedi ei ddechreu ynddo ef, ag a fyddai yn iachawdwriaeth iddo; ond hefyd, am y rhoddid sail iddi ddysgwyl ei gynorthwy a'i gymdeithas yn yr efengyl, yn lle difaterwch llwyr, neu yn wir wrthwynebiad mewn gradd, er nad yn gyhoeddus. Diamheu iddi wneyd ei goreu i'w gynorthwyo a'i gysuro dan ei ofnau presenol, gan ei gyfeirio yr "awr hono o'r nos" at Waredwr pechaduriaid, fel y gwnaethai Paul a Silas geidwad y carchar. Pan ddaeth cyfleusdra i gael oedfa arall, aeth y ddau gyda'u gilydd iddi, a thorodd Margaret allan, fel y gwnai yn fynych, i foliannu Duw, yr hwn, bellach, a roisai argoel newydd o'i ffafr iddi, yn nychweliad ei gŵr. Ond nid oedd Siôn eto yn barod i hyn. Tramgwyddodd yn dost wrth ei wraig, oblegid yr afreolaeth hwn o'i heiddo. Teimlai ei galon yn caledu tuag ati, ac yn ymgodi mewn gwrthwynebiad i'w chrefydd. Cafodd Margaret, gan hyny, beth trafferth i'w berswadio i ddyfod gyda hi eilwaith; ond pan y cafwyd oedfa drachefn yn Ogo'r-llychwyn, cydsyniodd i fyned gyda hi, ar yr ammod "na agorai hi mo'i genau" ynddi.

Yr oedd yr oedfa hon, fel y byddai oedfaon yn fynych y pryd hyny, yn rhoddi yn ehelaeth i ganlynwyr yr Iesu, a theimlai Margaret yn anmhosibl, ymron, i ymattal; eto, ymdrechai â'i holl egni i sefyll at y cytundeb a wnaethai â Siôn. Ond yn y cyfwng caled hwn, pwy welai Margaret â'i ddwylaw i fyny, yn gwaeddi yn groch, "Gogoniant," ond Siôn ei hun.

Y canlyniad a fu i Siôn Prisiart ymuno â'r ychydig gyfeillion a gyfarfyddent yn Ogo'r-llychwyn, ac a fu yn enwog ar ol hyny, fel diacon gofalus yn Mhenrhyn-deudraeth, hyd ei fedd. Yr oedd yn ŵr nodedig am ei lafur a’i ffyddlondeb crefyddol, a gadawodd dystiolaeth gref yn nghydwybodau ei gymydogion, ei fod, yn wir, yn ddyn duwiol.

Fe ddygwyddai weithiau y byddai gŵr a gyfrifid yn fwy ei barch a'i gyfoeth mewn ardal yn cael ei droi at grefydd, mewn modd mwy neu lai nodedig, a pharai hyn effaith ddaionus iawn ar eraill, i ddarostwng eu rhagfarn, ac i'w hennill i ddyfod i wrando yr efengyl; yn enwedig os byddai rhywbeth anghyffredin yn y dull a'r modd y dychwelwyd y cyfryw at grefydd, ac yn enwedig eto, os byddai yr un a alwesid felly yn ddysglaer ei grefydd, ac yn dda ei gymeriad fel gwladwr. Cawn enghraifft o'r cyfryw un yn John Vaughan, Ysw., o'r Tonfanau, nid yn mhell oddiwrth dref Towyn, sir Feirionydd. Nid oedd y crefyddwyr, y pryd hwn, ond isel a dirmygedig iawn; rhy isel, ymron, i neb wneyd sylw o honynt, oddieithr mewn ffordd o'u herlid a'u difrio. Yr oedd yn nghymydogaeth y Bwlch uchelwr cyfrifol yn byw, y

  1. Gwel tudal. 218.