PENNOD VII.
TROEDIGAETHAU HYNOD YN FODDION CYNYDD Y CYFUNDEB
CYNWYSIAD:—
EFFEITHIAU DYCHWELEIAD DYNION O HYNODRWYDD—DRWG-DYBIAETH YN ARWAIN I DROEDIGAETH JOHN PRITCHARD—TROEDIGAETH HYNOD MR. VAUGHAN O'R BWLCH—DIFFYG AR YR HAUL YN ACHLYSUR ARGYHOEDDIAD SIAN LEWIS, LLEYN, A BONEDDIGES IEUANC O'R ENW GUINES—TROEDIGAETH HYNOD GWR YN AGOS I FELIN-Y-WIG, SIR DDINBYCH—TROEDIGAETH MRS. DAVIES, LLANARMON, A JOHN WILLIAMS, LLANEURGAIN—IARLLES HUNTINGTON A'I GARDDWR.
MEWN amser yr oedd cymaint o ragfarn yn erbyn y Methodistiaid; ac mewn amser yr oedd eu nifer mor ychydig; yr oedd sylw neillduol yn cael ei wneyd o bob un a ymunai o newydd â hwy. Yn gyffredinol, nid ymunai neb â hwy heb brofi gorchwyliaeth ddwys ar eu meddyliau. Yr oedd y gwarth a roddid arnynt mor fawr, a'r rhagfarn yn eu herbyn mor rymus, fel na ellid dysgwyl i neb fwrw ei goelbren yn eu mysg, oddieithr ei fod wedi yfed yn gryn helaeth o'r un ysbryd. I gyfarfod â'r amgylchiadau hyn, yr oedd dynion yn profi argyhoeddiadau llymion iawn, i'r dyben i'w lladd yn drwyadl i'w henwau a'u hesmwythder eu hunain; ac fel yr oedd eu gorthrymder yn amlhau, felly hefyd yr oedd eu dyddanwch. Bendithid y weinidogaeth mewn modd arbenig iawn, i archolli pechaduriaid trwy argyhoeddiadau dyfnion, ac i iachâu y trueiniaid a obeithient yn yr Arglwydd, trwy eu lloni â dyddanwch annhraethadwy a gogoneddus. Yr oedd y dull disymwth a hynod y gelwid pechaduriaid hefyd mewn llawer amgylchiad, yn foddion arbenig i achosi llwyddiant y diwygiad. Gwelid effeithiau mor amlwg a hynod ar ddynion anystyriol a chaled, nes peri argraff ar feddyliau edrychwyr, mai bys Duw a wnaeth hyn. Fel ag y gogoneddwyd gallu a gras Duw yn nychweliad Saul o Tarsus, pan y clywent ef yn pregethu y ffydd yr hon gynt a anrheithiasai; felly y gwneid yn Nghymru. Rhyfeddai trigolion llawer ardal, pa beth a barodd i erlidiwr caled a chyhoeddus, adnabyddus iddynt, roddi ei arfau i lawr mor ddisymwth, ebrwydd, a llwyr. Safent yn syn i edrych ar y fath weledigaeth hynod. Ni allent amgyffred pa fodd y dygid rhai, ag oeddynt yn cablu y crefyddwyr gyda ffyrnigrwydd ellyllon, ychydig amser yn ol, i ymuno â hwy mor ebrwydd. Gwyddent yn dda, nad oedd nac enw nac elw bydol i'w ddysgwyl; nid oedd un demtasiwn i ragrithio, gan mai y wobr a ddysgwylid oedd y gwaradwydd a'r golled. Disgynai argyhoeddiad, gan hyny, i feddwl llawer un, trwy droedigaethau nodedig eu cydnabod, a'u hen gyfeillion, mai llaw Duw oedd arnynt, ac mai nid twyll oedd ganddynt. Parai fod troedigaeth ambell un uchel ei sefyllfa, neu tra hynod ei ddrygioni, fath o arswyd i ddisgyn ar gwmwd neu fro, nes byddai nid yn unig yr erlid yn diflanu, ond ymofyniad astud yn cyfodi yn nghylch y "ffordd hon." Dygai hyn y crefyddwyr i sylw yn fwy nag o'r blaen. Parai hyn ymchwiliad mwy i'w hegwyddorion a'u buchedd. Ac wrth ganfod y cyfnewidiad er gwell yn muchedd ac ysbrydoedd y dychweledigion, collai rhagfarn yn eu herbyn ei rym, a phenderfynent mai nid drwg