y peth a barai effeithiau mor dda; barnent, bellach, mai celwyddog oedd y chwedlau a glywsent am danynt, ac mai tra creulawn oedd yr erlid a fu arnynt. Parai hyn wrthweithiad grymus mewn ardal neu fro; lle y gwaradwydd a'r erlid, dangosid parch a charedigrwydd.
Dygwyddai weithiau fod dychweliad un at Dduw, a'i ymuniad â'i bobl, yn cael ei achlysuro trwy ddrwg-dybiaeth, fel y gwelir wrth yr hanesyn a ganlyn. Yr oedd gŵr a gwraig yn byw mewn tyddyn a elwir Hafod-y-mynydd, nid yn mhell iawn oddiwrth y Wern, lle y bu y parchedig a'r enwog Richard Jones yn byw am lawer o flynyddoedd ar ol hyny. Enw y gŵr oedd John Pritchard, ac enw y wraig oedd Margaret. Nid oedd John yn grefyddwr, ac nid oedd chwaith yn erlidiwr. Yr oedd ef yn mhlith y dosbarth hwnw a adawai i eraill wneyd a fynent gyda chrefydd. Ond nid hir y gadawyd ef i aros ar y tir canolig hwn. Un tro, parotoai Margaret i fyned i wrando pregeth, ar ryw noswaith, i le a elwid Ogo'r Llychwyn, neu Ogof-y-Llechwedd. Teimlai y gŵr y pryd hwn yn dra anfoddlawn iddi fyned, ac arferai ei holl ddawn a'i ddylanwad i'w hattal, am y cwynai hi lawer drwy y dydd ei bod yn wael ei hiechyd. Ond pa fodd bynag, aflwyddo a wnaeth, er ei holl daerineb, a myned a wnaeth Margaret i'r oedfa. Ar ol iddi gychwyn, syn-feddyliodd yntau ynddo ei hun, pa beth a allai beri y fath attyniad ynddi at y cyfarfod, a pha beth a allai fod yn cymeryd lle yn eu mysg pan gyfarfyddent; a diau i lawer o feddyliau tywyll a drwg-dybus groesi ei fyfyrdod ar hyn o bryd. Penderfynodd fynu gwybod; ac yn fuan dylynodd ar ei hol. Daeth yn lladradaidd at y tŷ y cyfarfyddid ynddo, agorodd y drws, a llithrodd yn llechwrus i mewn, ac yn ddystaw gwrandawai pa beth a ddywedid. Darluniai y pregethwr nodau duwioldeb, pa fath oedd ei ffrwythau, a phwy a pha fath oedd y rhai amddifaid o honi. Yna gwasgai y mater yn ddwys at ei wrandawyr, gan fynych ymofyn, "A wyt ti felly ?" Teimlodd Siôn Pritchard rym y gwirionedd yn ymaflyd yn ei gydwybod, a deffrowyd ef i ystyriaeth ddwys o'i sefyllfa beryglus. Ar ol y bregeth, llithrodd allan yn ddirgelaidd, a phrysurodd adref. Cyn hir, cyrhaeddodd y wraig hefyd ei chartref, a chafodd Siôn yn eistedd yn ben-syn wrth y tân. Tybiai y wraig fod ei wynebpryd wedi syrthio, a bod arwyddion tristwch ar ei wedd; ond ni wyddai hi yr achos. Yn mhen enyd gofynai iddo, "Siôn, a ydych chwi yn sâl heno ?"
"Nac ydwyf," ebe Siôn.
"A ddarfu i chwi fwyta eich swper?" gofynai y wraig.
"Naddo," ebe yntau; ac yn mhen enyd gofynai i'r wraig, "Pwy oedd yn dyfod gyda thi at y tŷ heno ?"
"Nid oedd neb gyda mi," atebai y wraig.
"Mi feddyliais fod rhyw un gyda thi," ebe Siôn.
"Yn sicr," ebe y wraig, "nid oedd neb."
"Pwy," ebe yntau, "oedd y pregethwr y buost ti yn ei wrando ?"