ar y cynllun am ryw amser, a chael allan y byddai defnyddiad cyffredinol o hono trwy y deyrnas o fuddioldeb diamgyffred, galwyd sylw y wladwriaeth at y cynllun trwy yr argraffwasg, a chipiwyd y peth i fyny gan laweroedd, y rhai a ymroddent i wneyd prawf o hono mewn manau eraill. Dyma gychwyniad yr ysgolion Sabbothol!
Nid hir y bu Mr. Charles mewn undeb â'r Methodistiaid, cyn iddo ymdrechu gosod y cyffelyb ysgolion i fyny yn Nghymru. Mewn gwirionedd, yr oedd ef eisoes gyda'r gwaith, ond mewn ffurf arall; ac nid oedd ond cam bychan o'r ysgolion ag oeddynt eisoes ar droed ganddo, at roddi y cyffelyb addysg ar y Sabboth hefyd. Wedi gweled y ffrwyth da a gynyrchid trwy yı ysgolion dyddiol a chylchynol, llosgai ei feddwl gan awydd i eangu maes ei lafur, ac i ddefnyddio y Sabboth hefyd i roddi addysg ysgrythyrol i drigolion ei wlad trwy ysgolion. Llwyddodd yn gyntaf gyda'r athrawon ag oeddynt yn nghyflog ganddo eisoes, y rhai hefyd oeddynt awyddus fel yntau i ledaenu y wybodaeth am Dduw i'w cyd-ddynion, i addaw cyfranu addysg ar ryw adeg o'r dydd Sabboth hefyd. Ennillodd eraill yn raddol i ymuno yn y gwaith hwn, mewn gwahanol ardaloedd. Cafodd y rhai hyn hyfrydwch eu hunain yn y gwaith o addysgu rhai eraill, amlhaodd nifer yr ewyllysgaryddion hyn yn feunyddiol, a lluosogodd nifer yr ysgolion, a'r ysgolorion yn gyfatebol, nes britho y wlad â'r mân athrofeydd hyn.
Defnyddiai Mr. Charles bob adeg a roddid iddo, i ddwyn yr ysgolion hyn dan sylw ei frodyr: niesgeulusai un cyfarfod misol, neu chwarterol, heb osod yr achos gerbron, gan annog yn y modd gwresocaf a mwyneiddiaf, ar fod i bawb yn y lle roddi eu hanadl o blaid y gwaith, a bod o bob cymhorth iddo. Ar y dechre cyfarfu a pheth gwrthwynebiad: tybiai rhai y byddai addysgiad y plant ac eraill ar y Sabboth, yn halogiad arno: yr oedd hefyd yn ysgogiad newydd, ac nid hawdd ydyw cael gan hen feddyliau ddygymod a chynlluniau newyddion. Gwell oedd gan eraill fyned yma ac acw ar y Sabboth i wrando pregethau, nag ymosod yn egniol a llafurus at y gwaith caled o ddysgu plant, a phobl oedranus, i ddarllen y Beibl. Derbyniai Mr. Charles y gwrthwynebiadau hyn mewn addfwynder mawr, gan gyfarfod â phob ymresymiad, a symud pob esgus, nes o'r diwedd iddo ennill ei frodyr, ymron oll, i osod eu hysgwyddau dan yr un gwaith. Cododd ysgolion Sabbothol yn gyflym ar bob llaw. Yr oedd yr ysgolion dyddiol a chylchynol eisoes wedi dysgu i lawer ddarllen, y rhai oeddynt, bellach, yn abl acewyllysgar i ddysgu eraill. Buasai yn anhawdd iawn gynt gael neb mewn ardal yn alluog i ddarllen; ac felly, pa fodd y cawsid athrawon? ond yn awr, yr oedd cannoedd lawer eisoes wedi dysgu darllen y Beibl Cymraeg yn dda, y rhai oeddynt yn awr yn troi allan i fod yn ddefnyddiol ar y Sabbothau. Parhaodd yr ysgolion dyddiol a chylchynol i gydweithredu â'r ysgolion Sabbothol dros lawer o flynyddoedd. Meddai Mr. Charles, wrth ysgrifenu at gyfaill a gynorthwyai i gynal yr ysgolion dyddiol, yn y fl. 1803: -" Mae'r ysgolion mor llwyddiannus ag erioed, a gwneir, tybygwyf, lawer o ddaioni trwyddynt yn ein gwlad, mewn manau y buasai llawer o honynt mewn tywyllwch hollol hyd